sian a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Fi'n tybio fod tipyn o gyfraniadau i'r edefyn yma ddim cweit yn siwr o'r hyn sy'n mynd mlaen mewn gwasanaethau boreol ysgolion. Nid mater o orfodi plentyn i addoli mewn modd Cristnogol ydyw. Mae'r gyfraith yn dweud fod rhaid cael gwasanaethau sy'n "broadly Christian in character", h.y. rhai sydd yn son am foesau cyffredinol ayyb.
Fel soniais i uchod, dwi heb rhoi "neges" Crefyddol yn fy "ngwasanaeth" ers blynyddoedd. Cyfle i gyfarfod a'r cohort Blwyddyn cyfan mewn un lle ar yr un pryd yw hi.
Wyt ti'n cynnwys gweddi yn dy wasanaethau di, felly?
Tua faint o'r disgyblion sy'n cael eu hesgusodi o'r gwasanaethau? Roedd plant ni'n meddwl mai dim ond Tystion Jehofa oedd yn dewis esgusodi eu plant o'r gwasanaethau yn eu hysgol nhw. Roedd yr actor Gareth Lewis ar Beti a'i Phobl yn ddiweddar yn dweud bod ei fab e'n cael ei esgusodi am fod y teulu'n anffyddwyr.
Dyma rai o ganllawiau Estyn:
* rhaid i ysgolion ddarparu addoli ar y cyd bob dydd i bob disgybl cofrestredig
* dylai’r rhan fwyaf o weithredoedd addoli ar y cyd ym mhob tymor ddilyn patrwm Cristnogol yn bennaf neu’n gyfan gwbl. Hynny yw, dylent adlewyrchu traddodiadau cyffredinol y gred Gristnogol heb gadw at arferion unrhyw enwad Cristnogol yn benodol
* dylai fod yn ymwneud â pharchu neu fawrygu bod neu bŵer dwyfol.
* Dylai addoli ar y cyd mewn ysgolion geisio rhoi’r cyfle i ddisgyblion addoli Duw, ystyried y materion ysbrydol a moesol yn ogystal ag ystyried eu credoau eu hunain. ... Dylai hyn hefyd feithrin ysbryd cymunedol, hyrwyddo ethos cyffredin a gwerthoedd sy’n cael eu rhannu, ac atgyfnerthu agweddau cadarnhaol.
* Mae’r gyfraith yn nodi y dylai’r rhan fwyaf o wasanaethau addoli ar y cyd ym mhob tymor ‘fod o natur Gristnogol yn bennaf neu’n gyfan gwbl’. Felly, o bryd i’w gilydd mae’n dderbyniol i addoli ar y cyd fod heb gysylltiad clir â’r ffydd Gristnogol. Dylai arolygwyr wirio cofnod yr ysgol o themâu diweddar addoli ar y cyd i weld a yw’r ysgol yn cydymffurfio â’r gyfraith ai peidio
* Mae’r gyfraith yn mynnu bod ysgolion yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion addoli. Nid yw’r gyfraith yn mynnu bod ysgolion yn gorfodi disgyblion i addoli.
Be dwi'n dreio ddadlau yw y byddai'r sefyllfa'n iachach i bawb o dynnu'r elfen "parchu neu fawrygu pŵer dwyfol" allan yn llwyr am nad yr ysgol yw'r lle i wneud hynny.
Fi ddim yn cynnwys gweddi pan fyddai'n paratoi gwasanaeth, ond mae'r mwyafrif o'r staff yn gwneud. Tua hanner (os hynny) o'r staff sy'n paratoi gwasanaeth crefyddol yn hytrach na chyffredinol moesol.
Mae'r mwyafrif o'r disgyblion yn mynychu'r gwasanaethau (dim ond ambell i Jehovah neu debyg sydd gyda ni).
Fi'n cofrestru'r chweched, sy'n golygu fod hawl ganddynt optio mas o wasanaeth, felly cyfarfodydd boreol byddwn ni'n cael (unwaith yr wythnos) yn hytrach na gwasanaeth.
I ateb dy bwyntiau am Estyn:
* rhaid i ysgolion ddarparu addoli ar y cyd bob dydd i bob disgybl cofrestredig Mae tipyn yn dibynu ar y diffiniad o addoli, mae rhoi cyfle i bawb i fyfyrio yn medru bod yn gyfle i addoli.
* dylai’r rhan fwyaf o weithredoedd addoli ar y cyd ym mhob tymor ddilyn patrwm Cristnogol yn bennaf neu’n gyfan gwbl. Hynny yw, dylent adlewyrchu traddodiadau cyffredinol y gred Gristnogol heb gadw at arferion unrhyw enwad Cristnogol yn benodol Hynny yw son am fyw mewn modd moesol yn hytrach na bod yn Grisition yn benodol. Y Natur moesol Cristnogol sy'n cael ei ddilyn.
* dylai fod yn ymwneud â pharchu neu fawrygu bod neu bŵer dwyfol. Jiawcs Fi byth yn gwneud hyn, oni bai bod fi'n cyfri fel bod neu bŵer dwyfol.
* Dylai addoli ar y cyd mewn ysgolion geisio rhoi’r cyfle i ddisgyblion addoli Duw, ystyried y materion ysbrydol a moesol yn ogystal ag ystyried eu credoau eu hunain. ... Dylai hyn hefyd feithrin ysbryd cymunedol, hyrwyddo ethos cyffredin a gwerthoedd sy’n cael eu rhannu, ac atgyfnerthu agweddau cadarnhaol. Mae yna wahaniaeth rhwng rhoi'r cyfle i addoli Duw, ac i orfodi hynny. Ishe rhoi opsiynnau i'r disgyblion feddwl a penderfynnu dros eu hunain. Yn aml byddaf yn chwarae rol y devils advocate pan yn trafod pethau fel hyn, dadle yn erbyn y syniad o dduw pan fod rhai yn mynnu ei fodolaeth, a dadlau dros y syniad o dduw yn erbyn y rhai sy'n gwrthod y syniad yn llwyr. Trial cael y plant i feddwl dros eu hunain yn hytrach na dibynnu ar syniadau pobol eraill.
* Mae’r gyfraith yn nodi y dylai’r rhan fwyaf o wasanaethau addoli ar y cyd ym mhob tymor ‘fod o natur Gristnogol yn bennaf neu’n gyfan gwbl’. Felly, o bryd i’w gilydd mae’n dderbyniol i addoli ar y cyd fod heb gysylltiad clir â’r ffydd Gristnogol. Dylai arolygwyr wirio cofnod yr ysgol o themâu diweddar addoli ar y cyd i weld a yw’r ysgol yn cydymffurfio â’r gyfraith ai peidio Fi'n credu fod yr hun soniais am uchod ar lefel bersonol yn dod mewn fan hyn. Mae rhai athrawon yn gwneud gwasanaethau Cristnogol crefyddol traddodiadol (h.y. darlleniadau o'r Beibl ac ati), eraill fel fi ddim yn gwneud. A dweud y gwir bydden i'n gwrthod gan bydde braidd yn ragrithiol ohonof fi i wneud hynny!
* Mae’r gyfraith yn mynnu bod ysgolion yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion addoli. Nid yw’r gyfraith yn mynnu bod ysgolion yn gorfodi disgyblion i addoli. Wedi son am hyn yng nghynt.
Pwrpas ysgol yw addysgu a pharatoi'r plant a phobol ifanc am y Byd mawr y tu hwnt i'r ysgol. I lawer o deuluoedd bydd y plant ddim yn mynychu unrhyw addoldy, felly mae hyn yn gyfle i ddysgu am y pethau maent yn eu colli.Sian a ddywedodd:Be dwi'n dreio ddadlau yw y byddai'r sefyllfa'n iachach i bawb o dynnu'r elfen "parchu neu fawrygu pŵer dwyfol" allan yn llwyr am nad yr ysgol yw'r lle i wneud hynny
Yn bersonol bydde'n well gyda fi fod y rhan penodol Cristnogol yn cael ei ollwng, a bod mwy o bwyslais ar yr undod sydd yn negeseuon moesol y prif grefyddau. Hynny yw mae posib byw bywyd moesol, da beth bynnag for ffydd (neu ddiffyg ffydd am hynny).