Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Chickenfoot » Sul 05 Rhag 2010 12:59 am

Mae crefydd yn cuddio tu ol parch trwy'r adeg. Nid oes gan neb yr hawl i ddeud fod yn rhaid parchu eu syniadau nhw. Mae gen pobl yr hawl i gredu be bynnag mae nhw isio; ond pan da chi'n credu'r fath lol a Duw oll-bwerus wnaeth croeshoelio'i hun er mwyn creu loophole i achub pobl rhag ei gamgymeriadau o, mae gen i'r hawl i gweud hwyl ar eich pen.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Nanog » Llun 06 Rhag 2010 8:31 pm

Barry a ddywedodd:
Nanog a ddywedodd:Dwi jysd ddim yn gweld pam fod rhai yn meddwl fod gorfodi plant i ganu emynau yn gwneud rhyw gam mawr gyda nhw. Beth yn wir sydd wedi digwydd? :(

Fyddi di'n hapus pe bai plant yn cael eu gorfodi i ganu emynau i Allah, Krishna neu Baal yn yr ysgol? Neu eu gorfodi i ddweud gweddïau Sikh yn yr ysgol? Os na fyddi, dyna sut mae pobl o grefyddau eraill ac anffyddwyr yn teimlo am emynau a gweddiau Cristnogol.


:lol:


Gyfaill, nid wyf i'n gweld pwynt i drafod gydag anffyddwyr ffwndamentalaidd eithafol. Ta ra.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Barry » Llun 06 Rhag 2010 9:15 pm

Nanog a ddywedodd:Gyfaill, nid wyf i'n gweld pwynt i drafod gydag anffyddwyr ffwndamentalaidd eithafol. Ta ra.

Beth yn y byd yw anffyddiwr ffwndamentalaidd? Rhywun sy'n anghtytuno gyda ti, efallai? Neu anffyddiwr sy'n fodlon amddiffyn ei safbwynt yn hytrach na pharchu credoau pobl eraill heb achos?

Diffiniad anffyddiwr yw "Person nad yw'n credu mewn Duw neu dduwiau." Does dim "fundamentals" yno fel sy'n bodoli mewn crefyddau, felly sut all anddyddwyr fod yn ffwndamentalaidd?

Hefyd, beth yw anffyddiwr eithafol? Mae eithafwyr crefyddol yn hedfan awyrennau i mewn i adeiladau. Mae "eithafwyr" anffyddiol yn gwneud hwyl am bennau pobl grefyddol o dro i dro. Yr un peth? Ym, na.

Anffyddiwr ffwndamentalaidd eithafol? Dyw'r fath beth ddim yn bodoli!

Mae'r cwestiwn yn sefyll:
Barry a ddywedodd:Fyddi di'n hapus pe bai plant yn cael eu gorfodi i ganu emynau i Allah, Krishna neu Baal yn yr ysgol? Neu eu gorfodi i ddweud gweddïau Sikh yn yr ysgol? Os na fyddi, dyna sut mae pobl o grefyddau eraill ac anffyddwyr yn teimlo am emynau a gweddiau Cristnogol.


Dim ond cwestiwn yw e, nid bom.
Barry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:05 pm
Lleoliad: Pontllanfraith

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Duw » Llun 06 Rhag 2010 10:31 pm

Dweden i fy mod yn anffyddiwr eithafol. Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn effeithio ar bobl eraill - jest minne. Dwi'n crynu wrth gerdden drwy drws capel/eglwys. Rwyf yn teimlo'n anghyffyrddus mewn unrhyw sefydliad crefyddol i fod yn onest. Mae gweld hen bobol yn dod allan o gapel yn gwneud i mi deimlo'n dost. Dwi ishe gweiddi arnyn nhw "Dihunwch lan y blydi wingnyts!" Dwi ddim yn gorfodi fy niffyg crefydd ar unrhyw un arall, er gwnaf ddadlau yn erbyn y rwtsh hyrt os ydy rhywun yn fy herio.

Mae rhaid parchu hawl pobl i gredu beth bynnag mae'n nhw ishe, OND, mor belled â dyw hynny ddim yn effeithio'n wael ar bobol eraill. Ces fy meirniadau'n hallt cwpwl o flynyddoedd yn ol wrth ofyn y cwestiwn, "Ai camdriniaeth yw codi plentyn mewn crefydd?". Dwi wir yn credu bod e. Dylai rhieni sy'n dysgu hobgoblins a bwgibos i'w plant fel realiti gael eu sorto mas. Gad plentyn ddewis crefydd/anffydd pan fydd yn 18, fel popeth peryglus arall. Stim hawl ganddo bleidleisio tan ei fod yn 18 oherwydd nid yw'r wlad yn teimlo ei fod yn ddigon aeddfed i ddeall a chwestiynnu dadlau gwleidyddol. Hyh! Mae'n amlwg bo'r wlad yn meddwl ei fod yn digon hen i ddeall a chwestiynnu cysyniadau athronyddol mwyaf y bydysawd!

O diawl, dwi'n dechre rantio 'to. Cau ceg yw'r peth gore nawr. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Nanog » Llun 06 Rhag 2010 10:37 pm

Y Dyn a wnaeth ei hun yn Dduw. :lol:


ON
Gyda llaw, efallai fod hyn o ddiddordeb, ond nid y Moslemiaid yn cydnabod y term 'Ffwndamentaliaeth Crefyddol'. Felly label yw 'Ffwndamentaliaeth Islamaidd' mae pobl arall wedi rhoi iddynt :winc:
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Barry » Maw 07 Rhag 2010 12:12 am

Iawn, Nanog - efallai cei di esbonio beth sy'n gwneud anffyddiwr yn ffwndamentalydd. Rhaid cofio taw'r unig beth mae pob anffyddiwr yn cytuno arno yw ein bod ni ddim yn credu mewn Duw.
Barry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:05 pm
Lleoliad: Pontllanfraith

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Nanog » Maw 07 Rhag 2010 6:47 am

Dwi wedi clywed Moslemiaid y canu emynau Cristonogol. Ond, ni all yr anffyddiwr ffwndamentalaidd eithafol feddwl amd wneud hyn. Hyd yn oed yr anffyddiwr ffwndamentalaidd eithafol Cymreig. Er fod canu emynau Cymraeg yn rhan o'n hanes a'n diwylliant. Nid oes symud arnynt ar y pwynt hyn er i sawl un ar yr edefyn yma wedi dweud wrthynt fod canu emynau Cristnogol yn yr ysgol heb wneud gronyn o ddrwg iddynt hwythau. Rhaid achub holl blant Cymru rhag canu'r hen emynau erchyll Cymraeg hynna. :ofn:
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan ceribethlem » Maw 07 Rhag 2010 9:45 am

Nanog a ddywedodd:Dwi wedi clywed Moslemiaid y canu emynau Cristonogol. Ond, ni all yr anffyddiwr ffwndamentalaidd eithafol feddwl amd wneud hyn. Hyd yn oed yr anffyddiwr ffwndamentalaidd eithafol Cymreig. Er fod canu emynau Cymraeg yn rhan o'n hanes a'n diwylliant. Nid oes symud arnynt ar y pwynt hyn er i sawl un ar yr edefyn yma wedi dweud wrthynt fod canu emynau Cristnogol yn yr ysgol heb wneud gronyn o ddrwg iddynt hwythau. Rhaid achub holl blant Cymru rhag canu'r hen emynau erchyll Cymraeg hynna. :ofn:

A bod yn deg, fi ddim yn credu fod unrhyw un yn gwneud y pwynt yna. Y broblem sydd gyda pobol yw'r neges sy'n gysylltiedig gyda chanu emyn. Pe bai "cyfarfod boreol" heb unrhyw elfen o grefydd yn perthyn iddo, gydag emyn am resymau traddodiadol ar y diwedd, yna byddai dim problem.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Duw » Maw 07 Rhag 2010 10:04 pm

Yn union Ceri. Dwi wedi canu emynau o sawl gwlad gyda'r cor am taw jest caneuon sy'n swnio'n dda ydyn nhw. Os oeddwn yn gwneud hyn fel cyngerdd Nadolig/crefyddol - 'na' yn bendant. Bydde'r geirie'n chwyddo yn fy nghorn gwddwg. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Barry » Mer 08 Rhag 2010 5:22 pm

Nanog a ddywedodd:Dwi wedi clywed Moslemiaid y canu emynau Cristonogol. Ond, ni all yr anffyddiwr ffwndamentalaidd eithafol feddwl amd wneud hyn. Hyd yn oed yr anffyddiwr ffwndamentalaidd eithafol Cymreig. Er fod canu emynau Cymraeg yn rhan o'n hanes a'n diwylliant. Nid oes symud arnynt ar y pwynt hyn er i sawl un ar yr edefyn yma wedi dweud wrthynt fod canu emynau Cristnogol yn yr ysgol heb wneud gronyn o ddrwg iddynt hwythau. Rhaid achub holl blant Cymru rhag canu'r hen emynau erchyll Cymraeg hynna. :ofn:

Rwy ti dal heb ddiffinio beth yw anffyddiwr ffwndamentalaidd eithafol.

Dyy "anffyddwyr ffwndamentalaidd" ddim yn bodoli - dim ond pobl grefyddol all fod yn ffwndamentalaidd, gan fod y gair yn disgrifio rhywun sy'n dilyn "fundamental doctrines" ei grefydd. Does dim "fundamental doctrines" i anffyddiaeth - dim ond diffyg unrhyw gred mewn Duw. A hefyd - eithafol? Beth sy'n eithafol am fod yn hapus i amddiffyn ein barn?

Mae Mwslimiaid yn credu mewn Duw. Dyw anffyddwyr ddim. Rhan o hanes Cymru neu beidio, pam dylen ni ganu emynau i dduw nad ydyn ni'n credu ynddo?

I fi, mae'n dechrau ymddangos taw'r diffiniad o "anffyddiwr ffwndamentalaidd eithafol" yw "person sy'n anghytuno gyda Nanog".
Barry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:05 pm
Lleoliad: Pontllanfraith

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron