Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Josgin » Sul 28 Tach 2010 7:24 pm

Hyd yn oed fel capelwr, mae'n amlwg fod plant yn casau emynau. Ers talwm, pan oedd nifer helaeth o ddisgyblion ysgol 'Gymraeg' yn mynd i wasanaeth, mi oedd yna ystyr. Bellach, tydi Cymraeg na chrebwyll trwch y disgyblion ddim digon da i'w deall. Glywais i erioed blentyn yn canu 'Tydi a roddaist ' - emyn dlws a ddwys iawn, ond a yw'n addas i lais plant ? . Yn fy ysgol i , 10% o'r athrawon sy'n mynd i gapel. Mae'n amlwg nad oes ffydd gan y rhan fwyaf o athrawon , felly pam disgwyl i ddisgyblion fynychu gwasanaeth ? Glywais i ddim emyn yn cael ei chanu mewn gem rygbi ers degawdau , ac oes mai mynegiad o addoli yw'r 'Haka' , mae'r' ddawns flodau ' yn her i gystadleuaeth yfed.

I ddychwelyd at bwynt cynt, ni ellir dibrisio cyfraniad anghydffurfiaeth i amddiffyn y Gymraeg yn erbyn gormes fel 'Brad y llyfrau Gleision' , arglwyddiaeth y Penrhyn ayb. Yn anffodus, wrth achub yr iaith, gellir dadlau fod 'llaw farw' anghydffurfiaeth wedi claddu llawer o'n traddodiadau gwerin. Clymwyd ein diwylliant i raddau helaeth gyda'r capeli - gan greu cadernid ieithyddol a diwylliedig ymysg pobl na fuasent prin yn gallu ysgrifennu yn Lloegr . Pan bylodd ein capeli yn dilyn y rhyfel
byd cyntaf, roedd yn anochel felly fod yr iaith a'r capel mewn cwymp gyda'i gilydd . Cofier, serch hynny, fod ein gwenidogion ymysg y bobl mwyaf didwyll , dewr a
di-flewyn ar dafod yn y Gymru gyfoes .

Mi fyddaf i fy hun yn cynnwys gweddi bob tro mewn gwasanaeth - a'i alw yn 'weddi' . Serch hynny ' cau ein llygaid i feddwl' fydd geiriad ein tim rheoli. tydw i ddim yn meddwl fod yr un ohonynt yn tywyllu capel, felly ni ellir eu cyhuddo o ragrith yn hynny o beth.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Nanog » Llun 29 Tach 2010 7:57 am

Roedd hynna yn ddiddorol i ddarllen Josgin.

Nag wyt ti wedi clywed nhw'n canu 'Bread of Heaven' mewn gemau? Ond wrth-gwrs, yn Saesneg.

Dwi jysd ddim yn gweld pam fod rhai yn meddwl fod gorfodi plant i ganu emynau yn gwneud rhyw gam mawr gyda nhw. Beth yn wir sydd wedi digwydd? :(
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Josgin » Llun 29 Tach 2010 8:22 pm

Do - yr un cytgan , drosodd a drosodd. Go brin fod hynny'n 'emyn' . Mae gwasanaethau carolau a chymanfaoedd emynau ymysg fy nghas bethau, yn dilyn gorfodaeth i " fwynhau" ers llawer dydd.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Barry » Llun 29 Tach 2010 11:42 pm

Nanog a ddywedodd:Dwi jysd ddim yn gweld pam fod rhai yn meddwl fod gorfodi plant i ganu emynau yn gwneud rhyw gam mawr gyda nhw. Beth yn wir sydd wedi digwydd? :(

Fyddi di'n hapus pe bai plant yn cael eu gorfodi i ganu emynau i Allah, Krishna neu Baal yn yr ysgol? Neu eu gorfodi i ddweud gweddïau Sikh yn yr ysgol? Os na fyddi, dyna sut mae pobl o grefyddau eraill ac anffyddwyr yn teimlo am emynau a gweddiau Cristnogol.
Barry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:05 pm
Lleoliad: Pontllanfraith

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 03 Rhag 2010 10:42 pm

Don i ddim yn grefyddol iawn yn yr ysgol, ond ron i'n mwynhau'r emynau. Ac dwi ddim yn erbyn "emynau" crefyddau eraill - faint ohonom ni sy wedi canu "Hare Krishna" ayyb? Neu hyd yn oed "Shalom chorazim"? Ac maged fi yn yr Egwys Babyddol - gydag emynau fel "Faith of our fathers" a phentwr o stwff am Fair Mam Dduw. Ond dwi'n hoff iawn hefyd o emynau fel Rachie (I bob un sydd ffyddlon...), Jerusalem ayyb.

Dwi ddim am orfodi. Ond cyfle - dyna fo. Mae ofn arna i fod y rhai sy'n gwrthwynebu "gorfodi addoli" o blaid gorfodi PEIDIO ag addoli. Mots im ai Cristnogaeth, Islam, Buddhiaeth, Iddewaeth - beth bynnag - dylai fod cyfle yn yr ysgol.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Barry » Gwe 03 Rhag 2010 11:12 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dwi ddim am orfodi. Ond cyfle - dyna fo. Mae ofn arna i fod y rhai sy'n gwrthwynebu "gorfodi addoli" o blaid gorfodi PEIDIO ag addoli. Mots im ai Cristnogaeth, Islam, Buddhiaeth, Iddewaeth - beth bynnag - dylai fod cyfle yn yr ysgol.

Ond pam yn yr ysgol? A'r cwestiwn yw, petai hynny'n cael ei derbyn yn yr ysgolion, sut gallen ni wneud yn siwr bod plant yn cael cyfle i ganu emynau ond heb gael eu gorfodi?

Rwy'n anffyddiwr, rwy'n gryf yn erbyn gorfodi addoli, ond rwy' hefyd yn gryf o blaid rhyddid, felly fyddwn i byth yn cefnogi gorfodi peidio ag addoli.
Barry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:05 pm
Lleoliad: Pontllanfraith

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Duw » Gwe 03 Rhag 2010 11:39 pm

Pan oeddwn yn rheolwr cyfnod, roeddwn yn cynnal 'gwasanaeth' pob wythnos yn ddi-ffael. Fel anffyddiwr eithafol, roedd yn rhaid i mi sicrhau nid oeddwn yn rhannu fy rhagfarn â'r myfyrwyr. Roeddwn yn cynnig darlleniadau o sawl ffynhonnell, gan gynnwys y Beibl - er gan ganolbwyntio ar y moeseg yn hytrach na'r 'ffydd'. Ceisiais â chynnig gweddi un wythnos - gwnaeth bron â'm lladd. Roedd y geiriau bron â fy nhagu. 'Caries i e off', er dyna'r tro diwetha i mi ei geisio. Camgymeriad llwyr. Pa mor anghyffyrddus ydy rhai o'n myfyrwyr a disgyblion wrth gael eu gorfodi i weddio neu canu emynau. Mae'n rhaid parchu hawl yr unigolyn i beidio â chael crefydd wedi'i stwffio lawr eu llynciau. 'Dyw peidio â chynnig gweddi/emyn mewn gyd-destun addoli ddim yn torri ar draws hawliau yr unigolion. Iawn, cael y cyfle i ddysgu am grefyddau'r byd, a'u hemynau ayb - peth iachus a chyfrifol yw dysgu am ffydd, ofergoelion, diwylliant, cerddoriaeth pobl eraill.

Ocei, mae'r capeli/eglwysau wedi cynnal yr iaith dros y canrifoedd, OND nid yw hyn yn meddwl fy mod yn gorfod goddef y blas hwn o ffydd allan o unrhyw deimlad o 'ddyled'. Cefais orchymyn unwaith i gynnal gwasanaeth crefyddol. "Mae'n rhaid bod 51% o wasanaethau yn grefyddol" ebe'r bos. "Ocei, gwna di nhw 'te" wedes i. Dyna diwedd y mater. Roedd cristnogion yr ysgol am eu bod nhw'n digwydd, er stori arall oedd hi pan gofynwyd iddyn nhw eu cynnal.

Mae'n rhaid gofyn beth yw'r cymhelliad tu ol i hyn? Cynnal cristnogaeth y wlad? Ennill troedigaethau? Diflasu plant? Cwrdd ag angen personol yr athro?

I mi, mae gorfodi gwasanaethau cristnogol yn warth. I'r rheiny sydd eu hangen, gallant eu cynnal mewn gwasanaeth ar wahan gydag aelod o staff sydd yn gallu cwrdd â'u hanghenion - os oes un i gael. Ar hyn o bryd mae rhaid gwneud cais i'r ysgol i dynnu'ch plentyn allan o wasanaeth. Yr unig rhai sydd wedi'u gwneud yn fy nghof i yw'r Jehovas. Hoffwn i weld 'opt-in' yn hytrach nag 'opt-out' os oes gwasanaeth 'crefyddol' yn cael ei orfodi.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Chickenfoot » Sad 04 Rhag 2010 4:37 pm

Ond tydi'r broblem ddim yn stopio ar ol ysgol. Mae Iesu sleifio'i ffordd i mewn i gyfarfodydd cyhoeddus hefyd. Pam oes rhaid cael gweddi ar ddechrau cyfarfodydd cyngor?
Ydi cynghorwyr wir angen i Dduw eu helpu i wneud penderfyniadau?
Mae'n wirion fod ofergoeliaeth - a dyna'i gyd ydi o - yn 2010?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Hazel » Sad 04 Rhag 2010 5:08 pm

Fe magwyd fi mewn ysgol a gafodd addoli dyddiol. Achosiodd i fi ddim drwg. Nid oedden ni'n gorfodi addoli. Dim ond roedden ni'n gorfodi dangos parch i ffydd o eraill.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Barry » Sad 04 Rhag 2010 9:59 pm

Hazel a ddywedodd:Dim ond roedden ni'n gorfodi dangos parch i ffydd o eraill.

Ond dyna'r broblem. Mae pobl yn haeddu parch, ond does dim rheswm yn y byd pam y dylen ni barchu eu credoau ofergoelus.
Barry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:05 pm
Lleoliad: Pontllanfraith

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai