Tudalen 3 o 4

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 6:51 pm
gan Kez
Orcloth a ddywedodd:O'n i jest iawn a pi-pi yn fy mlwmar rwan, o'n i'n chwerthin gymaint - ti mor fflipin doniol! (



Ay Orcloth, gobitho taw bod yn sarci ot ti wth chikenfoot - wela i mo ti mwn blwmars; ti i weld yn lot rhy bert a 'classy' ac os oes gen ti fwtash o dan dy en - pwy odtsh - ma'r llun wrth dy enw di yn neis iawn :winc:

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 7:24 pm
gan Chickenfoot
Orcloth a ddywedodd:O'n i jest iawn a pi-pi yn fy mlwmar rwan, o'n i'n chwerthin gymaint - ti mor fflipin doniol! Swn i wrth fy modd yn gweld hynna - ga'i ddwad i dy angladd, mae o'n swnio fel lot fawr o hwyl - heblaw y byddem i gyd yn crio (wrth chwerthin).



Fi? Doniol? Horus H Christ, mae o wedi digwydd o'r diwedd!

Cei, siwr...ond bydd rhaid i ti wisgo visitors' pass a phasio criminal record check cyn i ti gael canitad swyddogol, ynde.

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 8:02 pm
gan Orcloth
Chick - diolch am y gwahoddiad (answyddogol) - dwi'n edrych ymlaen yn barod! Dim problem pasio'r criminal record check, met, dwi'n wyn fel y galchen!
Kez - Na, to'n i'm yn bod yn sarci, oedd o'n ddoniol tu hwnt - wyt ti di ddarllen be ddeudodd o? Ti'n meddwl mai fur coat and no knickers fyddai'n wisgo? Sgynno fi'm mwstash na locsyn chwaith, a diolch am ganmol y llun! Mi gaeth ei dynnu ar ddiwrnod da, mae'n rhaid! :winc: :D

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sul 19 Ebr 2009 12:54 pm
gan Orcloth
Doctor Sanchez a ddywedodd:Pam bod rhaid cael emynau?

Sa well gin i ghetto blaster mawr yn chwarae 'The End' gan y Doors, 'Time To Say Goodbye' gan Bocelli a Brightman, a 'Scratchy' gan Anweledig. Neud siwr bod pawb a'r felan go iawn yn mynd o na. A rhoi £ 1,000 o bunnau yn yr ewyllys am ffwc o gynhebrwng da yn pyb wedyn.

Swn i isio i'r arch fod yn agored yn yr angladd hefyd, fatha'r catholics, ond bo fi di gwisgo yn yng nghrys Celtic efo Larsson rhif 7 ar y cefn yn lle siwt

Honna di'r ffordd i fynd


Dwi newydd sylweddoli be ti di ddeud - os ti mewn arch a honno'n agored, yn gwisgo crys Celtic hefo Larsson rhif 7 ar y cefn, fedrith neb weld mai dyna be ydi o, gosa bo chdi'n gorwedd ar dy ffrynt neu'n ista'i fyny!

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sul 19 Ebr 2009 9:54 pm
gan Doctor Sanchez
Orcloth a ddywedodd:
Doctor Sanchez a ddywedodd:Pam bod rhaid cael emynau?

Sa well gin i ghetto blaster mawr yn chwarae 'The End' gan y Doors, 'Time To Say Goodbye' gan Bocelli a Brightman, a 'Scratchy' gan Anweledig. Neud siwr bod pawb a'r felan go iawn yn mynd o na. A rhoi £ 1,000 o bunnau yn yr ewyllys am ffwc o gynhebrwng da yn pyb wedyn.

Swn i isio i'r arch fod yn agored yn yr angladd hefyd, fatha'r catholics, ond bo fi di gwisgo yn yng nghrys Celtic efo Larsson rhif 7 ar y cefn yn lle siwt

Honna di'r ffordd i fynd


Dwi newydd sylweddoli be ti di ddeud - os ti mewn arch a honno'n agored, yn gwisgo crys Celtic hefo Larsson rhif 7 ar y cefn, fedrith neb weld mai dyna be ydi o, gosa bo chdi'n gorwedd ar dy ffrynt neu'n ista'i fyny!


Ia nesh i'm meddwl am honna dan o'n i di sgwennu fo. Fedraim gweld fi'n cael get awe efo gorfadd mewn arch efo'n ngwynab yn pwyntio am i lawr :winc:

Diom ots bo na neb arall yn gwbod bod gen i Larsson ar y cefn, swn i'n gwbod :D

Swn i hefyd yn licio adio 'This is Yesterday' gan y Manics at 'Ddy Best Ffiwneral Albym In The Wyrld Efyr'

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sad 20 Meh 2009 1:32 pm
gan Orcloth
Dwi'n gwybod bod hwn bellach yn hen bwnc, ond f'un i ydio, felly dwi'n meddwl bod gennyf hawl i'w atgyfodi (!!!).
Dwi di meddwl am emyn arall fyswn i'n licio i bobol ganu yn f'angladd - "Pererin wyf mewn anial dir...." - dwi wrth fy modd hefo'r geiriau a'r don.
Wrth bod f'angladd am fod yn un hiiiiiiirrrrr iawn (pedair emyn o leia cyn belled!), dwi hefyd wedi penderfynu y cawn nhw chwarae o leia pedair can Eagles hefyd, sef:-
Desperado
Already Gone
Take it to the Limit
a
After the Thrill is Gone

Yndw, dwi dal i feddwl fy mod yn byw'n y 70'au, yn dal i wrando ar yr Eagles, Rainbow a David Cassidy!!!! Trist, de?!!! (na, dim rili!!! - tydyn nhw'm yn sgwennu caneuon mor dda dyddia yma ag oeddan nhw ers stalwm!). :D :winc:

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sad 20 Meh 2009 6:40 pm
gan Mali
Orcloth a ddywedodd: a David Cassidy!!!!


:D

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sad 20 Meh 2009 7:30 pm
gan Orcloth
Wel ia, Mali, toedd o'n gorjys (a dal yn!!!!) :D
Y gwallt feather cut, llgada glas, a'r corff na.............. mmmmmmmmmm!!!!! (a'r llais wrth gwrs, rhag ofn i chdi feddwl mod i'n totali secs-mad!!!!!) :winc:

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sul 21 Meh 2009 2:32 am
gan Mali
Orcloth a ddywedodd:Wel ia, Mali, toedd o'n gorjys (a dal yn!!!!) :D
Y gwallt feather cut, llgada glas, a'r corff na.............. mmmmmmmmmm!!!!! (a'r llais wrth gwrs, rhag ofn i chdi feddwl mod i'n totali secs-mad!!!!!) :winc:


He he.....fel y taswn i'n meddwl hynny amdanat ! :winc: :lol:
'Roedd David Cassidy ar waliau'r lofft , yn fy scrapbooks , ac ar fy meddwl i bob awr o'r dydd yn y 70au. :D Gefais i rioed y siawns o'i weld o'n FYW chwaith ....ddim yn licio methu ysgol i fynd i weld o ym Manceinion. :crio: Ah wel.....ella câf ei weld o yn Vancouver rhyw ddiwrnod !
A dyna sut ddaru ni symud o emynau cynhebrwng i gerddoriaeth y 70au lol.

Re: Emynau Cynhebrwng

PostioPostiwyd: Sul 21 Meh 2009 9:59 am
gan Jon Sais
Mae fy nhad wedi gofyn am 'Wish me luck as you wave me goodbye' gan Gracie Fields wrth i'r arch diflannu y tu ôl i'r llenni yn yr amlosgfa, ond i mi yn bersonol dw i eisiau cerddoriaeth fel 'Lark Ascending' sy'n ddarn hyfryd yn fy marn i. 8)