Tudalen 6 o 6

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Iau 02 Ebr 2009 8:50 pm
gan ceribethlem
ceribethlem a ddywedodd:Siarad am gwn yn breuddwydio, oes rhywun wedi gweld hwn?


Fi'n lico'r ffordd mae'n dihuno ar ol rhedeg mewn i'r wal, wedyn edrych yn conffiwsd! Mae'n ymddangos i fi fel pe bai'n meddwl "Ble aeth y gwningen 'na?"

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 4:48 am
gan Chickenfoot
Son am ymddygiad anifeiliaid, oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth dros eu "instincts" e.e. anifeiliaid anwes yn peidio gwneud rhywbeth rhag ofn i'w meistri gwylltio hefo nhw?

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Gwe 03 Ebr 2009 11:46 am
gan ceribethlem
Chickenfoot a ddywedodd:Son am ymddygiad anifeiliaid, oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth dros eu "instincts" e.e. anifeiliaid anwes yn peidio gwneud rhywbeth rhag ofn i'w meistri gwylltio hefo nhw?

Mae'n dibynnu ar ba mor gryf mae'r greddf fi'n credu. Mae'n anodd (yn amhosib am wn i) i stopio ci sydd a greddf i redeg ar ol defaid rhag gwneud hynny, dyna pam fod hawl gyda'r ffarmwr eu saethu nhw.

Mae'r greddf o gachu ar lawr y gegin yn un hawdd iawn i'w hatal.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 7:15 pm
gan Duw
Rydym yn dylunio anifail anwes ac yna newid trywydd esblygiad y rhywogaeth gan fridio detholus. Dyna bwer duwiol. Ydy hyn yn foesol? Dwi'n gwybod ein bod yn gwenud hyn gyda anifeiliaid fferm hefyd a gyda phlanhigion. Pa mor bell o beirianneg geneteg yw hyn mewn gwirionedd? Dwi'n gwybod y gwahaniaeth, ond sut ydy hyn yn dderbyniol a PG mor annerbyniol?

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Llun 06 Ebr 2009 7:20 pm
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:Rydym yn dylunio anifail anwes ac yna newid trywydd esblygiad y rhywogaeth gan fridio detholus. Dyna bwer duwiol. Ydy hyn yn foesol? Dwi'n gwybod ein bod yn gwenud hyn gyda anifeiliaid fferm hefyd a gyda phlanhigion. Pa mor bell o beirianneg geneteg yw hyn mewn gwirionedd? Dwi'n gwybod y gwahaniaeth, ond sut ydy hyn yn dderbyniol a PG mor annerbyniol?

Fi 'di gweud hyn ers sbel. Odd yr hen Eifftiaid yn neud rhyw fath o beirianneg genetig ar wenith tair mil o flynyddoedd yn ol. Mae creu planhigyn hexaploid (6 set o gromosomau yn lle 2) yn wrthyn i natur, felly rhyw fath o beirianneg genetig cynnar cyntefig ydoedd.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Maw 07 Ebr 2009 8:55 am
gan Mr Gasyth
Duw a ddywedodd:Rydym yn dylunio anifail anwes ac yna newid trywydd esblygiad y rhywogaeth gan fridio detholus. Dyna bwer duwiol. Ydy hyn yn foesol? Dwi'n gwybod ein bod yn gwenud hyn gyda anifeiliaid fferm hefyd a gyda phlanhigion. Pa mor bell o beirianneg geneteg yw hyn mewn gwirionedd? Dwi'n gwybod y gwahaniaeth, ond sut ydy hyn yn dderbyniol a PG mor annerbyniol?


tydw i'n gweld dim o'i le a pheiriannu geneteg

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Maw 07 Ebr 2009 10:07 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
Mr Gasyth a ddywedodd:
tydw i'n gweld dim o'i le a pheiriannu geneteg

waw! am swiping stetment! mae o'n mynd ymlaen mewn gymaint o wahanol feysydd ac i ddibenion mor wahanol erbyn hyn, mae o'n anodd cyffredinoli os nag wti'n cytuno hefo pob sbectrwm - o newid genynnau dynolryw i blanhigion. ac ma'n anodd gweld dim yn bod arno fo eto, ella, am nad yda ni eto wedi gweld canlyniada'r newid mawr 'ma.

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Maw 07 Ebr 2009 2:52 pm
gan Mr Gasyth
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
tydw i'n gweld dim o'i le a pheiriannu geneteg

waw! am swiping stetment! mae o'n mynd ymlaen mewn gymaint o wahanol feysydd ac i ddibenion mor wahanol erbyn hyn, mae o'n anodd cyffredinoli os nag wti'n cytuno hefo pob sbectrwm - o newid genynnau dynolryw i blanhigion. ac ma'n anodd gweld dim yn bod arno fo eto, ella, am nad yda ni eto wedi gweld canlyniada'r newid mawr 'ma.


digon teg. o ran egwyddor cyffdredinol sgen i ddim problem efo fo, er ma'n siwr fod yna amyglchiade ble nad ydi o'n briodol, fel er mwyn creu 'super-race' neu rywbeth

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Maw 07 Ebr 2009 7:45 pm
gan Duw
Mr. G. - dyna'm pwynt - mae mwy nag un ffordd o gyfeirio esblygiad. Mae P.G ('genetig' - sori am y camsillafu blaenorol, diolch Ceri) yn eang ei faes, dwi'n gwybod ac mae rhai datblygiadau'r maes yn edrych yn ddychrynllyd, ond mae rhai prosesau a gweithgareddau'n hollol agored ac wedi mynd ymlaen ers milenia, sef - bridio detholus. Oherwydd nid ydym fel rheol yn delio gyda newidiadau i enynnau'n uniongyrchol, mae teimlad ei fod yn eithaf 'naturiol' a felly'n ddiogel. Dwi'n teimlo bod hwn, i roi sbin anthropomorffig iddo, yn weddol Natsiaidd. Y ffaith rydym yn newid anifeiliaid i'n siwtio ni - tymer arbennig, siap arbennig, ac ati - wedi fy mhoeni ers dro. Mae ein tincro gyda rhai rhywogaethau wedi mynd mor bell bo rhai ohonynt yn methu bridio รข'i gilydd o gwbl. O ran gweledigaeth cadwraethol, a ydym yn gwynebu catastroffi?

Re: Dyluniad vs. Esblygiad

PostioPostiwyd: Mer 15 Ebr 2009 11:44 pm
gan ceribethlem
Mr Gasyth a ddywedodd:
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
tydw i'n gweld dim o'i le a pheiriannu geneteg

waw! am swiping stetment! mae o'n mynd ymlaen mewn gymaint o wahanol feysydd ac i ddibenion mor wahanol erbyn hyn, mae o'n anodd cyffredinoli os nag wti'n cytuno hefo pob sbectrwm - o newid genynnau dynolryw i blanhigion. ac ma'n anodd gweld dim yn bod arno fo eto, ella, am nad yda ni eto wedi gweld canlyniada'r newid mawr 'ma.


digon teg. o ran egwyddor cyffdredinol sgen i ddim problem efo fo, er ma'n siwr fod yna amyglchiade ble nad ydi o'n briodol, fel er mwyn creu 'super-race' neu rywbeth

Mae mwy na'r syniad o super race yn unig yn peri probleme. Ni'n barod yn gweld fod llawdruniaeth plastig (plastic surgery - fi ddim yn gwynod os oes term gwell yn Gymraeg) wedi cael ei gymryd er mwyn creu pobl barbiaidd eu golwg. Gweler Holywodd fel enghraifft. Dechreuodd yr holl beth fel rhywbeth i trin anafiadau fel rhai Simon Westwood, Mae 'na broblem anferth mewn dilyn trywydd designer babies, er enghraifft, gyda dulliau peirianneg genetig. Probelemau sydd yn golygu fod yr ychydig o esblygiad naturiol sy'n digwydd gyda phobol yn dod i derfyn. Fe all hwn arwain at y synaiad Philip K Dick - aidd o gael dau math o ddynoliaeth. Un tlawd sy'n parhau a detholiad (cymharol) naturiol, ac un cyfoethog sy'n parhau i fod mewn grym a chyfoeth am eu bod yn bridio'n ddetholus ar gyfer hynny.