Be ydi Cristion?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Be ydi Cristion?

Postiogan Aled Owen » Llun 13 Hyd 2003 9:17 am

Mond isio gweld be di barn pobl ar y mater.
Rhithffurf defnyddiwr
Aled Owen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 08 Hyd 2003 12:05 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Heledd » Llun 13 Hyd 2003 9:50 am

Mae'n anodd dweud yn union, achos am taw peth haniaethol yw e i bob pwrpas, a does byth ateb absoliwt.

Fel Cristion sydd wedi gwahodd ac wedi derbyn Crist i nghalon i, ac sy wedi dewis y trwyddydd hwnnw mewn bywyd, rydw i'n teimlo fy mod i, a phobl debyg i fi, wedi gwneud penderfyniad i newid ein bywydau er mwyn Crist a Duw, a dyna sy'n rhoi'r teitl Cristion arna'i yn fy ngolwg i.

Ond, mae pobl eraill sy'n synied amdanynt eu hunain fel Cristnogion, hyd yn oed os oes blwyddyn neu ddwy yn mynd heibio heb iddynt weddïo. Y bobl hyn sy'n credu yn rhywbeth, ac yn gweld gwir yn y Beibl, ond sy' ddim yn gweithredu ar eu cred mor aml. O siarad gyda'r math hyn o bobl, des i ar ddeall mai rhyw fath o safety trap yw crefydd iddynt - rhywbeth a wnaiff eu hachub pan maen nhw ar fin marw. Rhywbeth i feddwl amdano eto, pan maen nhw'n hyn.

Mae pobl eraill yn synied amdanynt eu hunain fel Cristnogion am eu bod wedi bod yn mynychu'r Ysgol Sul pan oedden nhw'n blant, eu bod nhw'n canu emynau pan maen nhw'n pissed, eu bod nhw'n bobl ddaionus ac yn helpu'r anffodus yn y byd.

Dydw i ddim am fod mor hunangyfiawn ag y gall rhai "Efengylwyr" fod weithie, a dweud nad yw rhain yn Gristnogion. Mae crefydd dyn yn fater personol, a does gan yr un meidrolyn yr hawl il ddweud pwy sy'n Gristion ai peidio. Nid ein lle ni yw dweud. Daw awr y barnu, a byddem ninnau yn cael ein barnu hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Heledd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Gwe 10 Hyd 2003 3:56 pm
Lleoliad: Canolbarth

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 13 Hyd 2003 2:36 pm

Cristion yw rhywyn sydd wedi bod trwy fwlch yr argyhoeddiad.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan nicdafis » Llun 13 Hyd 2003 2:42 pm

I fi, Cristion yw rhywun sy'n caru ei gymydog. Dyna'r unig peth unigryw am Gristnogaeth, am wn i, a phrif gyfrifoldeb y Cristion yw i ddilyn Crist yn hynny o beth.

Hawdd i mi ddweud, nid Cristion ydw i ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Cardi Bach » Llun 13 Hyd 2003 3:26 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Cristion yw rhywyn sydd wedi bod trwy fwlch yr argyhoeddiad.


Ateb teilwng, gleu. Ond beth ma hyn yn olygu? Siwd wyt ti'n ddiffinio fe? Odi e'n golygu rhwbeth gwahanol i ti i rywun arall?
Falle fod aelodau ar y seiad yma sy'n meddwl eu bont yn Gristnogion ac am ddatblygu eu ffydd, ond dyw ateb fel uchod yn golygu dim - academic jargon yw e i berson lleyg sydd yn trial ffindo'i ffordd.

Brawddeg cyntaf i draethawd yw hwnna i fi :winc: Ymhelatha os ceu di amser - ma diddordeb 'da fi :D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Macsen » Sul 09 Tach 2003 5:27 pm

Dw i'n credu mai crsition yw un sy'n credu bod Iesu Grist wedi marw drosdo ar y groes, ac yn dedicatio ei fywywd o'r pwynt yna i wasaneathu Duw a byw ei fywyd mewn ffordd mae o'n ei gredu sydd orau.

Dydw i ddim yn disgyn o dan y categori yna. Ond oes, fel mae Nic yn dweud, cristion yw un sydd yn caru ei cymydog, credaf fy mod i yn gristion. Heblaw bod fy nghymdogion yn ffyliaiad. :winc:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 27 Tach 2003 11:51 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Dw i'n credu mai crsition yw un sy'n credu bod Iesu Grist wedi marw drosdo ar y groes, ac yn dedicatio ei fywywd o'r pwynt yna i wasaneathu Duw a byw ei fywyd mewn ffordd mae o'n ei gredu sydd orau.

Dydw i ddim yn disgyn o dan y categori yna. Ond oes, fel mae Nic yn dweud, cristion yw un sydd yn caru ei cymydog, credaf fy mod i yn gristion. Heblaw bod fy nghymdogion yn ffyliaiad. :winc:


Dwi, wrth gwrs yn cytuno gyda'r bit caru dy gymydog OND shwd elli di anwybyddu y rhannau o'r beibl sy'n trin a thrafod y groes?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 28 Tach 2003 12:04 am

Cardi Bach a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Cristion yw rhywyn sydd wedi bod trwy fwlch yr argyhoeddiad.


Ond beth ma hyn yn olygu?
Siwd wyt ti'n ddiffinio fe?
Odi e'n golygu rhwbeth gwahanol i ti i rywun arall?
Brawddeg cyntaf i draethawd yw hwnna i fi :winc:
Ymhelatha os ceu di amser - ma diddordeb 'da fi :D


wel fel mab i brygethwr, sydd yn prygethu'r efengyl (nid pob un sydd yn, yn ein dyddiau tywyll ni) dwi'n synnu yn gyntaf nad yw'r term 'bwlch yr argyhoeddiad' yn siarad dros ei hun wrtho ti. Be ti di neud yn y bon di rhoi prompt i fi roi A-Z clou or efengyl! so dyna wna i!

1. Cyflwr naturiol dyn
Yn dilyn y cwymp yng ngardd eden trodd y ddynoliaeth yn bechadurus. Cas beth/gelyn Duw ydy pechod, felly trodd y ddynoliaeth yn erbyn Duw.

2. Duw cyfiawn
Mae yna nefoedd ac uffern. Mae Duw yn gyfiawn ac mae 'pechaduriaid' yn mynd i ddioddef yn uffern ar ol y byd yma.

3. Ffordd allan
OND wrth gwrs mae Duw yn ein caru, mae'n cynnig ffordd allan o uffern i bob pechadur. O'r capelwr selog sydd ond wedi wincio at wraig drws nesa unwaith i Hitler! Aberthodd fywyd ei fab ei hun, Iesu Grist. Derbynniodd Iesu y gosb oedd yn ein disgwyl ni yn uffern.

4. Gras a Thrugaredd: gofyn am faddeuant
Gwnaed cyfamod eto rhwng duw a dyn ar y groes. Mae fynny bellach i ddyn blygu ger bron duw a gwneud dim byd ond cyfaddef eu pechod a derbyn ei ras.

5. Bwlch yr argyhoeddiad
Dyma pan fydd dyn yn sylwi ar ei gyflwr ac ei fod yn anelu at uffern. Bydd yn troi ei fywyd at Dduw, y peth lleiaf all wneud gan ystyried yr hyn gwnaeth Duw ar y groes i'n hachub o uffern drist. Bydd felly yn GRISTION sylwi mae dim ond trwy y groes mae cyrraedd y nefoedd, byw i dduw fydd o hyn allan - wedi croesi bwlch yr argyhoeddiad.

...yn simplistig iawn wrth gwrs

unrhyw gwestiynau?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Gwe 28 Tach 2003 12:12 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi, wrth gwrs yn cytuno gyda'r bit caru dy gymydog OND shwd elli di anwybyddu y rhannau o'r beibl sy'n trin a thrafod y groes?


Dydw i ddim wedi ei anwybyddu, yli:

Myfi a ddywedodd:Dw i'n credu mai crsition yw un sy'n credu bod Iesu Grist wedi marw drosdo ar y groes, ac yn dedicatio ei fywywd o'r pwynt yna i wasaneathu Duw a byw ei fywyd mewn ffordd mae o'n ei gredu sydd orau.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 28 Tach 2003 1:17 am

...wedyn ti'n deud

IMJ a ddywedodd:Dydw i ddim yn disgyn o dan y categori yna.


nid dy herio di dwi'n gneud jyst ddim yn dallt
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron