Duw a ddywedodd:Falle dy fod yn meddwl ei fod yn ddibwys Hedd, ond mae'r ffaith bo anifeiliaid amrimataidd yn breuddwydio'n tanlinellu mwy o dystiolaeth dargyfeiredd o gyndad cyffredin ar bwynt yn y gorffennol. Yn ol rhesymeg, bydde esblygiad epa (cyndad) i fod dynol wedi digwydd sbel ar ôl y dargyfeiriad i gwn/epau (os oedd shwd bwynt), a bydde hynny'n awgrymu bod ein cyndadau epog yn breuddwydio hefyd. Os felly, gallwn weld pwrpas i'r atgyrch (cwympo o'r coed?). Er, a oes rhaid bod pwrpas iddo? Wedi'r cyfan beth yw pwrpas breuddwydio am hela cathod i gwn? Efalle bod un, ond yn aml ma tuedd i fod yn anthropomorffig iawn wrth ystyried 'pwrpas'.
Rhaid dweud, er bo llawer o falu cachu 'ma (yn enwedig gen i), dyma'r edefyn gore dwi wedi dilyn ers sbel.
cytuno. ond, ti'n malu cach gymaint ti'n anodd dy ddilyn! y peth ydi, ma' 'na ddwy drafodaeth yn digwydd yma rwan - pwrpas breuddwydion, ac esblygiad. 'swn i'n gallu malu cacs am theoris gwahanol am freuddwydion 'fyd; fatha bod breuddwydio am golli dannadd yn golygu bo' gynnoch chi ofn colli rwbath, babi newydd yn golygu dechra newydd, ac yn y blaen. ond, o'n i'n meddwl mai trafod esblygiad oedda ni, sy'n beth hollol wahanol. 'nest ti gyffwrdd 'efo 'r busnas etifeddu cof yn gynharach, a ma' hunna'n wirioneddol ddiddorol dwi'n meddwl. dwi'm yn derbyn mai dyna ydi'r breuddwydion disgyn, nid o goed beth bynnag, ond ma' 'na lot o storis am bobol yn cofio petha' sy'n amhosib iddyn nhw'u cofio. dyna, mewn gwirionedd, ydi ofn nadroedd neu lygod, cof sy'n cael ei etifeddu fel ein bod ni'n reddfol yn osgoi'r petha' 'ma am 'u bod nhw'n gallu'n brathu a'n gwenwyno ni.