Dwi nawr yn athiest, ond mae gen i 'fond memories' o gwasanaethau ysgol...fel ddudodd y boi yn American Beauty: "This was the high point of my day, it was all down hill from here"...
O ni wrth fy modd yn canu ac yn gwrando ar y storiau boreuol - be fyddai naws y peth bore yma tybed? Cofio'r chweched dosbarth yn cynnal gwasanaeth 'hip' un tro, gan chwarae can "The winds of change" i ni, cyn dadansoddi fe...dwi'm yn cofio beth oedd y neges, ond mi es allan a prynnais y cassette!!!
Ond i drio ateb y cwestiwn, dwi'n amau fod y sylfaen mewn crefydd wedi rhoi buffer i mi tra oedd fy syniadau wrthi'n datblygu o 'the self'. Cyn belled mae syniadau crefyddol yn ymwneud a cariad, ddim angen aur y byd a trio bod yn pobl da yw y neges, yn hytrach na'r stwff damniol dim ond un duw a pawb arall yn mynd i uffern, dwi'm yn meddwl fod na modd iddo gwneud niwed ynde...eto i gyd, dwi'm di meddwl yn ddwfn am y peth felly ymddirheuriadau os yw hyn braidd yn naif...jest estyn context personol yn tentative...mewn Cymraeg hynnod o wael!
