Tudalen 1 o 1

Yr Iddewon a Christnogaeth

PostioPostiwyd: Sul 27 Rhag 2009 7:57 pm
gan Josgin
Cwestiwn a wnaeth daro fi y diwrnod o'r blaen : Sut i Gristnogaeth fethu ymysg Iddewon ?
H.Y. , os wnaeth Cristnogaeth ddod yn grefydd a oedd bron yn orfodol o dan oruchwyliaeth Rhufain, sut
methwyd gyda'r Iddewon ? . Credaf mai'r drafodaeth ddiweddar ar ganu plygain a wnaeth ddod a hyn i'r meddwl .
A fu'r ffasiwn beth a chymunedau cryf o Gristnogion o dras Iddewig yn byw ym Malesteina yn y canrifoedd cynnar O.C. ,
neu a oes rhywbeth o fewn credo Iddewiaeth sydd wedi golygu fod Cristnogaeth yn annerbyniol o'r dechrau ?

Re: Yr Iddewon a Christnogaeth

PostioPostiwyd: Sul 27 Rhag 2009 10:59 pm
gan Seonaidh/Sioni
Ddim yn sicr, ond credaf nad oes ond mymryn o wahaniaeth rhwng Cristnogaeth, Iddewaeth ac Islam. Mae'r tair ffydd yn credu yn y Meseia. I'r Iddew, rydym ni'n dal i'w ymaros. I'r Mwslem, rydym ni'n dal i'w ymaros, ond bu Iesu Grist yn broffwyd amdano, hefyd Mohamed. I'r Cristion, Iesu Grist oedd (ac ydyw) y Meseia.

Doedd yr Ymerodraeth Rufeinig ddim yn Gristnogol ond efallai am ganrif. Cyn hynny, byddai Cristnogion yn cael eu herlid o bryd i'w gilydd. Felly hyd yn oed ar ol pryd Cystennin (ymherod Cristnogol cyntaf), basai grwpiau sylweddol yn yr ymerodraeth yn erbyn Cristnogaeth (tybed nad oedd y Mithrasyddion yn ddigon cryf, ymysg eraill). Felly, dim syndod i'r Iddewon oroesi hynny. Ac, mewn gwirionedd, ond oedd Islam ond cais am gysylltu Iddewaeth a Christnogaeth?

Re: Yr Iddewon a Christnogaeth

PostioPostiwyd: Llun 28 Rhag 2009 12:29 am
gan Rhys Llwyd
Rhaid cofio fod llawer os nad y mwyaf o Iddewon wedi dod yn Gristnogion. Mae penodau cyntaf Llyfr yr Actau yn cofnodi twf a lledaeniad y ffydd Gristnogol ymysg yr Iddewon gyda pennodau olaf Actau wedyn yn cofnodi lledaeniad a thwf y ffydd ymysg y cenhedloedd, hynny yw pawb arall. Fe geir llawer adroddiad am garfannau o Iddewon oedd yn gwrthod y ddysgeidiaeth newydd yma yn llyfr yr Actau ac hefyd yn llythyrau Paul ac ymddengys mae asgwrn y gynnen gan amlaf oedd fod yr Iddewon yma yn gyntaf methu a deall na derbyn y bo Iesu wedi cyflawni'r Ddeddf ar y Groes ac felly mae drwy ffydd bellach ac nid trwy ddefodau a thraddodiad oedd eitifeddu Teyrnas Dduw. Yn ail roedd llawer o Iddewon yn ei chael hi'n annodd derbyn fod Crist wedi dod i achub yr holl genhedloedd ac nid jest eu cenedl nhw. Daeth Crist fel bom i ganol y byd Iddewig gan droi popeth ar ei ben, hyd yn oed os na ellir cytuno gyda'r Iddewon gellid deall i raddau pam fod rhai carfannau wedi gwrthod Iesu fel y Meseia. Dim croeso i broffwyd yn ei wlad ei hun etc... Ond fel dywedais ar y cychwyn y peth pwysig i nodi yw fod yna lawer iawn o Iddewon wedi dod ac yn parhau i fod yn Gristnogion - jest fod y rhai oedd ddim yn vocal eu gwrthwynebiad.

O ran yr ail sylwad yn dweud fod Iddewiaeth, Moslemiaeth a Christnogaeth yn y bon yr un peth. Y maen wir fod gwreiddiau'r dair grefydd yn medru cael ei deillio'n ol i Abraham OND mae yna un peth allweddol sy'n gwahaniaethu'r ffydd Gristnogol oddi wrth Iddewiaeth a Moslemiaeth. Fe ddysga Iddewiaeth a Moslemiaeth fod Iesu'n ddyn da, ymysg y gorau ac ei fod yn broffwyd. Ond fe ddysg Cristnogaethei fod yn fwy na hynny, fe ddysg Cristnogaeth ei fod yn Waredwr ac yn Dduw. Nid gwahaniaeth bychan yw hynny ond y mae yn symud y ffydd Gristnogol i gategori cwbwl wahanol i Iddewiaeth a Moslemiaeth o grefydd.

Fe berthyn y ffydd Iddewig a Moslemaidd i'r categori hwnnw o grefydd sy'n dweud fod rhaid i ddyn gyraedd Duw drwy ymdrech, ufudd-dod a chadw deddf. Ond fe berthyn Cristnogaeth i'r categori sy'n dysgu fod Duw yn estyn at ddyn trwy haelioni a gras yn Iesu Grist. Un yn gosod dyn ar brawf a'r naill yn gofyn am ddim ond ffydd syml yn Iesu.

Mi ddeallaf i pam felly y dewisodd llawer o Iddewon 2,000 o flynyddoedd yn ol ddewis dilyn y grefydd newydd a dyna pam dwi a ffydd ac yn ei dilyn hi 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Re: Yr Iddewon a Christnogaeth

PostioPostiwyd: Llun 28 Rhag 2009 1:23 am
gan Duw
Rhys Llwyd a ddywedodd:... fe berthyn Cristnogaeth i'r categori sy'n dysgu fod Duw yn estyn at ddyn trwy haelioni a gras yn Iesu Grist. Un yn gosod dyn ar brawf a'r naill yn gofyn am ddim ond ffydd syml yn Iesu.
Mi ddeallaf i pam felly y dewisodd llawer o Iddewon 2,000 o flynyddoedd yn ol ddewis dilyn y grefydd newydd a dyna pam dwi a ffydd ac yn ei dilyn hi 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach.


Aye, haws fod yn Gristion - Ace, King, Queen, Jack - maddeuant on tap. Blydi gret. Tybed pam nad oedd mwy o'r Iddewon wedi troi i'r ochr dywyll felly. Wedi gweld trwy'r holl hocws pocws 'falle?
Mae'n rhaid cofio nid cwlt yr Iesu oedd yr unig un - roedd llwyth yn dilyn Ioan Bedyddiwr a llawer eraill gyda'u disgyblion. Tybed beth fydde wedi digwydd i gwlt yr Iesu oni bai bod y Rhufeiniaid wedi heintio'u hymerodraeth gyda'r peth. Pawb i'w Bwda Bach sbo.

Re: Yr Iddewon a Christnogaeth

PostioPostiwyd: Llun 28 Rhag 2009 8:49 am
gan Josgin
Diolch yn fawr am eich atebion meddylgar (ar y cyfan) . Rhys Llwyd ; a oes felly rhywle pobl sy'n arddel ei Iddewiaeth (fel tras ) , ond eto hefyd arddel eu Cristnogaeth (fel crefydd) ers canrifoedd. Yr ydym ni fel Cymry'n genedl sy'n amrywiol ein crefyddau, ond mae'r Iddewon i'w gweld yn cysoni'r ddau beth yn llwyr. Gwn fod yna fudiadau fel ' Jews for Jesus' , ond dichon mai creadigaethau 20fed ganrif, Americanaidd ydynt .

Re: Yr Iddewon a Christnogaeth

PostioPostiwyd: Llun 28 Rhag 2009 10:08 am
gan Rhys Llwyd
Wn i ddim a oes diben ymateb i “Duw”, dim ond i ddweud wrth basio mae dechrau gyda ffydd syml y mae Cristnogaeth ac y bo'r ffydd yna wedyn yn esgor ar weithredoedd – gweler Llythyr Iago yn y Testament Newydd. Y pwynt ydy fod gweithredoedd y Cristion i fod i adlewyrchu y tro pedol sydd wedi bod yn y galon yn hytrach na fod ein gweithredoedd yn peri y dro yn y galon. Ffydd yng ngallu Duw yn arwain at weithredoedd nid ffydd mewn gweithredoedd yn amod ffafr Duw.

Yn ôl at brif ffrwd y sgwrs felly Josgin. Rhaid mi gydnabod nad ydy i'n gwybod am unrhyw eglwys Gristnogol sy'n estyn yn ôl dros y canrifoedd sydd yn arddel eu hiddewiaeth law yn llaw. Rydw i'n gwybod am y Messianic Jews, ond dim ond creadigaeth o'r bedwaredd ganrif a'r bymtheg yn unig yw honno. Fe fuesi mewn gwasanaeth mewn eglwys Iddewig Feseianaidd yn Kyiev, Yr Iwcrain llynedd – or hyn yr oeddwn ni'n gweld (ac roedd hynny drwy gyfrwng ein cyfieithydd) y prif wahaniaeth oedd eu bod nhw'n parhau i addoli ar y Sadwrn. Roedd swm a sylwedd neges yr efengyl ganddynt yn sylfaenol Gristnogol ac ni roddwyd y defodau Iddewig yn amod dim jest fod rhai dal yn eu hymarfer.

Mae'r pwnc yma yn bwnc tra dyrys oherwydd fod llawer o'r diwylliant Iddewig yn mynd law yn llaw gyda'r grefydd Iddewig. Nid yw hyn yn wir am Gristnogaeth wrth gwrs gan fod Cristnogaeth, ar ryw wedd, yn grefydd di-ddiwylliant – neu o leiaf yn niwtral ddiwylliannol. Y maen grefydd sy'n cyfieithu ei hun i bob cyd-destun diwylliannol, dyna sydd i esbonio llawer o'i lledaeniad a'i thwf ar bob cyfandir yn ddi-wahan. Holl ddiben llawer o'r traddodiadau Iddewig oedd cysgodi'r hyn ddaeth i'w gyflawniad yn mywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist ac felly, y gwirionedd anodd i lawer o Iddewon yw fod llawer agwedd o'u diwylliant wedi pasio heibio o ran arwyddocâd bellach. Yr oedd iddo bwrpas yng nghyfnod yr Hen Destament ond bellach dydy e yn ddim ond defod wag sy'n dysgu a chymylu'r cyflawniad a'r cyfamod newydd yng Nghrist. Soniais eisoes am Lyfr yn Actau – yma gwelir y tensiwn yma yn chwarae allan – rhai, wel llawer, o Iddewon yn troi i ddilyn Iesu ond yr awdurdodau, pobl y sefydliad, yn mynnu glynu wrth yr hen draddodiadau. Gellid di ddarllen yr hanes yr Actau 4 fan yma.

Yr hyn sy'n bwysig nodi yw fod yr Iddewon wrth ddod yn Gristnogion yn llyfr yr Actau ddim yn peidio a bod yn Iddewon o ran cenedl dros nos. Yn yr un ffordd ag yr ydw i dal yn Gymro er hefyd yn Gristion. Ond yn naturiol y maen rhaid i Iddewon sy'n dod yn Gristnogion ymwrthod ag agweddau crefyddol eu hunaniaeth sy'n groes i ddysgeidiaeth newydd Crist. Ond mae'r un peth yn wir amdana i fel Cymro – y maen rhaid i mi bellhau ag elfennau o'r diwylliant Cymreig sy'n sylfaenol groes i ddysgeidiaeth Crist – meddwi'n gaib yn 'steddfod etc... ychydig o or-ddweud, ond chi'n deall fy mhwynt. Wrth gwrs yr hyn sy'n gwneud y mater yn gymhleth i'r Iddew yw fod ei ddiwylliant wedi ei blethu gymaint a'r grefydd Iddewig a phan fo Iddew yn gadael y grefydd y mae Iddewon eraill yn tybio ei fod wedi gadael y genedl megis.

Yr hyn dwi'n ceisio ei ddweud ydy fod y ffydd Gristnogol yn groesawgar iawn tuag at Iddewon sydd am barhau i arddel agweddau o'u hunaniaeth Iddewig nad sy'n groes i ddysgeidiaeth Iesu. Y mae'r broblem yn sefyll gyda'r ffaith fod hunaniaeth Iddewig, i raddau, yn gweld y ffydd Gristnogol fel rhywbeth gwrth-Iddewig oherwydd y gymysgedd yma rhwng eu hunaniaeth a'u crefydd.

Re: Yr Iddewon a Christnogaeth

PostioPostiwyd: Maw 05 Hyd 2010 7:34 pm
gan Gwenci Ddrwg
Jest fy 2 cents fel arfer.

Cofiwch mai "fath newydd o Iddewaith" oedd Cristnogaeth dros y canrifoedd cyntaf o'i fodolaeth. Wedi'r gwbl, oedd Iesu yn ceisio newid Iddewaith yn le creu crefydd hollol newydd. Naeth o ddarfod fel Iddew. Eniwe,i ateb y neges uwchben gan Sioni, dweden innau bod Cristnogaeth yn fwy debyg i Iddewaeth nag Islam. Yn y lle cyntaf cafodd hi ei chreu tu allan o Iddewaeth- cafodd Islam ei chreu yn annibynnol i'r rhan fywaf, er bod gen hi rhai tebygrwydd ar nifer arwynebol.

Ar y llaw arall, mae'n tebyg mai Iddewon Prydeinig oedd rhan fach iawn o f'hunafiaid, 'way back in the day' ond dwi'm yn ystyried fy hun fel 'Iddew' o gwbl.

Re: Yr Iddewon a Christnogaeth

PostioPostiwyd: Maw 05 Hyd 2010 10:17 pm
gan Duw
I gymryd tac difrifol am unwaith (i mi) - a oedd y Cristnogion cynnar yn debyg i'r bobl dwl yn 'The Life of Brian', lle gwnaeth dilynwyr Iesu ddechrau hollti yn ol gwahanol ddehongliadau? O ganlyniad, nid oedd modd sefydlu 'eglwys' newydd yn y lle - roedd yn rhaid lledu'r neges i wledydd estron lle gallent adeiladu'r 'eglwys' yn ol dehongliad nhw eu hunain, heb 'heintiad' ffydd debyg. Jes wyndran.

Re: Yr Iddewon a Christnogaeth

PostioPostiwyd: Mer 06 Hyd 2010 7:07 am
gan Seonaidh/Sioni
Aie - yr "achos newydd" welsen ni o bentre i bentre yng Nghymru...

Pwy adfywiodd yr hen sgwrs 'ma?

Re: Yr Iddewon a Christnogaeth

PostioPostiwyd: Mer 06 Hyd 2010 10:39 am
gan Manon
Ddim yn sicr, ond credaf nad oes ond mymryn o wahaniaeth rhwng Cristnogaeth, Iddewaeth ac Islam.


Cytuno. 'Dwi wedi darllen y Beibl, ac rwan 'dwi'n darllen y Qu'ran... 'Dwi'n eu cael nhw'n anhygoel o debyg.

[quoteTybed pam nad oedd mwy o'r Iddewon wedi troi i'r ochr dywyll felly. Wedi gweld trwy'r holl hocws pocws 'falle?
][/quote]

Hei, rwan. 'Dwi ddim yn cyfri fy hun yn Gristion, ond 'dwi ddim yn meddwl bod hynny'n esgus i amharchu credoau unrhywun arall.