Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Lôn Groes » Iau 30 Rhag 2010 4:14 am

Ar ôl treulio blynyddoedd hapus yn yr ysgol yn Rachub a mwynhau yr 'assembly' i'r eithaf yn Ysgol Cownti Bethesda, wyddwn i ddim, a wnes i rioed feddwl fy mod i wedi cael fy 'ngorfodi' i ganu emyn a dweyd gweddi'r Arglwydd ar ddechrau'r diwrnod ysgol. Sut oedd y ffashiwn beth yn bosibl a minnau yn mwynhau'r profiad cyn gymaint ? A fedrai ddim dweyd bod y 'gorfodi' 'ma wedi gwneyd niwed i mi.
Ond mi fedrai feddwl am hanner dwsin o bynciau ysgol a oedd yn 'orfodol' ac yn ddiflas gen i; pynciau a oedd yn ormes ar fy nghnawd.
Ac wrth feddwl yn ôl mi fuaswn i'n cyfaddef fod mam wedi fy 'ngorfodi' i godi yn y bore; fy 'ngorfodi' i gadw fy hun yn lân ac i barchu fy nghymdogion; mi ges i fy' ngorfodi' i dderbyn deddfau gwlad ac i chwilio am waith.
Ond yn y pen draw wnaeth hyn ddim niwed i mi.
Mae ein cymdeithas yn llygru a phydru am fod rhyw mambi pambis diawl yn cwyno a sniflan am eu bod yn methu a dygymod a'r gair 'gorfod' ; gair sydd wedi bod yn rhan anatod o fywyd ers dechrau amser.
Peidiwch a cwyno da chi!
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan sian » Iau 30 Rhag 2010 8:35 am

Ond mae gorfodi addoli yn wahanol i orfodi rhywun i gadw deddfau gwlad neu orfodi plentyn i wneud rhywbeth fydd er ei les yn y pen draw.

Fel y dywed Simon Barrow, cyd-gyfarwyddwr Ekklesia: “The notions of compulsion and worship are mutually exclusive, and seeking to enforce prayers by law is offensive to the non-conformist Christian conscience, as well as to many of other faith traditions and to non-believers.”
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Nanog » Iau 30 Rhag 2010 9:53 am

sian a ddywedodd:Ond mae gorfodi addoli yn wahanol i orfodi rhywun i gadw deddfau gwlad neu orfodi plentyn i wneud rhywbeth fydd er ei les yn y pen draw.

Fel y dywed Simon Barrow, cyd-gyfarwyddwr Ekklesia: “The notions of compulsion and worship are mutually exclusive, and seeking to enforce prayers by law is offensive to the non-conformist Christian conscience, as well as to many of other faith traditions and to non-believers.”



Mae hawl gan rhiant i dynnu eu plentyn o'r Addoliad. Felly does dim gorfodaeth i gymeryd rhan yn yr arferiad ofnadwy, dinistriol hwn sy'n sathru ar hawliau dynol yr unigolyn.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan sian » Iau 30 Rhag 2010 10:35 am

Nanog a ddywedodd:Mae hawl gan rhiant i dynnu eu plentyn o'r Addoliad. Felly does dim gorfodaeth i gymeryd rhan yn yr arferiad ofnadwy, dinistriol hwn sy'n sathru ar hawliau dynol yr unigolyn.


O safbwynt Cristnogol, byddai modd dadlau ei fod yn 'arferiad dinistriol' am ei fod yn rhoi camargraff i blant o wir natur Cristnogaeth. Trwy ganolbwyntio ar negeseuon moesol, gellir dadlau bod y gwasanaethau'n rhoi'r argraff i bobl ifanc mai dyna yw hanfod Cristnogaeth a'u bod hwythau, felly, yn Gristnogion.

Mae 'na lawer o resymau gan rieni dros beidio â thynnu eu plant o'r gwasanaethau.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Nanog » Iau 30 Rhag 2010 10:59 am

sian a ddywedodd:
O safbwynt Cristnogol, byddai modd dadlau ei fod yn 'arferiad dinistriol' am ei fod yn rhoi camargraff i blant o wir natur Cristnogaeth. Trwy ganolbwyntio ar negeseuon moesol, gellir dadlau bod y gwasanaethau'n rhoi'r argraff i bobl ifanc mai dyna yw hanfod Cristnogaeth a'u bod hwythau, felly, yn Gristnogion.


Wel dyna yw Cristnogaeth y Cymry......addoli ar y cyd gan weddio a chanu emynau. Dyna beth ddylai'r addoli mewn ysgolion adlewyrchu.

Mae 'na lawer o resymau gan rieni dros beidio â thynnu eu plant o'r gwasanaethau.


Pwy sy'n dweud hyn? Rhywun ddywedodd wrth y boi drws nesa rywbryd? :)

O.N.
Beth yw dy farn di am ganu emynau a charolau mewn ysgolion?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Barry » Iau 30 Rhag 2010 1:15 pm

Nanog a ddywedodd:
Mae 'na lawer o resymau gan rieni dros beidio â thynnu eu plant o'r gwasanaethau.


Pwy sy'n dweud hyn? Rhywun ddywedodd wrth y boi drws nesa rywbryd? :)


Mae plant sy'n "wahanol" mewn unrhyw ffordd yn tueddu cael eu bwlio. Dyna reswm da dros beidio â'u tynnu nhw o'r gwasanaethau.
Barry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:05 pm
Lleoliad: Pontllanfraith

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Barry » Iau 30 Rhag 2010 1:19 pm

Lôn Groes a ddywedodd:Mae ein cymdeithas yn llygru a phydru am fod rhyw mambi pambis diawl yn cwyno a sniflan am eu bod yn methu a dygymod a'r gair 'gorfod' ; gair sydd wedi bod yn rhan anatod o fywyd ers dechrau amser.
Peidiwch a cwyno da chi!

Mae gwahaniaeth mawr rhwng gorfodi plant i ddysgu mathemateg yn yr ysgol a'u gorfodi i addoli. Pwrpas ygolion yw addysgu plant. Dylai fod dim lle i addoliad gorfodol mewn ysgolion.
Barry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:05 pm
Lleoliad: Pontllanfraith

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan sian » Iau 30 Rhag 2010 2:05 pm

Mae'r cysylltiad rhwng ysgolion a chapeli/eglwysi wedi bod mor glos ers y dechrau, nes ei bod yn hawdd ei gymryd yn ganiataol.

O ran canu emynau a charolau, dwi'm yn meddwl bod gen i broblem. Sda fi ddim problem gyda storiau o'r Beibl chwaith.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Barry » Iau 30 Rhag 2010 2:26 pm

sian a ddywedodd:Mae'r cysylltiad rhwng ysgolion a chapeli/eglwysi wedi bod mor glos ers y dechrau, nes ei bod yn hawdd ei gymryd yn ganiataol.

O ran canu emynau a charolau, dwi'm yn meddwl bod gen i broblem. Sda fi ddim problem gyda storiau o'r Beibl chwaith.

Ond yn y 21ain ganrif, ddylai fod dim cysylltiad rhwng addysg a chrefydd.
Barry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:05 pm
Lleoliad: Pontllanfraith

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

Postiogan Cymrobalch » Iau 30 Rhag 2010 7:57 pm

Barry a ddywedodd: Ond yn y 21ain ganrif, ddylai fod dim cysylltiad rhwng addysg a chrefydd.


Beth sydd mor arbennig am yr 21ain ganrif? Os na chredwch yn Young Earth Creationism, mae'r byd o ddeutu 4.5 biliwm mlwydd oed! Mae 21ain canrif yn sgil hyn yn amser fer iawn. Rydym ni ymhellffordd o wydbod y cwbl am y fodolaeth yma ac, dywed rhai mae ein dealltwriaeth o'r bydysawd wedi'i cyfyngu gan ein synwyr o "logic" er mae logic wedi'i seilio ar axiomau digon abstract.

Dydy eich barn felly ddim yn synhwyrol. Mae'n rhaid i ni gofio am y diwygiad yn y 1910au cynnar lle'r oedd ail cydio yn ffydd ar hyd a lled y wlad. Rydyn ni yn oll yn byw mewn gwlad digon seciwlar ar hyn o bryd ond, am faint mwy o amser felly? Sut fedrwch chi ddweud o sicrwydd na wnaiff cred yn Nuw tyfu?
Cymrobalch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Maw 15 Tach 2005 9:51 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron