Tudalen 4 o 6

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 3:44 pm
gan ceribethlem
Gol - wedi camddarllen a cham-ymateb.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 8:22 pm
gan ceribethlem
Rhaglen diddorol iawn wedi bod ar y BBC heno 'ma am 9. "Did Darwin kill God?"
Gwr crefyddol yn credu yn esblygiad yn dadlau yn erbyn creadaeth, yna yn erbyn "Ultra-Darwinism" fel Dawkins ac eraill.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 9:31 pm
gan Duw
Byger colles i hwnna. Trio'i wylio ar iPlayer a dyma'r neges:

AVAILABILITY:
Sorry, this programme is not available to watch again here (why?) but is currently available on these devices: Nintendo Wii & Selected wi-fi/3G enabled mobile phones. Read more about where to get BBC iPlayer.
Last broadcast Today, 20:00 on BBC Two (Wales, Wales (Analogue) only) (see all broadcasts).

Beth ddiawl?? Ar gael ar Nintendo Wii on nid gwefan y BBC? Braidd yn od? Posib bod e dim ond yn chwarae ar bethe sy wedi esblygu digon pell? :winc:

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 12:06 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Duw a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd: nadi, ma'i'n siarad chydig o sens. dydi'r theori mai rhybudd rhag disgyn oddi ar coeden ydi hunna ddim yn dal dwr, achos tyda ni ddim ar ben coedan pan 'da ni'n cael y freuddwyd.

Ond pe basech chi'n cal y freuddwyd ar ben coedan, rhybudd bysa fe iti ddihuno cyn cwmpo off y gangen. Rhybudd i'n cyndeidiau odd hwnna wrth gwrs a sneb yn byw ar dop coed erbyn hyn ond yn ein dyddia ni,
Fi ddim yn gweld y synnwyr, fel bydde hi'n helpu pobl i beidio a chwmpo o'r goeden? Ti'n neidio'n sydyn, a bydd mwy o siawns i gwmpo. Hefyd, bydd dihuno'n gyson i sicrhau nad ydyn ni'n cwmpo ddim yn ffito mewn gyda chael 8 awr da o gwsg.
Esblygiad ar y lefel molecwlar (genynnau ayyb) gwnes i, felly dwi'n gwybod braidd dim am esblygiad emosiynol a seicolegol.

Dwi'n sicr bo ymddygiad (ac felly esblygiad emosiynol/seicolegol) yn gallu cael ei basio ymlaen trwy'r genynnau (e.e. lefelau optimwm rhai hormonau - tarw/hwrdd ffyrnig, ac ati). Pwy sy'n dweud fod y teimlad o gwympo yn eich cwsg yr union yr un peth a oedd yn digwydd i ni miliynau o flynyddoedd yn ol? Gallaf weld bod mantais i anifeiliaid sy'n byw yn y canghennau gael clust fewnol sensitif iawn, felly os oes newid yn eu safle 3D, byddent yn cael gwybod amdano'n syth, neu sblat! Y ffaith ein bod ni dim ond yn breuddwydio'r peth yn profi dim un ffordd neu'r llall mor belled a allai weld. Rydym yn ceisio â 'neidio' pan fydd hwn yn digwydd, ond os oeddwn yn byw miliynau o flynyddoedd yn ôl, a fydde'r ymateb i geisio â chael gafael? Dwi ddim yn hollol convinced bod y sail geneteg i'r ffenomenon 'ma'n ddilys.

be' sy' ddim yn dal dwr ydi, os wti'n breuddwydio bo' chdi'n disgyn a chditha'n saff, ac yn gorwadd, yna tydi o ddim yn unrhyw fath o rybudd, nac 'di? felly, os oedd 'na bobol ar goed yn breuddwydio hyn, ma' be' ti'n ddeud yn awgrymu 'u bod nhw'n cael y breuddwydion hyd yn oed pan nad oedd o'n rybudd, nag o unhryw werth felly. oni bai bo' chdi'n awgrymu'n bod ni'n gallu etifeddu cof/profiadau - sydd yn theori sy'n dod yn eitha' poblogaidd rwan. a ma' hunna'n rili cwl!

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 12:56 pm
gan Mr Gasyth
hwn yn gneud synnwyr i fi

The general consensus among researchers is that, as your muscles begin to slack and go into a restful state just as you are falling asleep; your brain senses these relaxation signals and misinterprets them, thinking you are falling down. The brain then sends signals to the muscles in your arms and legs in an attempt to jerk you back upright.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 1:22 pm
gan sian
Mr Gasyth a ddywedodd:hwn yn gneud synnwyr i fi

The general consensus among researchers is that, as your muscles begin to slack and go into a restful state just as you are falling asleep; your brain senses these relaxation signals and misinterprets them, thinking you are falling down. The brain then sends signals to the muscles in your arms and legs in an attempt to jerk you back upright.

a fi.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 1:40 pm
gan ceribethlem
Mr Gasyth a ddywedodd:hwn yn gneud synnwyr i fi

The general consensus among researchers is that, as your muscles begin to slack and go into a restful state just as you are falling asleep; your brain senses these relaxation signals and misinterprets them, thinking you are falling down. The brain then sends signals to the muscles in your arms and legs in an attempt to jerk you back upright.

Mae'n neud synnwyr i fi hefyd, ond ddim yn egluro'i fod e'n rhyw fath o evolutionary throwback o'r dyddie o fyw mewn coed.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 1:53 pm

Ond pwy sy'n gweud ei fod e'n evolutionary throwback o'r dyddie o fyw mewn coed? Onid jest syniad yw hwnnw?
Ac mae tracsiwt gwyrdd a fi, rhyngom, wedi profi ei fod yn rong :D

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 2:08 pm
gan Mr Gasyth
ceribethlem a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:hwn yn gneud synnwyr i fi

The general consensus among researchers is that, as your muscles begin to slack and go into a restful state just as you are falling asleep; your brain senses these relaxation signals and misinterprets them, thinking you are falling down. The brain then sends signals to the muscles in your arms and legs in an attempt to jerk you back upright.

Mae'n neud synnwyr i fi hefyd, ond ddim yn egluro'i fod e'n rhyw fath o evolutionary throwback o'r dyddie o fyw mewn coed.

Na, dyne'r pwynt. Mae'n well esboniad na hwnnw.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 2:23 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Mr Gasyth a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:hwn yn gneud synnwyr i fi

The general consensus among researchers is that, as your muscles begin to slack and go into a restful state just as you are falling asleep; your brain senses these relaxation signals and misinterprets them, thinking you are falling down. The brain then sends signals to the muscles in your arms and legs in an attempt to jerk you back upright.

Mae'n neud synnwyr i fi hefyd, ond ddim yn egluro'i fod e'n rhyw fath o evolutionary throwback o'r dyddie o fyw mewn coed.

Na, dyne'r pwynt. Mae'n well esboniad na hwnnw.

o'r hannar. pawb yn gytun.

...sori duw, ond ti'n rong! (am frawddeg dda!)