Tudalen 1 o 3

Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Gwe 10 Ebr 2009 2:07 pm
gan Orcloth
Pasg hapus i chi i gyd! Gobeithio cewch chi ddigon o hot cros byns a wyau pasg, de!
Dwi'n ista'n fyma'n chwarae knuffel a darllen be sgin y gweddill ohonoch chi i ddeud p'nawn ma (dim llawer) ac yn meddwl am Iesu'n diodda ar y groes ar ddydd Gwener y Groglith, yn ddistaw bach hefo fi'n hun.
Mae dyn drws nesa'n llnau y patio hefo'i blydi power washer newydd ac yn mynd ar fy nerfau i! Fedrai'm diodda llawer o hyn, mae o di bod wrthi ers hydoedd. Digon a rhoi cur pen i chi wir! Peth nesa fydd na rhywun yn dechra torri gwair. Pam na fedrith pobol ddim jest ista'n ty yn ddistaw, neu mynd allan i rhywle o'r ffordd, dwch? Wwwww, fydda'in ei roid o o dan y blydi patio na yn y munud!

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Gwe 10 Ebr 2009 3:43 pm
gan Mali
He he ... :lol: A finna'n meddwl dy fod ti'n mynd i sôn am wyn bach a petha bach neis felly ! :winc:
Ar y funud mae hi'n reit ddistaw yma [ dim ond 8.30 y bore ] , ond am 10.30 am ac am 2.30 heddiw , fe fyddwn yn saff o glywed sŵn byddarol y Snowbirds yn ymarfer eu manwfŷrs uwchben Comox. Dyma nhw:



Pâsg hapus i ti Orcloth ac i bawb ar maes-e. :)

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Gwe 10 Ebr 2009 6:42 pm
gan Orcloth
Diolch Mali am dy ddymuniadau da!
Waw, roedd yr awyrennau na'n wych, ond yn llawer rhy swnllyd os ydio'n digwydd uwchben ty rhywun!
Dyn drws nesa wedi stopio gwneud swn hefo'i power washer bellach, roedd wrthi am dros ddwy-awr yn llnau a'i hen ddwr budur yn llifo heibio'n gardd gefn ni! Mae'n siwr fydd o'n torri gwair neu cnocio hoelion ben bore fory, a'n deffro ni i gyd. Grrrrrr!!!

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Sad 11 Ebr 2009 9:58 am
gan Orcloth
O, ia, dwi newydd sylweddoli pam fod dynion yn gyffredinol wrthi'n chwarae hefo'u twls penwythnos yma - am bod hi'n benwythnos hir, mae nhw isio ail-weirio'r National Grid toes? :winc:

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Sad 11 Ebr 2009 11:56 am
gan Chickenfoot
"Iesu'n dioddef ar y groes"? Dw i'm yn gwybod lle mae'r darn drwg i Iesu. Granted, mae'n gorfod osgoi merched ac yn cael ei ladd, ond 'roed ganddo fo super powers a mae'n cael eistedd wrth ymyl Daddy (sydd yn fo go iawn) a ryw ysbryd (sydd yn fo, hefyd) a theyrnasu dros y bydysawd fel ryw fath o mega zombie. 'Swn i'n rip-off o Horus a Mithras a Krishna, 'swn i'n eitha' hapus hefo hynna.

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Sad 11 Ebr 2009 4:22 pm
gan Orcloth
Ia, Chick, ella'i bod hi'n iawn arno fo rwan, ond fyddet ti'n licio cael dy hoelio ar groes gerfydd dy ddwylo a'th draed, a dy adael yn y poen mwya erchyll, tan ti'n marw? Dim diolch, met, tydio ddim yn swnio'n gret i mi, beth bynnag!

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Sad 11 Ebr 2009 7:22 pm
gan Chickenfoot
Orcloth a ddywedodd:Ia, Chick, ella'i bod hi'n iawn arno fo rwan, ond fyddet ti'n licio cael dy hoelio ar groes gerfydd dy ddwylo a'th draed, a dy adael yn y poen mwya erchyll, tan ti'n marw? Dim diolch, met, tydio ddim yn swnio'n gret i mi, beth bynnag!


Sounds like a pretty fucking sweet deal to me. Diwrnod, os hynna, o boen i fod yn Zombie holl-bwerus sydd yn rheoli pob dim fel poster boy y Justice League sanctaidd? Cool.

Nas Fuaswn, ond eto dydw i ddim yn Dduw mewn disguise, nacdw? Dydi mynd yn hollol Kamikaze pan mai chi yw'r hollalluog ddim yn llawer o aberth a dydi o ddim, yn neud synwyr, 'chwaith. Beth bynnag, os da chi'n danfon pobl i boen tragwyddol jest am peidio credu ynddo fo, ti'n haeddu ychydig o payback yn fy marn i.

Pasg hapus, dude.

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Sad 11 Ebr 2009 7:57 pm
gan Orcloth
Aye, Pasg hapus i titha hefyd. Pawb i gredu be mae nhw isio, de? Free country. Dwi'n tybio y byddi di'n mwynhau dy wyau Pasg, ta twyt ti'm yn credu mewn gwneud hynny chwaith? :winc:

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Sad 11 Ebr 2009 8:44 pm
gan Seonaidh/Sioni
Wyau Pasg - wedi anghofio prynu un i'r mab. Damo. Ond dim byd i ymwneud a'r Pasg - dyna, fel maen nhw'n dal i ddweud yn y Saesneg, "Easter" - Gwyl y Dduwies Eostre (efallai Matrona => Modron yn y Gymraeg, dwn im), duwies ffrywthlondeb - a dyna darddiad wyau Pasg.

Ond beth bynnag - mwynhewch!

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Sul 12 Ebr 2009 11:55 am
gan Hazel
Cwestiwn: O ble mae'r gwningen Pasg yn cael ei wyau? Bargen glyfar efo'r cywen, efallai? :D