Tudalen 1 o 4

Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sad 28 Maw 2009 3:19 pm
gan Orcloth
Dwi'm yn bod yn morbid, ond dwi di bod yn meddwl yn ddiweddar am be fyswn i'n licio i bobol ganu yn fy nghynhebrwng i rhyw ddiwrnod (ddim am flynyddoedd maith gobeithio).
Ym mron bob cynhebrwng dwi di bod ynddynt yn ddiweddar, mae pobol di bod yn dewis yr un hen emynau diflas, sef "Mi glywaf dyner lais" a "The Lord is my shepherd". 'Da chi'n meddwl mai'r rheswm am hyn ydi, nad ydi pobol yn mynychu'r capel neu'r eglwys fatha oeddan nhw ers stalwm, ac felly ddim yn medru meddwl am emynau gwell na rhain?
Dwi di penderfynu na fydd fy nghynhebrwng i yn un diflas (a na fydd pobol yn mynd o'na'n cwyno "blincin 'Mi glywaf dyner lais' 'na eto"). Be fyswn i'n licio i bobol ganu? Wel, mae tair emyn yn dod i'm meddwl a dweud y gwir, sef:
"Mi dafla'i maich oddi ar fy ngwar";
"O fy Iesu bendigedig, unig gwmni f'enaid gwan" a
"Dod ar fy mhen dy Sanctaidd law"
Hefyd, fyswn i'n isio i bobol lenwi amlosgfa Bangor hefo blodau er cof amdanaf (wrth gwrs mi fyddai'n ei gwylio nhw o'r nefoedd!).
Ydach chi hefyd di bod yn meddwl am hyn, ta dim ond fi sy'n rhyfedd?

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sad 28 Maw 2009 3:57 pm
gan Duw
I mi, dim angladd. Amlosgfa - dim gwasanaeth - parti i ddweud ffarwel i'r hen git mewn rhyw dafarn crap. Er os odd rhywun yn gorfod canu, 'O lesu Mawr' - hypocritigol, ond dwi'n hoffi'r don.

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sad 28 Maw 2009 5:54 pm
gan Doctor Sanchez
Pam bod rhaid cael emynau?

Sa well gin i ghetto blaster mawr yn chwarae 'The End' gan y Doors, 'Time To Say Goodbye' gan Bocelli a Brightman, a 'Scratchy' gan Anweledig. Neud siwr bod pawb a'r felan go iawn yn mynd o na. A rhoi £ 1,000 o bunnau yn yr ewyllys am ffwc o gynhebrwng da yn pyb wedyn.

Swn i isio i'r arch fod yn agored yn yr angladd hefyd, fatha'r catholics, ond bo fi di gwisgo yn yng nghrys Celtic efo Larsson rhif 7 ar y cefn yn lle siwt

Honna di'r ffordd i fynd

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sul 29 Maw 2009 3:00 am
gan Mali
Dwi ddim yn meddwl i mi weld testun fel hyn ar maes-e o'r blaen. A na, Orcloth, ti ddim yn 'morbid' nac yn rhyfedd ! Mae pawb yn meddwl am hyn o bryd i'w gilydd , ond ddim yn fodlon sôn amdano ...ella rhag ofn i'r dydd ddod ynghynt ! :ofn:
Tydwi ddim isho pobl yn canu emynau depressing mewn unrhyw iaith yn fy angladd i ....dim ond cerddoriaeth hyfryd fel rhai o'r caneuon sy'n cael eu canu gan Sarah Brightman [ hei Doctor Sanchez mae gynnon ni rhywbeth mewn cyffredin :winc: ] .

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sul 29 Maw 2009 9:36 am
gan Hogyn o Rachub
Bydda i'n licio meddwl am fy nghynhebrwng, ac mi fydd pawb mewn siwtiau duon ac yn drist, blydi cynhebrwng ydi o wedi'r cwbl ddim syrcas - dwi'm yn licio'r syniad modern 'ma o gynhebryngau 'hwyl'. Ti'm i fod yn hapus mewn cynhebrwng nagwyt? Ta waeth, yr emynau i mi fydda fel Orlcloth, O Fy Iesu Bendigedig, a hefyd Pantyfedwen. Dwi methu meddwl am y gan olaf, ond Dros Gymru'n Gwlad ar yr organ wrth i mi gael fy hebrwng i allan i fan fy nghladdu.

A well bod 'na ddagrau myn dian i.

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sul 29 Maw 2009 2:32 pm
gan Orcloth
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Bydda i'n licio meddwl am fy nghynhebrwng, ac mi fydd pawb mewn siwtiau duon ac yn drist, blydi cynhebrwng ydi o wedi'r cwbl ddim syrcas - dwi'm yn licio'r syniad modern 'ma o gynhebryngau 'hwyl'. Ti'm i fod yn hapus mewn cynhebrwng nagwyt? Ta waeth, yr emynau i mi fydda fel Orlcloth, O Fy Iesu Bendigedig, a hefyd Pantyfedwen. Dwi methu meddwl am y gan olaf, ond Dros Gymru'n Gwlad ar yr organ wrth i mi gael fy hebrwng i allan i fan fy nghladdu.

A well bod 'na ddagrau myn dian i.


Ia, swn i'n licio tasa pawb yn crio fatha ffyliaid ar ol i mi fynd, hefyd.
Ti'n iawn, dwi'm yn licio'r syniad o gael cynhebryngau hefo pobol di gwisgo'n lliwgar, ac yn cael rhyw fath o barti dathliad bywyd rhywun, chwaith, ond pawb a'i dast personol ei hun, yn de?

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Mer 15 Ebr 2009 8:08 pm
gan Chickenfoot
Dw i isio "See you Later Alligator" ac arch cardboard.

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Mer 15 Ebr 2009 9:07 pm
gan Seonaidh/Sioni
Swn i'n hoffi rhywbeth fel "21st Century Schizoid Man" gan King Crimson.

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Iau 16 Ebr 2009 1:45 pm
gan Orcloth
Chickenfoot a ddywedodd:Dw i isio "See you Later Alligator" ac arch cardboard.


Lle fysan ni'n debygol o dy weld, felly - y nefoedd ta'r lle arall na? :winc:
Ti isio dy grimatio neu'th gladdu?

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Iau 16 Ebr 2009 1:59 pm
gan Hogyn o Rachub
Er mwyn hwyluso'r drafodaeth

Gymera i'r un y swper olaf a fydd yn dda achos dwi eisoes wedi byw yn hirach nag y dylai neb o fyta coginio Nain sydd, heblaw am grefi rhaid dweud, yn bur afiach.