gan sian » Mer 13 Ion 2010 5:22 pm
Dw i'n meddwl, yn Lloegr, pan fydd pobl yn sôn am y Methodist Church, maen nhw'n golygu Wesleaid, ond pan rŷn ni'n sôn am y Methodistiaid, rŷn ni'n sôn am y Presbyteriaid (yr hen Fethodistiaid Calfinaidd).
Dw i'n meddwl mai'r Methodistiaid Calfinaidd oedd y "Methodistiaid creulon cas, Mynd i'r capel heb ddim gras"!
Mae'r (y Wesleaid) yn aelodau o . Dyma dipyn am beth maen nhw'n gredu.
Dydi Eglwys Bresbyteraidd Cymru ddim yn rhan o gyfundrefn Brydeinig. Mae'n eglwys ddwyieithog. Dyma'r
Mae'r Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys Bresbyteraidd yn rhan o gyfundrefnau mawr.
Gyda'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr, y gynulleidfa leol yw'r 'eglwys' ond maen nhw'n rhan o undebau - sy'n eu gwarchod ond nid yn eu rheoli
Mae eglwysi'r Annibynwyr yn perthyn i ac mae gan eglwysi'r Bedyddwyr drefniant tebyg gydag .
Mae eglwysi Efengylaidd Cymraeg fel rheol yn annibynnol dw i'n meddwl. Mae eu diwinyddiaeth nhw'n Galfinaidd - i gyd, am wn i! Dw i ddim yn siwr beth yw'r berthynas rhwng yr eglwysi efengylaidd a - "Cymdeithas o unigolion ac eglwysi yw Mudiad Efengylaidd Cymru (MEC), sy’n derbyn y Beibl fel Gair Duw, ac yn ei dderbyn fel sylfaen i holl faterion ffydd a bywyd; ac yn dibynnu’n llwyr ar yr Arglwydd Iesu Grist, ei fywyd, ei farwolaeth a’i atgyfodiad."
O ran diwinyddiaeth yr enwadau traddodiadol - mae'n dipyn o hotsh-potsh - gewch chi bobl sy'n credu'r stori am y creu yn Genesis fel y mae'n cael eu hadrodd ochr yn ochr â phobl sy'n credu mai dyn da oedd Iesu, nid Mab Duw.
Erbyn meddwl, mae'n dipyn o syndod bod y cyfundrefnau wedi dal gyda'i gilydd mor hir!