sian a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:Digwydd bod, ges i wers Ddarwinaidd diwrndo o'r blaen ar ymweliad a'r chiropodydd. Mae'n debyg mai'r rheswm fod cymaint o bobl yn cael problemau efo'u traed ydyn nad ydi'n traed ni cweit wedi dal fyny efo'r ffaith ein bod yn cerdded ar ddwy goes bellach gyda dwy droed yn gorfod dal pwysau peedair.Mae llawer o broblemau efo'r cefn yn deillio o'r un rheswm.
Hefyd y broblemau mae rhai menwod yn cael yn rhoi genedigaeth. Siap y pelvis yn galluogi cerdded ar dau droed, ond ddim yn hwyluso genedigaeth gan nad yw mor llydan.
Felly mae siâp y pelfis wedi esblygu ond y traed ddim?
Mae'r traed wedi esblygu o'i cymharu a sut oedden nhw pan oedden ni ar ein pedwar, jest tydyn nhw dal heb gyrraedd pwynt lle mae nhw'n berffaith (beth bynnag fase hynny'n ei olygu). Go brin y byddan nhw byth yn berffaith gan mai prin anfantais traed fflat o ran atgenhedlu yn y byd sydd ohoni.
O ran y pelfis, mae ei siap presennol yn gyfaddawd rhwng yr angen i gerdded ar ddwy droed a'r angen i roi genedigiaeth - tydi o ddim yn berffaith ar gyfer y naill job na'r llall ond mae'n ddigonol ar gyfer y ddwy.