Tudalen 3 o 9

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Gwe 26 Tach 2010 10:48 pm
gan ceribethlem
Falle mae'r rheswm fi'n credu hyn, yw rhyw syniad o roi pwt bach i'r loons :winc: . Mae fy nheimladau am ddysgu creadaeth mewn ysgolion yn hysbys i bawb fe dybiwn. Bydde well gyda fi rhyw gyfarfod torfol, lle mae syniadau moesol yn cael eu trafod law yn llaw a chrefydd, yn hytrach na bod syniadau heb dystiolaeth yn cael lle fel rhan o gwricwlwm pwnc fel gwyddoniaeth.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 27 Tach 2010 9:37 am
gan Nanog
Mae rhyw fath o addoli yn rhan o ddiwylliant a hanes y Cymry gan gynnwys canu'r emynau poblogaidd. Efalle byddan't yn canu rywfaint o un neu ddau ohonynt heddi mewn gem rygbi. Bydd tim Seland Newydd yn gwneud yr Haka ac mae hwnnw yn ymbil i'w Duw rhyfel nhw am help. Clywais is hyn ddoe ar y radio. Ac mae pob un sydd yn gwneud yr Haka i fod i'w wneud fel petai ei holl cyn-deidiau yn ei wylio dros ei ysgwydd. Dyna braf se'f un agwedd gyda'r Cymry! Yn canu fel petai eu cyndeidiau yn gwrando arnynt. Wedi'r cwbyl efalle bod nhw. :D Bues i'n siarad a chyn Grys Du a fu yng Nghymru yn y 70'au. Roedd yn canu'n codi braw arno meddai. Mae mwy i addoli na jysd beth mae rhai yn honni.....sef siarad a bod goruwch naturiol. Mae'n rhan o hanes a diwylliant ac yn ymestyn i ardaloedd arall bywyd y Cymro.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 27 Tach 2010 3:19 pm
gan Barry
Nanog a ddywedodd:Bydd tim Seland Newydd yn gwneud yr Haka ac mae hwnnw yn ymbil i'w Duw rhyfel nhw am help.

Does dim sôn am dduwiau na chyndeidiau yn Ka Mate na Kapa o Pango (y ddau Haka). Cyfieithiadau yma: http://en.wikipedia.org/wiki/Haka_of_the_All_Blacks

Nanog a ddywedodd:Mae mwy i addoli na jysd beth mae rhai yn honni.....sef siarad a bod goruwch naturiol. Mae'n rhan o hanes a diwylliant ac yn ymestyn i ardaloedd arall bywyd y Cymro.

O ble yn y byd daw'r syniad hwnnw? Dyna beth yw diffiniad addoli: mawrygu bod goruwchnaturiol.

Wrth gwrs rwy o blaid rhyddid i addoli, ond mae gorfodi addoli yn beth cwbl wahanol. Dylai plant gael yr un rhiddid i beidio ag addoli hefyd.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 27 Tach 2010 6:26 pm
gan Chickenfoot
[youtube]Does dim rhaid son am yr Hen Destament o gwbwl. Fel hwpodd Sian yng nghanllawiau Estyn, negeseuon patrwm Cristnogol (h.y. Testament Newydd) sydd angen. O'r hyn o'r Beibil dwi wedi ei ddarllen (ac oedd hynny gryn amser yn ol) does dim llawer o ddrwg yn negeseuon Iesu Grist.[/youtube]

Coolio, ond y bugeiliaid backward a dyfeisiodd Iesu Grist a'i destament dw i'n son am. Mae neges Iesu braidd yn ddwl ar adegau - yn enwedig os mai Paul ayyb yn cael eu cynnwys fel rhai sy'n lledaenu'i neges.

Iesu oedd yr un siaradodd am yr ufffern (credodd yr Iddewon fod pawb yn mynd i ryw fath o underworld, pa bynnag mor dda/drwg 'roedden nhw). Fo oedd yn deud mai ffydd oedd y peth pwysicaf i gael i'r nefoedd. Hynny sydd yn creu defaid yn hytrach na phobl sydd yn meddwl drostyn nhw eu hunain.

Iesu dywedodd fod edrych am ddynes heblaw am eich gwraig yn beth drwg, yn lle rywbeth naturiol, awesome gallen ni ddiolch i esblygiad amdano.

A roedd ei barablau'n shit hefyd.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 28 Tach 2010 10:50 am
gan Nanog
Barry a ddywedodd:
Nanog a ddywedodd:Bydd tim Seland Newydd yn gwneud yr Haka ac mae hwnnw yn ymbil i'w Duw rhyfel nhw am help.

Does dim sôn am dduwiau na chyndeidiau yn Ka Mate na Kapa o Pango (y ddau Haka). Cyfieithiadau yma: http://en.wikipedia.org/wiki/Haka_of_the_All_Blacks

Nanog a ddywedodd:Mae mwy i addoli na jysd beth mae rhai yn honni.....sef siarad a bod goruwch naturiol. Mae'n rhan o hanes a diwylliant ac yn ymestyn i ardaloedd arall bywyd y Cymro.

O ble yn y byd daw'r syniad hwnnw? Dyna beth yw diffiniad addoli: mawrygu bod goruwchnaturiol.

Wrth gwrs rwy o blaid rhyddid i addoli, ond mae gorfodi addoli yn beth cwbl wahanol. Dylai plant gael yr un rhiddid i beidio ag addoli hefyd.



Gwranda arno'n siarad am yr Haka:

http://www.bbc.co.uk/programmes/b007y9mt

Mae'n dechrau tua 11 munud i mewn.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 28 Tach 2010 12:01 pm
gan Barry
Nanog a ddywedodd:Gwranda arno'n siarad am yr Haka:

http://www.bbc.co.uk/programmes/b007y9mt

Mae'n dechrau tua 11 munud i mewn.

Gwranda eto. Mae rhai hakas yn ymbil i'r duwiau, ond nid yw hynny'n wir am Ka Mate na Kapa o Pango, yr hakas sy'n cael eu defnyddio gan y Crysau Duon.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 28 Tach 2010 12:42 pm
gan Nanog
Ond fy mhwynt i yw fod yr Haka yn rhan o draddodiad a ddiwylliant y Maori ac efalle hyd yn oed gweddill o bobl y wlad i raddau. Mae nhw'n eu defnyddio mewn pob math o seremoniau. Ydy nhw eisiau stopio'r arferiad achos fod son am Dduwiau ynddynt neu hyd yn oed yn achos gem rygbi ei stopio achos ei fod yn wleidyddol anghywir yn baratoad ar gyfer rhyfel? Wedi dweud 'ny mae siwr o fod rhai yn Seland Newydd ar griwsad i ddod ar arferion traddodiadol yma i ben. Cywirdeb gwleidyddol! Bydde ti eisiau i blant Cymru rhoi'r gorau i ganu emynau fel 'Tydi a roddaist liw i'r wawr'? Pwy yw'r 'tydi' 'ma bydde ti'n gofyn tebyg iawn!?

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 28 Tach 2010 1:00 pm
gan Josgin
Ni wnaeth neb ganu emyn acw ers tua deg mlynedd. Mae'r llyfrau'n hel llwch yng nghornel y neuadd. Mae dau bwynt yma

(a) A oes angen hepgor gwasanaethau o fewn ysgolion ? - oes. Mae tua 20 munud pob dydd yn cael ei wastraffu'n hel plant i mewn ( yn dawel) i wrando ar junk
'gwleidyddol gywir ' sy'n fwy o hiwmaniaeth nac ydi o Gristnogaeth (yn dawel) , a'u cael i adael ( yn dawel).

(b) A yw Cristnogaeth wedi dylanwadu ar Gymru ? - ydi - am 200 mlynedd , anghydffurffiaeth oedd tarian Cymru a'r Gymraeg.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 28 Tach 2010 1:14 pm
gan Nanog
Josgin a ddywedodd:Ni wnaeth neb gany emyn acw ers tua deg mlynedd. Mae'r llyfrau'n hel llwch yng nghornel y neuadd. Mae dau bwynt yma

(a) A oes angen hepgor gwasanaethau o fewn ysgolion ? - oes. Mae tua 20 munud pob dydd yn cael ei wastraffu'n hel plant i mewn ( yn dawel) i wrando ar junk
'gwleidyddol gywir ' sy'n fwy o hiwmaniaeth nac ydi o Gristnogaeth (yn dawel) , a'u cael i adael ( yn dawel).

(b) A yw Cristnogaeth wedi dylanwadu ar Gymru ? - ydi - am 200 mlynedd , anghydffurffiaeth oedd tarian Cymru a'r Gymraeg.


(a) Paid a dweud taw na beth sy'n digwydd yn y gwasanaethau ysgol erbyn hyn! Se ni ddim yn synnu dim. Ti'n gallu gweld y meddylfryd yn yndrwyddo trwyddo Mae-e. Gelli di roi enghraifft o'r junk 'gwleidyddol gywir' ma?

(b) Mae eisiau i'r gwasanaethau ysgol adlewyrchu ein hanes ac nid rhyw nonsens plesio pawb gwleidyddol gywir. Os oes rhywun 'ma sy'n trefnu gwasanaeth ar gyfer 'fory.....beth well na dechrau'r wythnos gydag 'I bod un sy'n ffyddlon' neu 'Calon lan'. :D It's the right thin to do.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 28 Tach 2010 5:19 pm
gan Barry
Nanog a ddywedodd:neu hyd yn oed yn achos gem rygbi ei stopio achos ei fod yn wleidyddol anghywir yn baratoad ar gyfer rhyfel?


Rwy'n dechrau teimlo fel stuck record yma. Nid yw hakas tîm rygbi Seland Newydd yn baratoad ar gyfer rhyfel. Mae yna sawl math o haka, ac nid yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n sôn am ryfel o gwbl.

Nanog a ddywedodd:Bydde ti eisiau i blant Cymru rhoi'r gorau i ganu emynau fel 'Tydi a roddaist liw i'r wawr'? Pwy yw'r 'tydi' 'ma bydde ti'n gofyn tebyg iawn!?

Os ydyn nhw am ganu emynau, mae'n iawn gyda fi. Rwy' o blaid rhyddid i addoli ac i beidio ag addoli, yn ôl eich dewis eich hunan. Ond rwy'n gryf yn erbyn gorfodi plant i ganu emynau o unrhyw fath. Ac yn bersonol, fel anffyddiwr, fyddwn i ddim yn canu unrhyw emyn i dduw nad ydw i'n credu ynddo.