Tudalen 1 o 9

Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Mer 24 Tach 2010 10:30 am
gan sian
Ydi hi'n bryd rhoi'r gorau i orfodi ysgolion i gynnal "addoli ar y cyd"?
Dw i wedi blogio am y peth fan hyn ac mae Guto wedi dweud ei bwt fan hyn

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Mer 24 Tach 2010 3:19 pm
gan Chickenfoot
Yndi, hen bryd. Mae'n wirion bost fod crefydd yn treiddio i mewn i'n cymdeithas gymaint mewn oes mor dechnolegol.
Os ydi rhieni wir eisiau i'w plant addoli, beth am fynd i'r capel neu eglwys ar Ddydd Sul. Os ydyn nhw eisiau llenwi'u pennau hefo mytholoeg wedi'i gwisgo fyny fel doethineb ar eu amser nhw, cool beans, ond nid mewn adeiliad cyhoeddus.
Pam dylid gwrando ar ficar yn gofyn i'w ffrind yn y gofod i ysbrydoli cyfarfoddydd cyngor i neud y penderfyniadu cywir, er enghraifft.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Iau 25 Tach 2010 4:42 pm
gan ceribethlem
Yn bersonol, pan wy'n paratoi gwasanaeth ysgol, pregethu am Gymraeg a Chymreictod yw bwrdwn fy neges, nid pregethu crefyddol.

Fi'n derbyn nad yw hyn yn ateb dy gwestiwn mewn unrhyw fodd Sian :winc:

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Iau 25 Tach 2010 5:01 pm
gan sian
ceribethlem a ddywedodd:Fi'n derbyn nad yw hyn yn ateb dy gwestiwn mewn unrhyw fodd Sian :winc:


Ydi, mae e :D . Mae'n ateb pwynt 4 ac, i raddau, pwynt 6, yn y blog.
Roedd plant ni'n dweud bod lot o bwyslais yn eu gwasanaethau nhw ar bwysigrwydd gwneud eu gorau yn yr ysgol a bod yn ffrindiau.
Dydi hynny ddim yn exclusively Cristnogol chwaith - mae'n berthnasol i bawb - alli di ei gael heb yr elfen o addoliad.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Iau 25 Tach 2010 5:32 pm
gan osian
Dwi'n cytuno dylid stopio'r arfer. Pan o'n i yn yr ysgol, mi oedd y rhan fwya' o'r gwasanaethau yn reit seciwlar - negeseuon cyffredinol am fod yn dda ac yn y blaen, efo gweddi fer ar y diwedd (ond ddim bob tro), a gweddi'r arglwydd wedyn (efo tua chwartar yr ysgol yn rhyw fymblan yn dawal a lleill yn ddistaw). Mi fysa'r mwyafrif llethol o'r gwasanaethau wedi bod 'run fath heb y weddi 'token' ar y diwedd.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Iau 25 Tach 2010 9:22 pm
gan JVD33
Cristnogaeth yw rhan o dreftadaeth Cymru, beth bynnag yni'n meddwl amdani - Cristnogaeth gwnaeth Cymru beth ydy hi heddiw. Dim ond traddodiad yw gweddi ar y cyd - sodde'n gwneud niwed.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Iau 25 Tach 2010 11:50 pm
gan tom.j
Nid Cristnogaeth gwneath Cymru yr hyn yw hi heddiw! Nonsens llwyr. Dwi'n cytuno dylid rhoi taw ar wasanaethau crefyddol ym mhob ysgol. Gwastraff amser llwyr.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Gwe 26 Tach 2010 12:03 am
gan Barry
JVD33 a ddywedodd:Cristnogaeth gwnaeth Cymru beth ydy hi heddiw.

Anghywir. *Pobl* gwnaeth Cymru beth yw hi heddiw.

JVD33 a ddywedodd:Dim ond traddodiad yw gweddi ar y cyd - sodde'n gwneud niwed.

Mae'r rhyddid i addoli AC i beidio ag addoli yn bwysig iawn mewn unrhyw gymdeithas. Onid yw gorfodi plant i addoli a gweddïo yn mynd yn groes i'r rhyddid hwnnw?

Mae'r traddodiad o "cyd-addoli" - sef gorfodi pobl i addoli duw nad ydyn nhw efallai'n credu ynddo - yn annheg a dweud y lleiaf.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Gwe 26 Tach 2010 7:58 am
gan ceribethlem
Fi'n tybio fod tipyn o gyfraniadau i'r edefyn yma ddim cweit yn siwr o'r hyn sy'n mynd mlaen mewn gwasanaethau boreol ysgolion. Nid mater o orfodi plentyn i addoli mewn modd Cristnogol ydyw. Mae'r gyfraith yn dweud fod rhaid cael gwasanaethau sy'n "broadly Christian in character", h.y. rhai sydd yn son am foesau cyffredinol ayyb.
Fel soniais i uchod, dwi heb rhoi "neges" Crefyddol yn fy "ngwasanaeth" ers blynyddoedd. Cyfle i gyfarfod a'r cohort Blwyddyn cyfan mewn un lle ar yr un pryd yw hi.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Gwe 26 Tach 2010 9:10 am
gan sian
ceribethlem a ddywedodd:Fi'n tybio fod tipyn o gyfraniadau i'r edefyn yma ddim cweit yn siwr o'r hyn sy'n mynd mlaen mewn gwasanaethau boreol ysgolion. Nid mater o orfodi plentyn i addoli mewn modd Cristnogol ydyw. Mae'r gyfraith yn dweud fod rhaid cael gwasanaethau sy'n "broadly Christian in character", h.y. rhai sydd yn son am foesau cyffredinol ayyb.
Fel soniais i uchod, dwi heb rhoi "neges" Crefyddol yn fy "ngwasanaeth" ers blynyddoedd. Cyfle i gyfarfod a'r cohort Blwyddyn cyfan mewn un lle ar yr un pryd yw hi.


Wyt ti'n cynnwys gweddi yn dy wasanaethau di, felly?
Tua faint o'r disgyblion sy'n cael eu hesgusodi o'r gwasanaethau? Roedd plant ni'n meddwl mai dim ond Tystion Jehofa oedd yn dewis esgusodi eu plant o'r gwasanaethau yn eu hysgol nhw. Roedd yr actor Gareth Lewis ar Beti a'i Phobl yn ddiweddar yn dweud bod ei fab e'n cael ei esgusodi am fod y teulu'n anffyddwyr.

Dyma rai o ganllawiau Estyn:

* rhaid i ysgolion ddarparu addoli ar y cyd bob dydd i bob disgybl cofrestredig
* dylai’r rhan fwyaf o weithredoedd addoli ar y cyd ym mhob tymor ddilyn patrwm Cristnogol yn bennaf neu’n gyfan gwbl. Hynny yw, dylent adlewyrchu traddodiadau cyffredinol y gred Gristnogol heb gadw at arferion unrhyw enwad Cristnogol yn benodol
* dylai fod yn ymwneud â pharchu neu fawrygu bod neu bŵer dwyfol.
* Dylai addoli ar y cyd mewn ysgolion geisio rhoi’r cyfle i ddisgyblion addoli Duw, ystyried y materion ysbrydol a moesol yn ogystal ag ystyried eu credoau eu hunain. ... Dylai hyn hefyd feithrin ysbryd cymunedol, hyrwyddo ethos cyffredin a gwerthoedd sy’n cael eu rhannu, ac atgyfnerthu agweddau cadarnhaol.
* Mae’r gyfraith yn nodi y dylai’r rhan fwyaf o wasanaethau addoli ar y cyd ym mhob tymor ‘fod o natur Gristnogol yn bennaf neu’n gyfan gwbl’. Felly, o bryd i’w gilydd mae’n dderbyniol i addoli ar y cyd fod heb gysylltiad clir â’r ffydd Gristnogol. Dylai arolygwyr wirio cofnod yr ysgol o themâu diweddar addoli ar y cyd i weld a yw’r ysgol yn cydymffurfio â’r gyfraith ai peidio
* Mae’r gyfraith yn mynnu bod ysgolion yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion addoli. Nid yw’r gyfraith yn mynnu bod ysgolion yn gorfodi disgyblion i addoli.

Be dwi'n dreio ddadlau yw y byddai'r sefyllfa'n iachach i bawb o dynnu'r elfen "parchu neu fawrygu pŵer dwyfol" allan yn llwyr am nad yr ysgol yw'r lle i wneud hynny.