Tudalen 1 o 1

Creu Bywyd Artiffisial

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2010 5:45 pm
gan ceribethlem
Ymddengys mai nid Duw yw'r unig un i greu bywyd wedi'r cyfan, wele

Re: Creu Bywyd Artiffisial

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2010 6:32 pm
gan Seonaidh/Sioni
Ti'n anghywir - onid Craig Venter ydy enw go iawn "Duw" sy'n postio yma?

Re: Creu Bywyd Artiffisial

PostioPostiwyd: Iau 20 Mai 2010 6:38 pm
gan Chickenfoot
Cwl o beth - mwy plis, gwyddonwyr. Grwpiau crefyddol yn achwyn wrth gwrs, ond be' arall sydd ganddyn hw i neud dyddiau hyn, beth bynnag?

Re: Creu Bywyd Artiffisial

PostioPostiwyd: Sad 22 Mai 2010 11:44 pm
gan Duw
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Ti'n anghywir - onid Craig Venter ydy enw go iawn "Duw" sy'n postio yma?


Ar dy benglinie ac addola'r pechodwr ffiaidd shwd wyt ti. Paid รข chymryd f'enw mewn ofer.

Eniwei - diddorol. Yn ol be dwi'n deall mae'r boi 'ma wedi gosod darnau o DNA at ei gilydd a'u rhoi i mewn i gell gwag. Hey presto bywyd. Wel ydy, sbo. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng hwn a chlonau normal? DNA synthetig nid naturiol - gallwch fy nghywiro os dwi'n rong.

Actio fel Duw? Pah! Os ydy hwn yn ware Duw, doedd Duw ddim mor amazing os ydy dyn yn gallu cyflawnu ei wyrth uchaf.

Angen cadw golwg ar y boi 'ma - addo popeth - er boi busnes yw e ac wedi trio gosod patent ar 300 o enynnau dynol.

Re: Creu Bywyd Artiffisial

PostioPostiwyd: Sul 23 Mai 2010 8:40 am
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:Eniwei - diddorol. Yn ol be dwi'n deall mae'r boi 'ma wedi gosod darnau o DNA at ei gilydd a'u rhoi i mewn i gell gwag. Hey presto bywyd. Wel ydy, sbo. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng hwn a chlonau normal? DNA synthetig nid naturiol - gallwch fy nghywiro os dwi'n rong.

Y gwahaniaeth pennaf yw fod genotype sy'n bodoli'n barod wedi ei osod mewn cell er mwyn clonio hyn. Fan hyn genotype sydd wedi ei greu ydyw, y bwriad yw darganfod beth yw'r lleiafswm o genynnau sydd angen er mwyn bod yn fyw.

="Duw"Actio fel Duw? Pah! Os ydy hwn yn ware Duw, doedd Duw ddim mor amazing os ydy dyn yn gallu cyflawnu ei wyrth uchaf.{/quote]Trueni fod rooney wedi mynd, byddet ti'n sicr o ddala fe gydag abwyd fel hwnna :lol:

Duw a ddywedodd:Angen cadw golwg ar y boi 'ma - addo popeth - er boi busnes yw e ac wedi trio gosod patent ar 300 o enynnau dynol.

Mae'r gobeithion sy'n datblygu o hwn yn enfawr. Creu bacteria artiffisial bydde'n clirio lan sliciau olew. Rhyddhau bacteria sy'n gwneud dim ond ffotosynthesis i'r amgylcgedd ayyb ayyb.

Re: Creu Bywyd Artiffisial

PostioPostiwyd: Llun 24 Mai 2010 9:23 pm
gan Duw
Ie, wir. Amsugno CO2 o'r aer, creu biotanwyddau... Yn anffodus, gyda phob darganfyddiad gwyddonol, mae'r heip yn allweddol i denu mwy o fuddsoddiad. Cawn weld.