ceribethlem a ddywedodd:Siarad am gwn yn breuddwydio, oes rhywun wedi gweld hwn?
Fi'n lico'r ffordd mae'n dihuno ar ol rhedeg mewn i'r wal, wedyn edrych yn conffiwsd! Mae'n ymddangos i fi fel pe bai'n meddwl "Ble aeth y gwningen 'na?"
Cymedrolwr: Rhys Llwyd
ceribethlem a ddywedodd:Siarad am gwn yn breuddwydio, oes rhywun wedi gweld hwn?
Chickenfoot a ddywedodd:Son am ymddygiad anifeiliaid, oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth dros eu "instincts" e.e. anifeiliaid anwes yn peidio gwneud rhywbeth rhag ofn i'w meistri gwylltio hefo nhw?
Duw a ddywedodd:Rydym yn dylunio anifail anwes ac yna newid trywydd esblygiad y rhywogaeth gan fridio detholus. Dyna bwer duwiol. Ydy hyn yn foesol? Dwi'n gwybod ein bod yn gwenud hyn gyda anifeiliaid fferm hefyd a gyda phlanhigion. Pa mor bell o beirianneg geneteg yw hyn mewn gwirionedd? Dwi'n gwybod y gwahaniaeth, ond sut ydy hyn yn dderbyniol a PG mor annerbyniol?

Mr Gasyth a ddywedodd:
tydw i'n gweld dim o'i le a pheiriannu geneteg
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:
tydw i'n gweld dim o'i le a pheiriannu geneteg
waw! am swiping stetment! mae o'n mynd ymlaen mewn gymaint o wahanol feysydd ac i ddibenion mor wahanol erbyn hyn, mae o'n anodd cyffredinoli os nag wti'n cytuno hefo pob sbectrwm - o newid genynnau dynolryw i blanhigion. ac ma'n anodd gweld dim yn bod arno fo eto, ella, am nad yda ni eto wedi gweld canlyniada'r newid mawr 'ma.
Mr Gasyth a ddywedodd:Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:
tydw i'n gweld dim o'i le a pheiriannu geneteg
waw! am swiping stetment! mae o'n mynd ymlaen mewn gymaint o wahanol feysydd ac i ddibenion mor wahanol erbyn hyn, mae o'n anodd cyffredinoli os nag wti'n cytuno hefo pob sbectrwm - o newid genynnau dynolryw i blanhigion. ac ma'n anodd gweld dim yn bod arno fo eto, ella, am nad yda ni eto wedi gweld canlyniada'r newid mawr 'ma.
digon teg. o ran egwyddor cyffdredinol sgen i ddim problem efo fo, er ma'n siwr fod yna amyglchiade ble nad ydi o'n briodol, fel er mwyn creu 'super-race' neu rywbeth
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai