Tudalen 1 o 3

Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Maw 04 Awst 2009 1:54 pm
gan fREUd
Dwi'n meddwl gwneud ffilm fer i geisio hyrwyddo anghrediniaeth ac yn chwilio am gyfrannwyr. Ydych chi, neu yn nabod rhywun sydd, yn anghrediniwr llwyr (atheist), sydd yn fodlon son am eu daliadau ar gamera. Yn ogystal, dwi'n chwilio am rywun enwog, neu amlwg yn y 'pethau' Cymraeg, i ddweud rhywbeth tebyg. Felly, os ydach chi'n adnabod 'atheist enwog Cymraeg' neu os oes gennych rywbeth diddorol i'w ddweud ynglyn ag anghrediniaeth, plis cysylltwch. Diolch.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Maw 04 Awst 2009 10:17 pm
gan Duw
Drycha ar y seiad Ffydd a Chrefydd, dwi'n sicr gei di cwpwl o enwe.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Mer 05 Awst 2009 7:01 pm
gan fREUd
Oce, diolch ti.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Iau 06 Awst 2009 2:52 pm
gan Del
Wrth wrando ar Taro'r Post amser cinio - Iolo ap Gwynn, y gwyddonydd; mae e'n cydnabod yn agored ei fod yn anffyddiwr rhonc.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Iau 01 Hyd 2009 3:56 pm
gan Dylan
dw i'n anffyddiwr enwog tu hwnt

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Iau 01 Hyd 2009 4:30 pm
gan nicdafis
Roedd cerddi buddugol y Goron gan Ceri Wyn Jones yn delio â'i berthynas â ffydd, a'i golled. Ddim yn siwr a fyddai Ceri yn diffinio ei hunan fel anghredwr.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Iau 01 Hyd 2009 8:56 pm
gan Chickenfoot
Dw i'n anti-theist, a mi wna i talking head os dw i os dw i'n cael wisgo sbectol NHS, trwyn a mwstash ffug.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Hyd 2010 9:54 pm
gan Siani Flewog
Dwi'n anghrediniwr ond dwi ddim am fod ar gamera - sori . Digon i gyfrannu fel arall drwy ebost ac ati. Mae 'Cristnogion' ar y cyfan yn fy hala i'n walltgo tu hwnt ac yn arbennig y pabyddion. Mae Gwyn Llewelyn yn anghrediniwr ac wedi datgan hynny yn gyhoeddus yn dilyn trychineb Aberfan. Roedd e'n un o'r gohebwyr cyntaf (os nad y cyntaf) ar y safle ac (yn fyr) wedi penderfynnu os ydy'r fath drychineb yn gallu digwydd mae'n profi nad oes ffasiwn beth a Duw.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Hyd 2010 11:22 pm
gan tommybach
fREUd a ddywedodd:Dwi'n meddwl gwneud ffilm fer i geisio hyrwyddo anghrediniaeth ac yn chwilio am gyfrannwyr. Ydych chi, neu yn nabod rhywun sydd, yn anghrediniwr llwyr (atheist), sydd yn fodlon son am eu daliadau ar gamera. Yn ogystal, dwi'n chwilio am rywun enwog, neu amlwg yn y 'pethau' Cymraeg, i ddweud rhywbeth tebyg. Felly, os ydach chi'n adnabod 'atheist enwog Cymraeg' neu os oes gennych rywbeth diddorol i'w ddweud ynglyn ag anghrediniaeth, plis cysylltwch. Diolch.


Mae Cymru yn un o'r gwledydd mwyaf anghredinol yn y byd erbyn heddiw... Diolch byth!

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Hyd 2010 11:49 pm
gan Hedd Gwynfor
tommybach a ddywedodd:Mae Cymru yn un o'r gwledydd mwyaf anghredinol yn y byd erbyn heddiw... Diolch byth!


Fi'n credu bod y sefyllfa yn un trist iawn... :(