Tudalen 3 o 3

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Llun 18 Hyd 2010 4:23 pm
gan Barry
Josgin a ddywedodd:O ran diddordeb, mae 20 mlynedd yn amser hir i ddal cred, ac yna ei wrthod. Pam wnest ti newid dy feddwl ?

Wel, rwy wastad wedi credu mewn cwestiynu popeth. Sylweddolais i fy mod i wedi cwestiynu pob agwedd o'r ffydd Gristnogol ond un: bodolaeth Duw ei hun.

Ar ôl meddwl am y peth am amser hir, a darllen llyfrau o'r dwy ochr, des i i'r canlyniad nad oedd unrhyw dystiolaeth am fodolaeth Duw, ac felly doedd dim rheswm i gredu mewn Duw.

Doedd hynny ddim yn beth hawdd i'w dderbyn ar ôl imi fod yn Gristion am amser mor hir, ond mae'r gwir yn well na theimladau neis. Ar ôl 20 mlynedd o fod yn Gristion, a hefyd yn bregethwr gyda gradd mewn Diwinyddiaeth a diploma mewn cenhadaeth, rwy nawr yn anffyddiwr - ac yn llawer hapusach.

Mae blog (yn Saesneg) gyda fi ar y pwnc, os oes diddordeb gyda ti: http://atheos-godless.blogspot.com

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Llun 18 Hyd 2010 5:16 pm
gan Hazel
O ble daeth y cyfanfyd? Efallai fyddech chi'n hoffi darllen "God's Universe" gan Owen Gingerich. Mae'n llyfr amlwg am bwnc o'r math hwn.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Llun 18 Hyd 2010 11:10 pm
gan Barry
Hazel a ddywedodd:O ble daeth y cyfanfyd?


Does neb yn gwybod. Ond does dim rheswm i feddwl mai Duw creodd yr holl beth. Os wyt ti'n credu mewn Duw, mae'n rhaid iti ofyn "O ble daeth Duw?". Os oes angen creawdwr er mwyn i'r cyfanfyd fodoli, mae angen creawdur er mwyn i Dduw fodoli hefyd.

Hazel a ddywedodd:Efallai fyddech chi'n hoffi darllen "God's Universe" gan Owen Gingerich. Mae'n llyfr amlwg am bwnc o'r math hwn.

Byddai'n well gyda fi ddarllen llyfr newydd Stephen Hawking - o leiaf mae ei syniadau e'n dod o'i ddealltwriaeth o'r ffeithiau, yn hytrach na dehongliad o fythau o'r Oes Efydd (nadroedd sy'n siarad a llewod llysysol?).

Dros yr ugain mlynedd diwethaf rwy wedi darllen digon o lyfrau Cristnogol am un bywyd, diolch.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Maw 19 Hyd 2010 11:23 am
gan ceribethlem
Hazel a ddywedodd:O ble daeth y cyfanfyd?

:lol:
Gwych!

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Maw 19 Hyd 2010 6:01 pm
gan Duw
Nawr, nawr Ceri, ware'n neis.

Pan na fydd ateb amlwg, pan fydd diffyg tystiolaeth - Duw a'I wyrthoedd sydd wrth gefn yr holl beth yn siwr.

Mae'r hocys pocys hyn wedi'i drafod i uffern a nôl ar y seiad 'ma.

Re: Da chi'n nabod anghrediniwr?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Hyd 2010 7:31 am
gan Jon Sais
Os oes diddordeb ymhlith aelodau'r seiat yma mae'na Grŵp ar Facebook o dan yr enw Anffyddwyr Hapus, Gwelir http://www.facebook.com/#!/group.php?gi ... 5756379193
pob hwyl
Jon Sais

Duw a ddywedodd:Nawr, nawr Ceri, ware'n neis.

Pan na fydd ateb amlwg, pan fydd diffyg tystiolaeth - Duw a'I wyrthoedd sydd wrth gefn yr holl beth yn siwr.

Mae'r hocys pocys hyn wedi'i drafod i uffern a nôl ar y seiad 'ma.