Tudalen 2 o 4

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Iau 16 Ebr 2009 2:18 pm
gan Orcloth
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Er mwyn hwyluso'r drafodaeth

Gymera i'r un y swper olaf a fydd yn dda achos dwi eisoes wedi byw yn hirach nag y dylai neb o fyta coginio Nain sydd, heblaw am grefi rhaid dweud, yn bur afiach.


O mai god, nath hynna neud i mi deimlo reit sal..... nid yn unig y prisiau, chwaith!
O'n i'n meddwl mai lle prynu soffa oedd dfs!
Yr un swper olaf? Welaist ti faint oedd ei bris o? Blydi ridiciwlys, tydi? Dwi'n tueddu am yr un gardbord fatha Chickenfoot, dwi'n meddwl, ar ol gweld hynna! Dychrynllyd, wir! A welaist ti faint oeddan nhw'n godi am yr "extras"? Blydi hel, dwi jest a gael fy nghladdu'n yr ardd gefn! :lol:

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Iau 16 Ebr 2009 2:40 pm
gan Hogyn o Rachub
Sâl wir Dduw, mae angen paratoi! Y peth ola wna i ar y ddaear hon ydi cael fy nghynhebrwng, waeth i mi gael arch mawr moethus (a digon ffansi os ca i ddweud). Fydda i ddigon fodlon yn hwnnw dwi'n ama dim.

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Iau 16 Ebr 2009 2:52 pm
gan Orcloth
Ti'n meddwl talu allan am un o'r plania funeral expenses na felly, fatha rheiny mae nhw'n hysbysebu ar y teli-box, ta sgin ti ddigon o bres dy hun di safio?

Byddi di'n gyfforddus iawn yn honna, ti'n deud y gwir. Dwi'n tybio mai am gael dy gladdu wyt ti felly, fysat ti'm isio i arch ddel fel'na gael ei llosgi'n ddim - wel, dim ar ol talu gymaint amdani!

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Iau 16 Ebr 2009 3:09 pm
gan Hogyn o Rachub
Argol mawr na llosgwn i mo rywbeth fel'na. 'Swn i ddim isio cael fy llosgi a'm rhyddhau i'r gwynt achos wn i ddim lle fyddwn i'n endio fyny nafswn?

Safia i drwy 'mywyd i gael cynhebrwng go dda, ond dwi ddim yn meddwl y tala i am y bwyd ar ôl y cynhebrwng. Byddwn i'n gwenu'n slei o weld pawb yn llwgu ar ôl cnebrwng hir a diflas, a chwyno am y peth am wsos dda. Maen nhw'n dweud yr aiff dyn i'r nefoedd yn ôl ei weithgareddau ar y ddaear, felly os byddaf yn dda tra'n fyw ond yn fasdad ar ôl marw (dwi'n gwybod dydi peidio â phrynu bwyd ôl-cnebrwng wirioneddol yn 'bod yn fastad' ond...), wel, mae dwylo 'rhen Dduw wedi'i glymu, ac i'r nefoedd yr âf i rannu jôcs chwil a budur efo'r archangylion.

Ydi hi'n well cael dy gofio am fod yn rhywun drwg, neu dy anghofio am fod yn rhywun da? Dyna'r cwestiwn mawr (sy ar drywydd hollol wahanol i wraidd y sgwrs 'ma, ond mi ydw i'n hynod o bôrd heddiw).

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Iau 16 Ebr 2009 5:03 pm
gan Orcloth
Os na chan nhw 'nghladdu yn yr ardd gefn, fyswn i'n licio cael fy llosgi yn nghrem Bangor, ac iddynt roi ngweddillion mewn bocs bach twt, ac wedyn claddu hwnnw ym mynwent Rhandir Hedd yn Llanfairpwll. (Da ni hefyd wedi bod yn trafod angladdau a dwi wedi deud wrthyn nhw be dwi isio).
Dwi'n meddwl be fysan nhw'n neud beth bynnag ar ol yr angladd, fysa defnyddio dy bres di i dalu am y bwyd a diod - fyddi di'm yno i gwyno!
Siwr y cei fynd i'r nefoedd fatha finna ar ol i ti fynd, fysai'n braf cael gweld rhai pobol eto. Gobeithio ydw i y gwelai fy nghi oedd gyno ni ers stalwm, ngwas annwyl i!
Swn i'n meddwl y bysai''n well i bobol dy gofio fatha rhywun da, hefo atgofion melys amdanat, yn hytrach nac iddynt gofio'r pethau drwg ac afiach a wnest.

o.n. O'n i'n gwrando ar Champion p'nawn ma, ac mi chwaraeon nhw gan James Blunt "Carry me Home" - o'n i'n meddwl y bysa honno'n gan dda i chwarae mewn angladd.

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 2:03 am
gan Mali

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 3:26 am
gan Chickenfoot
Orcloth a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Dw i isio "See you Later Alligator" ac arch cardboard.


Lle fysan ni'n debygol o dy weld, felly - y nefoedd ta'r lle arall na? :winc:
Ti isio dy grimatio neu'th gladdu?


Yn pydru o dan y ddaear, os fydd gen ti rhaw a stumog cryf. Cael fy nghladdu - mae cremation i'w weld fel gwastraff amser i fi. Dw i am adael orchmynion i pwy bynnag fydd yn ddigon anffodus i drefnu fy angladd:

- Mi fyddwn i'n cael fy nghladdu mewn wisg pirate, hefo'r pocedi'n llawn o de blumes/pres siocled
- Pawb i grio o leiaf unwaith
- Cerddoriaeth organ fel da chi'n ei clywed ar raglenni God TV ayyb
- Pawb i waeddu "Church!", "Testify!", "Tabernacl!" neu "Preach!" ar ol i'r weinidog gorffen brawddeg.
- Pawb i neud yr electric slide ar ddiwedd y wasanaeth/ar fy medd
- Pawb i wisgo fel Iesu Grist
- Pawb i ganu "I wish I could Fly" gan Keith Harris ac Orville
- Gorffen hefo theme tune Benny Hill
- Dw i isio i'n arch cael ei gwthio lawr water slide er mwyn cyrraedd fy medd.

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 9:06 am
gan Orcloth
Chick - be wyt ti'n da ar dy draed am hanner awr wedi pedwar y bore, yn meddwl am betha fel hyn? Oni bai am hynny, mae dy angladd di'n swnio'n ffantastic, yn enwedig y gwaeddi "Church" a "Testify" ar ol diwedd brawddeg y gweinidog - gwych! Un broblem fach - gobeithio fydd yr arch gardbord ddim yn torri wrth fynd lawr yr waterslide, a hefyd fydd y bedd yn llenwi hefo dwr, bydd? Mmm, bydd rhaid i chdi sortio petha fel hyn allan! Dwi'n licio'r syniad fod pawb i wisgo fel Iesu Grist, byddent yn edrych yn gret hefo wigs gwallt hir a stic-on locsyn a mwstash (y merched hefyd)!

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 4:48 pm
gan Chickenfoot
Orcloth a ddywedodd: Un broblem fach - gobeithio fydd yr arch gardbord ddim yn torri wrth fynd lawr yr waterslide, a hefyd fydd y bedd yn llenwi hefo dwr, bydd?


Testify, my brother! Beth am i'n ngorff cael ei gwthio lawr y sleid, lanio yn fy arch a'r drws yn cau? Cyn i, a thra mae, hyn ddigwydd, 'swn i isio cor gospel (sydd hefyd wedi gwisgo fel yr Iesu) canu theme tune Record Breakers, complete with jazz hands wrth orffen.

Be' dw i'n wneud i fyny'n gynnar yn y bore yn meddwl am y fath sothach? Cyfuniad o ddiweithdra a bodycloc skew-whiff :(

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 6:02 pm
gan Orcloth
O'n i jest iawn a pi-pi yn fy mlwmar rwan, o'n i'n chwerthin gymaint - ti mor fflipin doniol! Swn i wrth fy modd yn gweld hynna - ga'i ddwad i dy angladd, mae o'n swnio fel lot fawr o hwyl - heblaw y byddem i gyd yn crio (wrth chwerthin).
Ddrwg gen i dy fod yn ddi-waith ar hyn o bryd, cofia - gobeithio y daw rhywbeth yn fuan i ti - sgin ti rwbath ar y gorwel? :(