Tudalen 1 o 6

Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 5:32 pm
gan Duw
Fideo arbennig o dda (yn fy nhyb i) ar y gair "design" a pham ei fod yn gamarweiniol. Pwy fydde wedi dylunio 'dyn' i fod fel y mae? Dyluniad hurt, llawn gwalle. Os ydy dyn wedi'i ddyfeisio yn ol patrwm Duw ei hun, wel ni all Dduw fod yn berffaith.

Richard Dawkins yn siarad â Randolph Nesse.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 10:11 pm
gan Chickenfoot
Mae Carl Sagan yn son am y math yma o beth hefyd. Soniodd unwaith ein bod ein planed ni reit ar diwedd ein galaeth, ac yn dtroi o gwmpas seren eithaf di-nod - sydd yn groes i'r syniad mai dyn yw canolbwynt y bydysawd. Wrth gwrs, mae o'n gwneud sylwadau canwaith yn well nac y buaswn i'n medru gwneud.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 11:06 am
gan ceribethlem
Nagyw e'n bryd fod rhyw nytyr (sydd a ffug enw yn dechrau gyda "r") yn ymuno a'r maes er mwyn datblygu hon mewn i epic ugain tudalen?

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 11:51 am
gan Mr Gasyth
Digwydd bod, ges i wers Ddarwinaidd diwrndo o'r blaen ar ymweliad a'r chiropodydd. Mae'n debyg mai'r rheswm fod cymaint o bobl yn cael problemau efo'u traed ydyn nad ydi'n traed ni cweit wedi dal fyny efo'r ffaith ein bod yn cerdded ar ddwy goes bellach gyda dwy droed yn gorfod dal pwysau peedair.Mae llawer o broblemau efo'r cefn yn deillio o'r un rheswm.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 4:42 pm
gan ceribethlem
Mr Gasyth a ddywedodd:Digwydd bod, ges i wers Ddarwinaidd diwrndo o'r blaen ar ymweliad a'r chiropodydd. Mae'n debyg mai'r rheswm fod cymaint o bobl yn cael problemau efo'u traed ydyn nad ydi'n traed ni cweit wedi dal fyny efo'r ffaith ein bod yn cerdded ar ddwy goes bellach gyda dwy droed yn gorfod dal pwysau peedair.Mae llawer o broblemau efo'r cefn yn deillio o'r un rheswm.

Hefyd y broblemau mae rhai menwod yn cael yn rhoi genedigaeth. Siap y pelvis yn galluogi cerdded ar dau droed, ond ddim yn hwyluso genedigaeth gan nad yw mor llydan.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 4:55 pm
gan dawncyfarwydd
Sut mae esblygiad yn mynd i sortio petha fel'na allan rwan ta? Dydi survival of the fittest ddim am weithio erbyn hyn, oherwydd does na ddim cymaint o gwffio hyd farw ymysg pobl. Ydi dynoliaeth wedi cyrraedd rhyw fath o bwynt lle mae ei datblygiad a'i gwellaint yn stallio? Does na ddim system erbyn hyn i chwynnu'r hil o'i haelodau llai datblygedig - mae datblygiad yn dibynnu ar ddetholiad naturiol, a hyd y gwn i mae pobl â phroblemau traed a chefn yr un mor blantgar â rhai sydd heb. (Gneud sens?)

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 5:28 pm
gan sian
ceribethlem a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Digwydd bod, ges i wers Ddarwinaidd diwrndo o'r blaen ar ymweliad a'r chiropodydd. Mae'n debyg mai'r rheswm fod cymaint o bobl yn cael problemau efo'u traed ydyn nad ydi'n traed ni cweit wedi dal fyny efo'r ffaith ein bod yn cerdded ar ddwy goes bellach gyda dwy droed yn gorfod dal pwysau peedair.Mae llawer o broblemau efo'r cefn yn deillio o'r un rheswm.

Hefyd y broblemau mae rhai menwod yn cael yn rhoi genedigaeth. Siap y pelvis yn galluogi cerdded ar dau droed, ond ddim yn hwyluso genedigaeth gan nad yw mor llydan.

Felly mae siâp y pelfis wedi esblygu ond y traed ddim?

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 5:42 pm
gan Mr Gasyth
sian a ddywedodd:

Mae'r traed wedi esblygu o'i cymharu a sut oedden nhw pan oedden ni ar ein pedwar, jest tydyn nhw dal heb gyrraedd pwynt lle mae nhw'n berffaith (beth bynnag fase hynny'n ei olygu). Go brin y byddan nhw byth yn berffaith gan mai prin anfantais traed fflat o ran atgenhedlu yn y byd sydd ohoni.

O ran y pelfis, mae ei siap presennol yn gyfaddawd rhwng yr angen i gerdded ar ddwy droed a'r angen i roi genedigiaeth - tydi o ddim yn berffaith ar gyfer y naill job na'r llall ond mae'n ddigonol ar gyfer y ddwy.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 6:05 pm
gan sian
Mr Gasyth a ddywedodd: tydi o ddim yn berffaith ar gyfer y naill job na'r llall ond mae'n ddigonol ar gyfer y ddwy.

Diolch am hynny!

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 8:37 pm
gan Mr Gasyth
sian a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd: tydi o ddim yn berffaith ar gyfer y naill job na'r llall ond mae'n ddigonol ar gyfer y ddwy.

Diolch am hynny!

Gyda llaw,un o'rrhesymau maeplant pobl yn cael eu geni mor anatblygiedig o'u cymharu a rhan fwyaf o famaliaid (meddylier am wyn bach sy'n gallu cerdded o fewn munudau i gael eu geni) ydi y byddai ei gadael hi lawer hirach yn golygu an fyddai'r pen, sydd yn gymharolfawr mewn pobl, yn ffitio drwy'r pelfis, sydd yn gymharol fach. Cyfaddawd arall esblygu.