Tudalen 2 o 2

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

PostioPostiwyd: Maw 19 Ion 2010 6:06 pm
gan sian
Blog difyr am hyn (yn Saesneg) gan Dyfed Wyn Roberts yma.

Yn ein pentre ni, ddeng mlynedd yn ôl, roedd yr Annibynwyr, y Presbyteriaid, y Bedyddwyr a'r Eglwyswyr i gyd yn addoli ar wahân bob dydd Sul - ar wahân i rai achlysuron arbennig. Yn raddol, dechreuwyd cydaddoli mwy - yn anffurfiol - os nad oedd gennym ni bregethwr, byddem yn mynd at y Presbyteriaid etc.
Erbyn hyn, mae achos y Bedyddwyr wedi dod i ben ac mae adeilad y Presbyteriaid wedi'i gondemnio ac felly mae'r capelwyr i gyd yn addoli gyda'i gilydd yn adeilad yr Annibynwyr. Mae'r Bedyddwyr oedd ar ôl yn dod yn ffyddlon iawn os gallant. Mae rhai o'r Presbyteriaid wedi rhoi'r gorau i ddod ar ôl colli eu capel nhw ond mae eraill yn ffyddlon iawn. Mae pregethwyr o'r tri enwad yn pregethu yma'n rheolaidd. Mae'r eglwyswyr yn dal ar wahân.
Mae gennym Weithiwr Cymunedol Cristnogol yn y pentre ac mae Annibynwyr, y Presbyteriaid a'r Bedyddwyr yn aelodau o'r grŵp cefnogi. Mae'r eglwyswyr wedi penderfynu peidio â chymryd rhan swyddogol ond mae ambell un yn cefnogi'r gweithgareddau.
Dw i ddim yn meddwl bod gwahaniaethau diwinyddol rhwng y gwahanol enwadau yma - ymhlith yr aelodau efallai ond nid ar hyd llinellau enwadau. Ar y cyfan, mae'r Annibynwyr yn fwy tueddol o gredu yn y drefn Annibynnol nag y mae'r Presbyteriaid o fod yn Bresbyteriaid o argyhoeddiad. Mae gennym ddosbarth Beiblaidd a rhai o'r tri enwad anghydffurfiol yn dod yn rheolaidd.
Y Gweithiwr sy'n gwneud gwaith plant ac ieuenctid yma. Mae rhieni a neiniau a theidiau rhai o'r plant/ieuenctid yn aelodau yn y capeli ond dydi'r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn dod. Does gan blant eraill ddim cysylltiad â'r capeli. Felly, dydi'r plant ddim yn gweld eu hunain fel Plant Maesyneuadd neu Plant Gosen.

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

PostioPostiwyd: Maw 19 Ion 2010 7:41 pm
gan Josgin
Ardderchog !-ond fe wnaeth ein gwenidog grybwyll pentrefi yma yn Arfon lle roedd capeli bychain yn gwrthod ymuno gyda'i gilydd , serch y ffaith fod yr adeiladau'n disgyn o gwmpas eu clustiau.

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

PostioPostiwyd: Maw 19 Ion 2010 7:59 pm
gan Del
Josgin a ddywedodd:Enwyd un tref arbennig yng Nghymru lle mae pob gweithgaredd Cytun wedi mynd i'r gwellt, a synnodd fi braidd . Ai trefniadaeth yn unig a fu'r rhwystr , neu a oedd yna
anghydfod dyfnach ?

Aberystwyth? Rwy'n byw yma ers 2001, a sai'n credu i fi weld unrhyw weithgarwch Cytun 'ma o gwbwl. Sai'n deall pam. Mae 'na gydweithio rhwng y Presbyteriaid, y Bedyddwyr a'r Annibynwyr yn nhymor y Grawys (cyrddau nos Iau), ac mae'r tri enwad hefyd yn cydaddoli ar y Suliau ym mis Awst. Ond does 'na'm sôn am Gytun o'r fath yn y byd!

Re: Calfiniaeth v Wesleiaeth

PostioPostiwyd: Iau 21 Ion 2010 12:34 am
gan ffwrchamotobeics
Wesla