Tudalen 3 o 6

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Gwe 27 Maw 2009 6:01 pm
gan Chickenfoot
Mr Gasyth a ddywedodd:be di cefndir y teimlad o ddisgyn tra'n cysgu
Miliynau o flynyddoedd yn ol pan roedd ein cyndeidiau yn byw yn y coed, roedd hyn yn ruw fath o system rybydd rhag ofn iddyn nhw disgyn.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Sad 28 Maw 2009 6:19 pm
gan ceribethlem
Chickenfoot a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:be di cefndir y teimlad o ddisgyn tra'n cysgu
Miliynau o flynyddoedd yn ol pan roedd ein cyndeidiau yn byw yn y coed, roedd hyn yn ruw fath o system rybydd rhag ofn iddyn nhw disgyn.

Eh? :?

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Sad 28 Maw 2009 7:08 pm
gan Kez
ceribethlem a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:be di cefndir y teimlad o ddisgyn tra'n cysgu
Miliynau o flynyddoedd yn ol pan roedd ein cyndeidiau yn byw yn y coed, roedd hyn yn ruw fath o system rybydd rhag ofn iddyn nhw disgyn.

Eh? :?

Ti'n swno fel bo ti ddim yn credu hwnna Ceri - ond ma'n wir; dyna be glwas i yn yr ysgol hefyd a phan benderfynodd rhai o'n cyndeidiau ddod i lawr o'r coed, ethon nhw i lan y mynydd i fyw, a'r un fath o system rhybudd odd yn bodoli fan yna yn eu breuddwydion ar y copa. Wedi'r cwbwl, pwy sydd isha rowlo lawr mynydd a bwrw pen yn erbyn y creigiau ar y gwaelod.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Sad 28 Maw 2009 7:46 pm
gan Chickenfoot
Cool Design! :-)

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Sad 28 Maw 2009 9:11 pm
gan sian
Kez a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:be di cefndir y teimlad o ddisgyn tra'n cysgu
Miliynau o flynyddoedd yn ol pan roedd ein cyndeidiau yn byw yn y coed, roedd hyn yn ruw fath o system rybydd rhag ofn iddyn nhw disgyn.

Eh? :?

Ti'n swno fel bo ti ddim yn credu hwnna Ceri - ond ma'n wir; dyna be glwas i yn yr ysgol hefyd a phan benderfynodd rhai o'n cyndeidiau ddod i lawr o'r coed, ethon nhw i lan y mynydd i fyw, a'r un fath o system rhybudd odd yn bodoli fan yna yn eu breuddwydion ar y copa. Wedi'r cwbwl, pwy sydd isha rowlo lawr mynydd a bwrw pen yn erbyn y creigiau ar y gwaelod.

Eh? :? Ond dwy ti ddim yn rowlo lawr mynydd - ti'n gorwedd yn glyd yn dy wely. A wedyn ti'n dihuno a'n ffaelu mynd nôl i gysgu, so ti wedi blino drannoeth a'n ffaelu canolbwyntio a ti'n rowlo lawr mynydd a bwrw dy ben yn erbyn y creigie ar y gwaelod. :?

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Sad 28 Maw 2009 11:30 pm
gan Kez
sian a ddywedodd: Eh? :? Ond dwy ti ddim yn rowlo lawr mynydd - ti'n gorwedd yn glyd yn dy wely. A wedyn ti'n dihuno a'n ffaelu mynd nôl i gysgu, so ti wedi blino drannoeth a'n ffaelu canolbwyntio a ti'n rowlo lawr mynydd a bwrw dy ben yn erbyn y creigie ar y gwaelod. :?

Eh? :? odd dim gwely fel yn i'n napod e gida'n cyndeidiau ni. Cysgu yn yr awyr agored bysan nhw ac un sioc fach ne hwp a dyna ti - bysan nhw'n rowlo lawr y mynydd ne'n cwmpo off coeden. Ti'n hollti blew Sian :winc:

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Sul 29 Maw 2009 2:17 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Kez a ddywedodd:
sian a ddywedodd: Eh? :? Ond dwy ti ddim yn rowlo lawr mynydd - ti'n gorwedd yn glyd yn dy wely. A wedyn ti'n dihuno a'n ffaelu mynd nôl i gysgu, so ti wedi blino drannoeth a'n ffaelu canolbwyntio a ti'n rowlo lawr mynydd a bwrw dy ben yn erbyn y creigie ar y gwaelod. :?

Eh? :? odd dim gwely fel yn i'n napod e gida'n cyndeidiau ni. Cysgu yn yr awyr agored bysan nhw ac un sioc fach ne hwp a dyna ti - bysan nhw'n rowlo lawr y mynydd ne'n cwmpo off coeden. Ti'n hollti blew Sian :winc:

nadi, ma'i'n siarad chydig o sens. dydi'r theori mai rhybudd rhag disgyn oddi ar coeden ydi hunna ddim yn dal dwr, achos tyda ni ddim ar ben coedan pan 'da ni'n cael y freuddwyd.
ta waeth, newydd fod yn darllen theori ein bod ni'n stopio dynolryw rhag esblygu ymhellach rwan achos bo' ganddon ni betha' fatha sbectols ar gyfar pobol sy'm yn gweld, ac yn y blaen. hynny ydi, da ni'n stopio'r survival of the fittest am ein bod ni'n darparu petha' ar gyfer anallu pobol. o'dd o'n ddiddorol iawn, deud bod ein traed ni'n mynd yn wannach petha' am bo' ganddon ni sgidia' a ballu. tybad be' ydi canlyniad tymor hir yr holl betha' 'ma... :rolio:

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Sul 29 Maw 2009 2:41 pm
gan Kez
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd: nadi, ma'i'n siarad chydig o sens. dydi'r theori mai rhybudd rhag disgyn oddi ar coeden ydi hunna ddim yn dal dwr, achos tyda ni ddim ar ben coedan pan 'da ni'n cael y freuddwyd.

Ond pe basech chi'n cal y freuddwyd ar ben coedan, rhybudd bysa fe iti ddihuno cyn cwmpo off y gangen. Rhybudd i'n cyndeidiau odd hwnna wrth gwrs a sneb yn byw ar dop coed erbyn hyn ond yn ein dyddia ni, yr un teip o beth yw breuddwydo bo ti'n oifad yn y llyn ne'r afon - rhybudd yw hwnna i ddihuno lan a mynd i'r bathrwm ne ti'n pisho'r gwely, ac os ti'n byw yn Iceland, bysat ti'n gallu rhewi i farwolaeth yn y pisho oer.

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd: ta waeth, newydd fod yn darllen theori ein bod ni'n stopio dynolryw rhag esblygu ymhellach rwan achos bo' ganddon ni betha' fatha sbectols ar gyfar pobol sy'm yn gweld, ac yn y blaen. hynny ydi, da ni'n stopio'r survival of the fittest am ein bod ni'n darparu petha' ar gyfer anallu pobol. o'dd o'n ddiddorol iawn, deud bod ein traed ni'n mynd yn wannach petha' am bo' ganddon ni sgidia' a ballu. tybad be' ydi canlyniad tymor hir yr holl betha' 'ma... :rolio:

Ma hwnna'n neud sens - bysa survival of the fittest yn golygu bod pobol ddall yn marw mas trwy ddamweiniau wrth groesi'r hewl neu beth bynnag. Diddorol!

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 2:24 pm
gan ceribethlem
Kez a ddywedodd:
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd: nadi, ma'i'n siarad chydig o sens. dydi'r theori mai rhybudd rhag disgyn oddi ar coeden ydi hunna ddim yn dal dwr, achos tyda ni ddim ar ben coedan pan 'da ni'n cael y freuddwyd.

Ond pe basech chi'n cal y freuddwyd ar ben coedan, rhybudd bysa fe iti ddihuno cyn cwmpo off y gangen. Rhybudd i'n cyndeidiau odd hwnna wrth gwrs a sneb yn byw ar dop coed erbyn hyn ond yn ein dyddia ni,
Fi ddim yn gweld y synnwyr, fel bydde hi'n helpu pobl i beidio a chwmpo o'r goeden? Ti'n neidio'n sydyn, a bydd mwy o siawns i gwmpo. Hefyd, bydd dihuno'n gyson i sicrhau nad ydyn ni'n cwmpo ddim yn ffito mewn gyda chael 8 awr da o gwsg.
Esblygiad ar y lefel molecwlar (genynnau ayyb) gwnes i, felly dwi'n gwybod braidd dim am esblygiad emosiynol a seicolegol.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 3:20 pm
gan Duw

Dwi'n sicr bo ymddygiad (ac felly esblygiad emosiynol/seicolegol) yn gallu cael ei basio ymlaen trwy'r genynnau (e.e. lefelau optimwm rhai hormonau - tarw/hwrdd ffyrnig, ac ati). Pwy sy'n dweud fod y teimlad o gwympo yn eich cwsg yr union yr un peth a oedd yn digwydd i ni miliynau o flynyddoedd yn ol? Gallaf weld bod mantais i anifeiliaid sy'n byw yn y canghennau gael clust fewnol sensitif iawn, felly os oes newid yn eu safle 3D, byddent yn cael gwybod amdano'n syth, neu sblat! Y ffaith ein bod ni dim ond yn breuddwydio'r peth yn profi dim un ffordd neu'r llall mor belled a allai weld. Rydym yn ceisio â 'neidio' pan fydd hwn yn digwydd, ond os oeddwn yn byw miliynau o flynyddoedd yn ôl, a fydde'r ymateb i geisio â chael gafael? Dwi ddim yn hollol convinced bod y sail geneteg i'r ffenomenon 'ma'n ddilys.