gan Cymrobalch » Sad 08 Ion 2011 2:36 pm
Nhyb i, mai bach yn galed i mi cymryd hwn o ddifrif. Falle fy mod bach yn old school ond, mae'r ceisiadau i foderneiddio delwedd Cristnogaeth trwy ei gysylltu gyda technoleg a thermenoleg TGCh yn bach yn fy ngwrthladd.
O ran y drafodaeth yma credaf, fel mae eraill wedi arwyddocàu, fod y gwasanaeth yma wedi cymryd rôl humanistic i'r amlwg er, mae'n galed dweud heb cael gwybodaeth manylach clîr. Byswn i'n tybio fod hyn yn fwy o lles i'r syllabus blynyddoedd 7 i 9 Addysg Cref. fel dwi'n ei chofio. Roedd llawer o'r hyn a ddysgom i wneud gyda dwyn i gof beth a welir sy'n moesol. Yn fy marn i, dydy plant ysgol eilradd ddim yn heintrydd i fod yn sinigaidd at pethau fel hyn.
Yn ôl at gwasanaethau crefyddol yn yr ysgol. Mae rhai wedi awgrymu y buasai'n werth segregeiddio'r rhai sy'n crefyddol o'r lleill fel eu bod yn cael gwasanaeth ar wahan o anghredinwyr. Er y buaswn i'n digon hapus derbyn hyn fy hyn, mae'r syniad yn groes i ethos ysgolion Prydain. Fel enghraifft, o ran Anghenion Arbennig (Additional Learning Needs), y nod gyntaf yw i sicrhau cynhwysiad, h.y, bod pawb yn cael y gallu mynychu'r un ysgol heb ots am eu gallu.
O hyn, na fuasài'n iawn i gynnal mwy nag un gwasanaeth i'r crefyddol a'r anghrefyddol. Hefyd, ces i'r argraff yn yr ysgol nad oedd neb yn rhoi iot os oeddent yn gweddïo a chanu emyn neu beidio. Hyd yn oed fy ffrindiau mwyaf sur am crefydd, roedden nhw bob un yn canu'r emynau er heb llawer o rigeur.
Efallai'r peth synhwyrol i wneud yw i cael gwasanaeth sy'n ysbrydol ond, sydd ddim yn targedu unrhyw un grwp crefyddol ar ei ben ei hun gyda gweddi ar y diwedd sydd ddim yn cael ei cyfeirio « yn enw Iesu Grist, Amen ». Yna ei ddilyn gan emyn. Teimlaf bysai'n drist iawn o'r syniad o golli canu yn ysgolion dim ond am i ni beidio gallu canu emynau sy'n addoli Duw.
Beth fysech chi'n gwneud i sicrhau bod canu o hyd yn bodoli yn ysgolion heblaw am emynau?