Mae gymaint o tebyrgwydd rhwng Mithras, Horus, Buddha, Krishna a Iesu - pam bod hyn? A pham bod un wedi llwyddo i oroesi'r ganrifoedd pan nad oes unrhyw sail hanesyddol i'w gwyrthiau? I ddweud y gwir, 'does ddim hanesyddion yn son amdano tu allan i'r Beibl (mae Jospehus yn "cut & paste job" a mae ddau eraill yn son am "Cristos", ond ddim yn mynd i fanylder ar bwy oedd yr "annointed one" hwnnw).
Pam bod reolau'r Book of the Dead mor debyg i reolau'r Hen Destament? Pam fod neges Iesu (sydd ymhell o fod yn un berffaith) mor debyg i syniadau Buddha? Ydi Iesu'n ddilyn ryw fath o template i fesiah, sydd wedi'i perffeithio dros y ganrifoedd? Ydi'r cufuniad o wyrthiau ac adran PR da wedi sicrhau ei statws? Oedd St. Paul wedi bod yn economaidd hefo'r gwir?
Fy mhrif cwestiwn yw, er fod gymaint o ddewisiadau o fesiah ar gael, pam bod adeiladwr o Nazareth wedi llwyddo, hyn yn oed pan mae ei feibl wedi'i profi'n ddogfen murky uffernol o ran moeseg?
**Gyda llaw, dw i ond yn pigo ar Iesu gan mai fo yw'r esiampl orau o'r Mesiahs yma - 'sgen i'm fawr o barch at unrhyw grefydd i ddweud y gwir, a mae dipyn ohonynt yn llawer mwy peryglus na cristnogaeth. Credu mewn bodolaeth deity, iawn, ond crefydd?