Tudalen 1 o 1

Geiriau i O'r fath gyfaill ydyw'r Iesu

PostioPostiwyd: Gwe 19 Maw 2010 4:09 pm
gan adamjones416
Helo holi oeddwn os oedd unrhyw un â'r geirie i'r cân, O'r fath gyfaill ydyw'r Iesu,Ffrind ym mhob ystorom gref.

Y gân saesneg yw What a friend We have in Jesus.

Diolch.

Re: Geiriau i O'r fath gyfaill ydyw'r Iesu

PostioPostiwyd: Gwe 19 Maw 2010 4:21 pm
gan Del
Emyn 345 yn Caneuon Ffydd.

O'r fath gyfaill ydyw'r Iesu,
ffrind ymhob ystorom gref;
O'r fath fraint yw mynd â'r cyfan
yn ein gweddi ato ef.
O'r tangnefedd pur a gollwn,
O'r pryderon 'rŷm yn dwyn,
am na cheisiwn fynd yn gyson
ato ef i ddweud ein cwyn.

A oes gennym demtasiynau?
A oes gofid mewn un man?
Peidiwn byth â digalonni
gwrendy Iesu weddi'r gwan.
Cyfaill yw sy'n dal yn ffyddlon,
cydymdeimlo mae â'n llef,
gŵyr yr Iesu am ein gwendid
awn â'r cwbwl ato ef.

Pwy sy'n teimlo yn drwmlwythog
o dan faich euogrwydd cas?
Iesu'n unig yw ein noddfa -
awn â'n cri at orsedd gras.
A oes ffrindiau'n cefnu arnat?
Dwed dy gwyn wrth Frenin hedd:
yn ei freichiau cei dawelwch
a diddanwch yn ei wedd.

JOSEPH SCRIVEN, 1819-86
cyf. NANTLAIS,1874-1959