Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?
Postiwyd: Llun 18 Hyd 2010 4:23 pm
Josgin a ddywedodd:O ran diddordeb, mae 20 mlynedd yn amser hir i ddal cred, ac yna ei wrthod. Pam wnest ti newid dy feddwl ?
Wel, rwy wastad wedi credu mewn cwestiynu popeth. Sylweddolais i fy mod i wedi cwestiynu pob agwedd o'r ffydd Gristnogol ond un: bodolaeth Duw ei hun.
Ar ôl meddwl am y peth am amser hir, a darllen llyfrau o'r dwy ochr, des i i'r canlyniad nad oedd unrhyw dystiolaeth am fodolaeth Duw, ac felly doedd dim rheswm i gredu mewn Duw.
Doedd hynny ddim yn beth hawdd i'w dderbyn ar ôl imi fod yn Gristion am amser mor hir, ond mae'r gwir yn well na theimladau neis. Ar ôl 20 mlynedd o fod yn Gristion, a hefyd yn bregethwr gyda gradd mewn Diwinyddiaeth a diploma mewn cenhadaeth, rwy nawr yn anffyddiwr - ac yn llawer hapusach.
Mae blog (yn Saesneg) gyda fi ar y pwnc, os oes diddordeb gyda ti: http://atheos-godless.blogspot.com