Tudalen 2 o 3

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Sul 17 Hyd 2010 11:20 am
gan garynysmon
Mater o farn ydi hynny. Fysa rhai yn dadlau fod y 'Protestant Work Ethic' wedi dal cenedlaetholdeb yn ol, llawer.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Sul 17 Hyd 2010 11:42 am
gan sian
garynysmon a ddywedodd:Mater o farn ydi hynny. Fysa rhai yn dadlau fod y 'Protestant Work Ethic' wedi dal cenedlaetholdeb yn ol, llawer.


Be ti'n feddwl? Y gred bo ti fod i wneud dy orau ym mhopeth ti'n neud yn dal cenedlaetholdeb yn ôl? Dwi'm yn deall.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Sul 17 Hyd 2010 12:16 pm
gan garynysmon
Wel, y ffug parchusrwydd oedd yn bodoli tan o leia hanner ffordd drwy'r ganrif dwytha. Ofn brwydro yn erbyn y tresi a.y.b.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Sul 17 Hyd 2010 1:03 pm
gan sian
garynysmon a ddywedodd:Wel, y ffug parchusrwydd oedd yn bodoli tan o leia hanner ffordd drwy'r ganrif dwytha. Ofn brwydro yn erbyn y tresi a.y.b.


1. Doedd pob parchusrwydd ddim yn ffug - o bell ffordd.
2. Oes tystiolaeth mai i gyfeiriad cenedlaetholdeb y byddai'r Cymry wedi troi heblaw am ddylanwad Cristnogaeth? A oedd e.e. sosialwyr yn fwy cenedlaetholgar na Christnogion?
(Dw i ddim yn gwybod)

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Sul 17 Hyd 2010 1:39 pm
gan Duw
Cyn bo hwn yn mynd off-piste. Dwi ddim yn 'abod bron neb sy'n credu yn y wiriwalocs 'ma bellach. Hedd yn dweud ei fod yn drist. Gallaf ond anghytuno, gan feddwl taw canlyniad gwlad yn dihuno a thyfu lan ydyw. Trist bo'r adeilade'n cwymp i racs - wylle, ond dwi'n casau popeth am yr hyn y maen nhw'n sefyll.

Os cawn wared ar y llygredd 'ma, wylle gwnaiff Radio Cymru atal ei ffolineb ar y Sul.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Sul 17 Hyd 2010 2:18 pm
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n cytuno efo Hedd. Mae cymdeithas ei hun wedi dadfeilio law yn llaw â chwymp crefydd - crefydd sefydledig o leiaf, wn i ddim a oes fawr ddirywiad wedi bod mewn ffydd bersonol (amhosib dweud rili). Ta waeth,parhau i ddirywio fydd dyfodol y ddau beth law yn llaw â'i gilydd mi dybiaf.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Sul 17 Hyd 2010 8:29 pm
gan Barry
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae cymdeithas ei hun wedi dadfeilio law yn llaw â chwymp crefydd


Rwy'n anghytuno'n llwyr. Heb grefydd, bydd rhaid i bobl sefyll ar eu traed eu hunain a dechrau ymddiried yn eu gallu eu hunain yn hytrach na dibynnu ar dduw dychmygol fydd, yn y diwedd, yn methu cyfiawnhau eu ffydd a'u gadael yn siomedig.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Sul 17 Hyd 2010 9:22 pm
gan Hogyn o Rachub
Fedra i ddallt y rhan gyntaf o dy sylw, efallai cytuno i raddau helaeth, ond dydi'r ail ran heb unrhyw gyfiawnhad o gwbl, barn bersonol (drahaus) ydi hi, dim mwy na llai.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Sul 17 Hyd 2010 11:30 pm
gan Barry
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Fedra i ddallt y rhan gyntaf o dy sylw, efallai cytuno i raddau helaeth, ond dydi'r ail ran heb unrhyw gyfiawnhad o gwbl, barn bersonol (drahaus) ydi hi, dim mwy na llai.

Trahaus? Y ffaith yw fod yna ddim tystiolaeth i fodolaeth Duw neu dduwiau o gwbl. Gall unrhyw un sôn am deimladau mewnol, ond mae pawb, o bob crefydd (a heb unrhyw grefydd o gwbl) yn cael yr un fath o deimladau mewnol sy'n cadarnhau iddyn nhw eu credoau personol.

Roeddwn i'n Gristion am 20 mlynedd, ond nawr rwy'n anffyddiwr ers imi sylweddoli mai dim ond ofergoel ddi-sail yw crefydd. Traha? Na, dim ond wynebu ffeithiau.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Llun 18 Hyd 2010 6:21 am
gan Josgin
O ran diddordeb, mae 20 mlynedd yn amser hir i ddal cred, ac yna ei wrthod. Pam wnest ti newid dy feddwl ?