Tudalen 2 o 3

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Sul 12 Ebr 2009 12:52 pm
gan Chickenfoot
Orcloth a ddywedodd:Aye, Pasg hapus i titha hefyd. Pawb i gredu be mae nhw isio, de? Free country. Dwi'n tybio y byddi di'n mwynhau dy wyau Pasg, ta twyt ti'm yn credu mewn gwneud hynny chwaith? :winc:


Ydi, ond basa fo ddim yn wald rhydd tasa'r Eglwys yn cael ei ffordd, fel dangosodd y Parchedig Andy ar y newyddion heddiw. Pawb i stopio'r hyn maen nhw gwneud rhag ofn eich bod yn gwneud y baban Iesu'n drist.

Ddim yn credu mewn wyau pasg? Na, maen wyau siocled yn swnio fel syniad hollol cwl, ond dw i jest ddim yn hoff iawn o'r blas. Dw i yn hoff o'r Easter Bunny, gan fy mod i wedi'i weld a MAE O'N WIR, IAWN!? :ofn: :x :ffeit:

O ran tarddiad y cwningen hudolus yma, dw i'n cytuno hefo Soouth Park...

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Sul 12 Ebr 2009 1:04 pm
gan Chickenfoot
Hazel a ddywedodd:Cwestiwn: O ble mae'r gwningen Pasg yn cael ei wyau? Bargen glyfar efo'r cywen, efallai? :D


Bulk deal, 'swn i'n feddwl. Efalla bod y Bunny mewn busnes hefo consortiwm o ieir - neu efall dim ond figurehead am y corfforaeth ydi o. Falla bod yr Easter Bunny'n dodwy'r wyau'i hun? Mae paethau rhyfeddach wedi digwydd...

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Sul 12 Ebr 2009 1:21 pm
gan Kez
Mae wyau Pasg yn symbolau ffrwythlondeb o dwll y cwyningod sydd yn fridwyr o fri – yn wahanol i Sion Corn odd ddim yn 'prolific breeder' ei hun – felly ombai boch chi’n cal lot fwy o wyau Pasg nag anrhegion Nadolig, ma rhywbeth yn bod!

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Llun 13 Ebr 2009 1:29 pm
gan Orcloth
Sut mae'r sgwrs yma wedi mynd ar gymaint o gyfieiliorn, dudwch? Da ni di symud dipyn bach oddi ar y trywydd gwreiddiol, dwi'n meddwl! Dim ond cwyno am dyn drws nesa'n gwneud swn nes i, a da chi di son am bethau hollol amherthnasol, fel peidio coelio yn y croeshoelio, cwningod Pasg, wyau Pasg (neu siolcled) ayyb! Od iawn! :D :winc:

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Llun 13 Ebr 2009 1:47 pm
gan Hazel
Mae'n ddrwg gen i. Yr ydych chi'n iawn. Maddwch i mi.

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Llun 13 Ebr 2009 3:13 pm
gan Orcloth
Hei, mae'n iawn, dim ond deud fy mod wedi sylwi wnes i! Dwi'n meddwl bod hyn yn digwydd hefo pynciau eraill hefyd yn reit aml! :D

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Llun 13 Ebr 2009 3:45 pm
gan Hazel
Dw i'n gwybod ond maen neis i aros ar y pwnc. :)

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Llun 13 Ebr 2009 7:51 pm
gan Orcloth
Mae'n rhaid nad oedd neb arall yn cael trafferth hefo'u cymdogion yn gwneud gormod o swn. Ai dyna pam aeth petha ar drywydd arall tybed? :winc:

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Llun 13 Ebr 2009 10:12 pm
gan Mali
Ti 'di gneud reit dda yn cael gymaint o ymateb ar edefyn yn ymwneud a'r Pasg.... :winc:
Gobeithio i ti gael Pasg Hapus er gwaethaf y dyn swnllyd sy'n byw drws nesaf i ti . Wn i be ti'n feddwl yn iawn ....mae gen i gymydog swnllyd hefyd ! Mae o newydd ddechrau ar y gwaith o wneud patio anferth yng nghefn ei dy , ac mae 'na drycs di ri wedi bod yn mynd heibio ein ty ers wythnos bellach. Ond oleiaf 'roedd pethau'n reit ddistaw yno dros Sul y Pasg. :D

Helo Hazel...gobeithio y cefaist ti Basg Hapus hefyd. Cofion cynnes i ti o Ganada. :D

Re: Swn y Pasg!

PostioPostiwyd: Llun 13 Ebr 2009 10:32 pm
gan Hazel
Mali a ddywedodd:Helo Hazel...gobeithio y cefaist ti Basg Hapus hefyd. Cofion cynnes i ti o Ganada. :D


Helo i ti, Mali. Roedd o'n Pasg hyfryd. Aethom ni â'r plant cymdogaeth ar helfa ŵy Pasg. Wedyn, bwytom ni brecinio Pasg. Dydd Sul Pasg hyfryd yr oedd e. A ti?