DARGANFOD
Yn Festri Capel y Drindod, Pwllheli am 7.30, bob nos Lun am 10 wythnos yn cychwyn ar y 28ain o Fedi, 2009.
Cwrs i ddarganfod mwy am y Ffydd Gristnogol:
1. Y Cynllun Mawr - Iesu Grist, yr Alffa a'r Omega.
2. Pam daeth Iesu i'r Byd?
3. Y Croeshoeliad - Pam?
4. Atgyfodiad Iesu Grist.
5. Byth ar dy ben dy hun - Gweddio.
6. Byth ar dy ben dy hun - Yr Ysbryd Glan.
7. Byth ar dy ben dy hun - Y Beibl.
8. Cwmni - Yr Eglwys ac Addoli.
9. Bodolaeth Drygioni.
10. Beth sydd a wnelo hyn a fi?
Ceir cyflwyniadau ar bob pwnc gan Bryn Williams a wedyn ceir grwpiau trafod anffurfiol iawn. Rhagwelir i'r sesiynau redeg o 7.30 tan oddeutu 9.00 a darperir lluniaeth ysgafn ar y diwedd.
Croeso i bawb. Dewch i ddarganfod mwy!