Ar ôl treulio blynyddoedd hapus yn yr ysgol yn Rachub a mwynhau yr 'assembly' i'r eithaf yn Ysgol Cownti Bethesda, wyddwn i ddim, a wnes i rioed feddwl fy mod i wedi cael fy 'ngorfodi' i ganu emyn a dweyd gweddi'r Arglwydd ar ddechrau'r diwrnod ysgol. Sut oedd y ffashiwn beth yn bosibl a minnau yn mwynhau'r profiad cyn gymaint ? A fedrai ddim dweyd bod y 'gorfodi' 'ma wedi gwneyd niwed i mi.
Ond mi fedrai feddwl am hanner dwsin o bynciau ysgol a oedd yn 'orfodol' ac yn ddiflas gen i; pynciau a oedd yn ormes ar fy nghnawd.
Ac wrth feddwl yn ôl mi fuaswn i'n cyfaddef fod mam wedi fy 'ngorfodi' i godi yn y bore; fy 'ngorfodi' i gadw fy hun yn lân ac i barchu fy nghymdogion; mi ges i fy' ngorfodi' i dderbyn deddfau gwlad ac i chwilio am waith.
Ond yn y pen draw wnaeth hyn ddim niwed i mi.
Mae ein cymdeithas yn llygru a phydru am fod rhyw mambi pambis diawl yn cwyno a sniflan am eu bod yn methu a dygymod a'r gair 'gorfod' ; gair sydd wedi bod yn rhan anatod o fywyd ers dechrau amser.
Peidiwch a cwyno da chi!