Tudalen 5 o 6

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 3:16 pm
gan ceribethlem
Jiawl ma'n sgilie cyfathrebu i'n wael heddi!
Fi'n cytuno gyda Sian, Tracsiwt Gwyrdd a Mr Gasyth, fi ddim yn credu mae rhywbeth i wneud gyda byw mewn coed yw hi.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 3:55 pm
gan Duw
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:...sori duw, ond ti'n rong! (am frawddeg dda!)


Wyt ti'n cyfeirio ataf i? Cofio dywedais:

Dwi ddim yn hollol convinced bod y sail geneteg i'r ffenomenon 'ma'n ddilys.

Roeddwn yn cyfeirio'n sbesiffig i'r 'breuddwydio' (er ni wnes hynny'n hollol glir).

Mae'r syniad parthed ymestyniad cyhyrau'n llawer yn well na'r un 'breuddwydio', er dal yn ddilys ar gyfer cwympo allan o goeden. Ydy'r corff wedi'i etifeddu i 'neidio/cymryd gafael' wrth i gyhyrau ymlacio? Ydy pob (neu bron pob) bod dynol yn profi hyn? Os felly, rhaid ei fod yn etifeddol? A wnaeth hwn ddatblygu'n gymharol ddiweddar (felly 'pwff' i'r syniad o'i etifeddu o'n cyndade apog)?

Nid yw'r atgyrch o gadw safiad yn ymglymu'r ymennydd pelled dwi'n cofio, felly bydde'r corff yn gorfod colli tensiwn i radde helaeth cyn bo'r atgyrch 'neidio' ma'n digwydd - nid ymlacio cyffredinol felly, neu fydde gowedd ar y couch yn beni mewn ffit!

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 8:42 pm
gan Chickenfoot
Efalla bod y peth yn gyfuniad o ddychymyg, blinder a gwrando ar ffon-in Dr Karl ar Radio Pump :wps:

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 9:34 pm
gan Hedd Gwynfor
Un peth fi'n gwbod, mae Casi'n rhedeg yn wyllt ar ei hochr a chyfarth yn ei chwsg. Mae cŵn felly yn breuddwydio, ac yn ymateb mewn modd tebyg i ni. Cyfraniad i'r drafodaeth? Na, dim o gwbl! :wps:

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 01 Ebr 2009 10:00 pm
gan Duw
Falle dy fod yn meddwl ei fod yn ddibwys Hedd, ond mae'r ffaith bo anifeiliaid amrimataidd yn breuddwydio'n tanlinellu mwy o dystiolaeth dargyfeiredd o gyndad cyffredin ar bwynt yn y gorffennol. Yn ol rhesymeg, bydde esblygiad epa (cyndad) i fod dynol wedi digwydd sbel ar ôl y dargyfeiriad i gwn/epau (os oedd shwd bwynt), a bydde hynny'n awgrymu bod ein cyndadau epog yn breuddwydio hefyd. Os felly, gallwn weld pwrpas i'r atgyrch (cwympo o'r coed?). Er, a oes rhaid bod pwrpas iddo? Wedi'r cyfan beth yw pwrpas breuddwydio am hela cathod i gwn? Efalle bod un, ond yn aml ma tuedd i fod yn anthropomorffig iawn wrth ystyried 'pwrpas'.

Rhaid dweud, er bo llawer o falu cachu 'ma (yn enwedig gen i), dyma'r edefyn gore dwi wedi dilyn ers sbel.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 3:47 pm
gan ceribethlem
Siarad am gwn yn breuddwydio, oes rhywun wedi gweld hwn?


Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 4:29 pm
gan Orcloth
Mi oedd hynna'n blydi briliant, Ceri! I ddechra, o'n i'n meddwl "mae ci fi'n gneud hynna", ond erbyn iddo ddechra rhedeg, o'n i'n meddwl "di'r ci yma ddim yn gall" ac yn glanna chwerthin, ond o'n i'n licio'r gwrychyn wedi codi ar y diwedd! :D

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 6:36 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Duw a ddywedodd:Falle dy fod yn meddwl ei fod yn ddibwys Hedd, ond mae'r ffaith bo anifeiliaid amrimataidd yn breuddwydio'n tanlinellu mwy o dystiolaeth dargyfeiredd o gyndad cyffredin ar bwynt yn y gorffennol. Yn ol rhesymeg, bydde esblygiad epa (cyndad) i fod dynol wedi digwydd sbel ar ôl y dargyfeiriad i gwn/epau (os oedd shwd bwynt), a bydde hynny'n awgrymu bod ein cyndadau epog yn breuddwydio hefyd. Os felly, gallwn weld pwrpas i'r atgyrch (cwympo o'r coed?). Er, a oes rhaid bod pwrpas iddo? Wedi'r cyfan beth yw pwrpas breuddwydio am hela cathod i gwn? Efalle bod un, ond yn aml ma tuedd i fod yn anthropomorffig iawn wrth ystyried 'pwrpas'.

Rhaid dweud, er bo llawer o falu cachu 'ma (yn enwedig gen i), dyma'r edefyn gore dwi wedi dilyn ers sbel.

cytuno. ond, ti'n malu cach gymaint ti'n anodd dy ddilyn! y peth ydi, ma' 'na ddwy drafodaeth yn digwydd yma rwan - pwrpas breuddwydion, ac esblygiad. 'swn i'n gallu malu cacs am theoris gwahanol am freuddwydion 'fyd; fatha bod breuddwydio am golli dannadd yn golygu bo' gynnoch chi ofn colli rwbath, babi newydd yn golygu dechra newydd, ac yn y blaen. ond, o'n i'n meddwl mai trafod esblygiad oedda ni, sy'n beth hollol wahanol. 'nest ti gyffwrdd 'efo 'r busnas etifeddu cof yn gynharach, a ma' hunna'n wirioneddol ddiddorol dwi'n meddwl. dwi'm yn derbyn mai dyna ydi'r breuddwydion disgyn, nid o goed beth bynnag, ond ma' 'na lot o storis am bobol yn cofio petha' sy'n amhosib iddyn nhw'u cofio. dyna, mewn gwirionedd, ydi ofn nadroedd neu lygod, cof sy'n cael ei etifeddu fel ein bod ni'n reddfol yn osgoi'r petha' 'ma am 'u bod nhw'n gallu'n brathu a'n gwenwyno ni.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 6:45 pm
gan Duw
Ywtstanding Ceri. Rhaid dangos hwnna i'r disgyblion! :lol:

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 7:27 pm
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:Ywtstanding Ceri. Rhaid dangos hwnna i'r disgyblion! :lol:

Wedi neud yn barod :winc: