Hyd yn oed fel capelwr, mae'n amlwg fod plant yn casau emynau. Ers talwm, pan oedd nifer helaeth o ddisgyblion ysgol 'Gymraeg' yn mynd i wasanaeth, mi oedd yna ystyr. Bellach, tydi Cymraeg na chrebwyll trwch y disgyblion ddim digon da i'w deall. Glywais i erioed blentyn yn canu 'Tydi a roddaist ' - emyn dlws a ddwys iawn, ond a yw'n addas i lais plant ? . Yn fy ysgol i , 10% o'r athrawon sy'n mynd i gapel. Mae'n amlwg nad oes ffydd gan y rhan fwyaf o athrawon , felly pam disgwyl i ddisgyblion fynychu gwasanaeth ? Glywais i ddim emyn yn cael ei chanu mewn gem rygbi ers degawdau , ac oes mai mynegiad o addoli yw'r 'Haka' , mae'r' ddawns flodau ' yn her i gystadleuaeth yfed.
I ddychwelyd at bwynt cynt, ni ellir dibrisio cyfraniad anghydffurfiaeth i amddiffyn y Gymraeg yn erbyn gormes fel 'Brad y llyfrau Gleision' , arglwyddiaeth y Penrhyn ayb. Yn anffodus, wrth achub yr iaith, gellir dadlau fod 'llaw farw' anghydffurfiaeth wedi claddu llawer o'n traddodiadau gwerin. Clymwyd ein diwylliant i raddau helaeth gyda'r capeli - gan greu cadernid ieithyddol a diwylliedig ymysg pobl na fuasent prin yn gallu ysgrifennu yn Lloegr . Pan bylodd ein capeli yn dilyn y rhyfel
byd cyntaf, roedd yn anochel felly fod yr iaith a'r capel mewn cwymp gyda'i gilydd . Cofier, serch hynny, fod ein gwenidogion ymysg y bobl mwyaf didwyll , dewr a
di-flewyn ar dafod yn y Gymru gyfoes .
Mi fyddaf i fy hun yn cynnwys gweddi bob tro mewn gwasanaeth - a'i alw yn 'weddi' . Serch hynny ' cau ein llygaid i feddwl' fydd geiriad ein tim rheoli. tydw i ddim yn meddwl fod yr un ohonynt yn tywyllu capel, felly ni ellir eu cyhuddo o ragrith yn hynny o beth.