Tudalen 2 o 6

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 25 Maw 2009 9:17 pm
gan sian
Mr Gasyth a ddywedodd:Cyfaddawd arall esblygu.


Diolch am gyfaddawd! Awtsh!

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 3:49 pm
gan Ar Mada
Mr Gasyth a ddywedodd:O ran y pelfis, mae ei siap presennol yn gyfaddawd rhwng yr angen i gerdded ar ddwy droed a'r angen i roi genedigiaeth - tydi o ddim yn berffaith ar gyfer y naill job na'r llall ond mae'n ddigonol ar gyfer y ddwy.


Be os ti'n rhoi genedigaeth ar dy bedwar?! :?

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 4:26 pm
gan Macsen
Be os ti'n rhoi genedigaeth mewn coeden?! :?

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 4:34 pm
gan Ar Mada
Macsen a ddywedodd:Be os ti'n rhoi genedigaeth mewn coeden?! :?
:lol: :lol:

Be os ti newydd ddarganfod y lan... a geni? Wyt ti'n llucho'r creadur nol i'r mor i gael moisture?

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Iau 26 Maw 2009 6:32 pm
gan Chickenfoot
Macsen a ddywedodd:Be os ti'n rhoi genedigaeth mewn coeden?! :?


Mae hynna wedi gwneud i mi feddwl am y "throwbacks" sydd yn y cefnogi theori esblygiad. Yn ogystal a Carlos Tevez, mae nifer o esiamplau eraill, fel y teimlad o syrthio wrth tra'n cysgu, appendics, "wisdom teeth", rhannau cyntefig o'r ymenyd, "vestigial limbs" mewn anifeiliaid ayyb.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 8:12 am
gan ceribethlem
Ar Mada a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:O ran y pelfis, mae ei siap presennol yn gyfaddawd rhwng yr angen i gerdded ar ddwy droed a'r angen i roi genedigiaeth - tydi o ddim yn berffaith ar gyfer y naill job na'r llall ond mae'n ddigonol ar gyfer y ddwy.


Be os ti'n rhoi genedigaeth ar dy bedwar?! :?

Bydde'r un problemau'n bodoli oherwydd siap y pelfis. Tase pobol heb esblygu i gerdded ar ddau goes, yna bydde'r pelvis yn gallu bod yn lletach, felly bydd dim y probleme sy'n bodoli nawr.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 10:50 am
gan Ar Mada
Yn ol hwn: http://www.associatedcontent.com/articl ... tml?cat=52 mae geni ar eich pedwar yn gadael i'r pelvis agor 'chydig yn lletach.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 11:03 am
gan ceribethlem
Ar Mada a ddywedodd:Yn ol hwn: http://www.associatedcontent.com/articl ... tml?cat=52 mae geni ar eich pedwar yn gadael i'r pelvis agor 'chydig yn lletach.

Diddorol, heb glywed honna o'r blaen. Diolchaf.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 5:07 pm
gan Mr Gasyth
Chickenfoot a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Be os ti'n rhoi genedigaeth mewn coeden?! :?


Mae hynna wedi gwneud i mi feddwl am y "throwbacks" sydd yn y cefnogi theori esblygiad. Yn ogystal a Carlos Tevez, mae nifer o esiamplau eraill, fel y teimlad o syrthio wrth tra'n cysgu, appendics, "wisdom teeth", rhannau cyntefig o'r ymenyd, "vestigial limbs" mewn anifeiliaid ayyb.


be di cefndir y teimlad o ddisgyn tra'n cysgu a wisdom teeth?

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 5:45 pm
gan Duw
Dwi'm gwybod os ydy wisdom teeth yn cael ei ystyried fel 'throwback' go iawn. Bydde'r rhain dal yn ddefnyddiol nol 200 mlynedd yn ol, pan nad oedd gofal deintyddol yn gyffredin. Dyw'r ffaith bo bodau dynol nawr yn defnyddio sylweddau i glanhau'r dannedd, hyliafu gwrth-setpig i ladd microorganebau dinistriol, mynd i'r deintydd yn gyson er mwyn llenwi dannedd pwdwr, ddim yn meddwl bo derbyn dannedd i'n cynnal nes ymlaen yn ein bywydau yn annilys. Os oedd gofal deintyddol yn diflannu dros nos, dwi'n meddwl bydde wisdom teeth yn arbennig o ddefnyddiol (er efalle byddent yn lladd nifer o oedolion wrth achosi heintiau ar eu ffordd allan).

Rhaid dweud, yr enghraifft mwya diddorol i mi yw'r llygad. Hollol boncyrs yn y ffordd mae wedi'i hadeiladu. Mae'r wyneb i waered - enghraifft o gannoedd o gyfaddawdau dros amser - 'best fixes' o fwtaniaeth i fwtaniaeth. Trueni bod Rooney wedi dod mas o'r closet.