Tudalen 1 o 1

Gwahoddiad - Cwrs Darganfod

PostioPostiwyd: Mer 23 Medi 2009 10:27 pm
gan Dewi Lodge
DARGANFOD

Yn Festri Capel y Drindod, Pwllheli am 7.30, bob nos Lun am 10 wythnos yn cychwyn ar y 28ain o Fedi, 2009.

Cwrs i ddarganfod mwy am y Ffydd Gristnogol:

1. Y Cynllun Mawr - Iesu Grist, yr Alffa a'r Omega.
2. Pam daeth Iesu i'r Byd?
3. Y Croeshoeliad - Pam?
4. Atgyfodiad Iesu Grist.
5. Byth ar dy ben dy hun - Gweddio.
6. Byth ar dy ben dy hun - Yr Ysbryd Glan.
7. Byth ar dy ben dy hun - Y Beibl.
8. Cwmni - Yr Eglwys ac Addoli.
9. Bodolaeth Drygioni.
10. Beth sydd a wnelo hyn a fi?

Ceir cyflwyniadau ar bob pwnc gan Bryn Williams a wedyn ceir grwpiau trafod anffurfiol iawn. Rhagwelir i'r sesiynau redeg o 7.30 tan oddeutu 9.00 a darperir lluniaeth ysgafn ar y diwedd.

Croeso i bawb. Dewch i ddarganfod mwy!

Re: Gwahoddiad - Cwrs Darganfod

PostioPostiwyd: Iau 24 Medi 2009 6:15 pm
gan Chickenfoot
Mi fasa prawf neu achos cryf yn fy mherswado i ddod. Sgen ti un o'r ddau? Just messing, pob hwyl hefo'r noson. :D

Re: Gwahoddiad - Cwrs Darganfod

PostioPostiwyd: Iau 24 Medi 2009 6:44 pm
gan Ray Diota
Dewi Lodge a ddywedodd:9. Bodolaeth Drygioni.


joio