Tudalen 7 o 9

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Iau 30 Rhag 2010 10:16 pm
gan Seonaidh/Sioni
Barry a ddywedodd:Ond yn y 21ain ganrif, ddylai fod dim cysylltiad rhwng addysg a chrefydd.

Cynnwys addysg rifyddeg. Dydy rhifyddeg ond mater o gredu Dyna ddangosodd Goedel yn y 20fed ganrif. Os mai cyson rhifyddeg yna ys anghyflawn hi, ac os mai cyflawn hi yna ys anghyson hi. Pwy a wyr? Mater o grefydd hyn.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Iau 30 Rhag 2010 10:38 pm
gan Barry
Cymrobalch a ddywedodd:Beth sydd mor arbennig am yr 21ain ganrif? Os na chredwch yn Young Earth Creationism, mae'r byd o ddeutu 4.5 biliwm mlwydd oed! Mae 21ain canrif yn sgil hyn yn amser fer iawn. Rydym ni ymhellffordd o wydbod y cwbl am y fodolaeth yma ac, dywed rhai mae ein dealltwriaeth o'r bydysawd wedi'i cyfyngu gan ein synwyr o "logic" er mae logic wedi'i seilio ar axiomau digon abstract.


Does dim byd yn arbennig am y ganrif hon, wrth gwrs. Ond rydyn ni wedi hen adael yr oes pan oedd addysg yn perthyn i'r capeli a'r eglwysi yn unig, a'r oes pan oedd mwyafrif y boblogaeth yn Gristnogion. Pwrpas ysgolion yw paratoi plant o bob crefydd (a heb unrhyw grefydd) i fyw yn y byd. Pam gorfodi plant Hindwaidd, Islamaidd ayyb i ganu emynau Cristnogol? Pam gorfodi plant sydd heb unrhyw gred mewn duwiau o gwbl i weddïo? Y lle perthnasol i grefydd yw'r capel/eglwys/mosg/teml neu'r cartref. Does dim byd gyda fi yn erbyn creu lle ac amser yn yr ysgol i blant weddïo a chanu emynau os ydyn nhw'n dewis hynny, ond ddylai hynny ddim fod yn orfodol.

Cymrobalch a ddywedodd:Dydy eich barn felly ddim yn synhwyrol. Mae'n rhaid i ni gofio am y diwygiad yn y 1910au cynnar lle'r oedd ail cydio yn ffydd ar hyd a lled y wlad. Rydyn ni yn oll yn byw mewn gwlad digon seciwlar ar hyn o bryd ond, am faint mwy o amser felly? Sut fedrwch chi ddweud o sicrwydd na wnaiff cred yn Nuw tyfu?


Yng Nghymru a gweddill y Gorllewin, mae pobl grefyddol erbyn hyn yn y lleiafrif. Does dim rheswm ar hyn o bryd pam y dylai'r duedd honno newid. Ond hyd yn oed petai pobl grefyddol yn fwyafrif mawr, byddai'r un egwyddorion gyda fi: does dim lle mewn ysgolion gwladol i addoliad gorfodol.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Gwe 31 Rhag 2010 12:38 pm
gan Duw
Yng Nghymru a gweddill y Gorllewin, mae pobl grefyddol erbyn hyn yn y lleiafrif. Does dim rheswm ar hyn o bryd pam y dylai'r duedd honno newid. Ond hyd yn oed petai pobl grefyddol yn fwyafrif mawr, byddai'r un egwyddorion gyda fi: does dim lle mewn ysgolion gwladol i addoliad gorfodol.


Yn anffodus, mae crefydd yn bwrw'r brig mewn cylchoedd. Jest pan rydym yn meddwl bo'r pla wedi'i ddinistrio, mae'n mwtaneiddio a dod nol i ddifetha meddyliau gwan. Cawn byth wared ar y peth, er gydag addysg a gwyliadwraeth, gobeithio y gallwn ei gadw o dan gadwyni.

Mae crefydd fel gwleidyddiaeth - proponents am drosi pawb arall i'w ffordd nhw o feddwl. Os oeddwn yn dechrau pregethu neges y Blaid Lafur neu'r Ceidwadwyr yn ein gwasanaethau, yn sicr byddai lle'r diawl amdani. Dwi o'r barn na ddylid fedyddio person na'i orfodi i addoli tan ei fod o'r oedran lle gall wneud perderfyniad call (18+). Mae'r enghraifft hon o 'brainwashing' ar blentyn ifanc yn drais. Pur a syml.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 01 Ion 2011 12:36 am
gan Lôn Groes
sian a ddywedodd:Ond mae gorfodi addoli yn wahanol i orfodi rhywun i gadw deddfau gwlad neu orfodi plentyn i wneud rhywbeth fydd er ei les yn y pen draw.



Wyddwn i ddim fod 'na wahaniaeth.
Onid yw'r ddau yn orfodol? :)

Blwyddyn Newydd Dda i bawb acw.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 01 Ion 2011 8:22 pm
gan Nanog
Barry a ddywedodd:
Does dim byd yn arbennig am y ganrif hon, wrth gwrs. Ond rydyn ni wedi hen adael yr oes pan oedd addysg yn perthyn i'r capeli a'r eglwysi yn unig, a'r oes pan oedd mwyafrif y boblogaeth yn Gristnogion. Pwrpas ysgolion yw paratoi plant o bob crefydd (a heb unrhyw grefydd) i fyw yn y byd. Pam gorfodi plant Hindwaidd, Islamaidd ayyb i ganu emynau Cristnogol? Pam gorfodi plant sydd heb unrhyw gred mewn duwiau o gwbl i weddïo? Y lle perthnasol i grefydd yw'r capel/eglwys/mosg/teml neu'r cartref. Does dim byd gyda fi yn erbyn creu lle ac amser yn yr ysgol i blant weddïo a chanu emynau os ydyn nhw'n dewis hynny, ond ddylai hynny ddim fod yn orfodol.



Yng Nghymru a gweddill y Gorllewin, mae pobl grefyddol erbyn hyn yn y lleiafrif. Does dim rheswm ar hyn o bryd pam y dylai'r duedd honno newid. Ond hyd yn oed petai pobl grefyddol yn fwyafrif mawr, byddai'r un egwyddorion gyda fi: does dim lle mewn ysgolion gwladol i addoliad gorfodol.


Yn ol canlyniadau Cyfrifiad 2001, roedd tua 72% o boblogaeth EnglundandWales yn Gristnogion. Fel y dywedais wrthot o'r blaen, dwi wedi clywed Moslemiaid a phobl of grefyddau eraill yn canu emynau a charolau. Nid oes ganddynt hangups fel yr anghredinwyr ffwndamentalaidd eithafol. Mae gan y rhai sydd eisiau cael eu esgusodi yr hawl i dynnu allan o'r addoli gan gynnwys yr anghredinwyr ffwndamentalaidd eithafol. Pawb yn hapus..... :)

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 01 Ion 2011 8:37 pm
gan Josgin
Petai rhai ohonoch yn gwybod cyn lleied o grefydd o unrhyw fath sydd yng ngwasanaethau arferol ysgolion uwchradd , a chyn lleied mae'r disgyblion yn gwrando , heb son am ddeall, yna ni fuasai yna ddadl mor frwd . Yr wyf yn edrych ymlaen at baratoi gwasanaeth ar ddiwrnod fy ymddeoliad sy'n llawn nonsens gwleidyddol anghywir a sarhaus. Dwi'n ofni na fuasai neb yn sylwi .

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 01 Ion 2011 10:57 pm
gan Seonaidh/Sioni
72% Cristion? Tir Nanog dwi'n credu. Mae efallai 25% yn Gristion a'r un faint sy'n credu mewn credoau eraill, e.e. Islam, Hindwaeth, Iddewaeth, Annuwiaeth, Moroniaeth ayyb. Ac mae efallai 50% sy'n "credu yn Nuw" - neu sy ddim yn sicr - ond heb ddilyn dim ffydd arbennig. Ac, wrth gwrs, bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n deud "Cristion" ar y ffurflen.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 02 Ion 2011 12:02 am
gan Barry
Nanog a ddywedodd:Mae gan y rhai sydd eisiau cael eu esgusodi yr hawl i dynnu allan o'r addoli

Anghywir. Mae gan eu rhieni yr hawl i'w tynnu allan, sy'n beth cwbl wahanol. A phetai plentyn yn cael ei dynnu allan, mae'n debygol o gael ei fwlio oherwydd ei fod yn "wahanol".

Nanog a ddywedodd:gan gynnwys yr anghredinwyr ffwndamentalaidd eithafol. Pawb yn hapus..... :)

Ac fel rwyf wedi dweud o'r blaen, dyw'r fath beth ddim yn bodoli.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 02 Ion 2011 11:54 pm
gan Duw
Josgin a ddywedodd:Petai rhai ohonoch yn gwybod cyn lleied o grefydd o unrhyw fath sydd yng ngwasanaethau arferol ysgolion uwchradd , a chyn lleied mae'r disgyblion yn gwrando , heb son am ddeall, yna ni fuasai yna ddadl mor frwd . Yr wyf yn edrych ymlaen at baratoi gwasanaeth ar ddiwrnod fy ymddeoliad sy'n llawn nonsens gwleidyddol anghywir a sarhaus. Dwi'n ofni na fuasai neb yn sylwi .


Digon teg Jos. Hoffwn gytuno bo gwasanaethau crefyddol yn ddi-fater - sneb yn gwrando. Er, i mi, fel anffyddiwr, nid dyna'r pwynt.

Fel y dywedais wrthot o'r blaen, dwi wedi clywed Moslemiaid a phobl of grefyddau eraill yn canu emynau a charolau. Nid oes ganddynt hangups...


Dyna'r ddadl mwya glib dwi wedi clywed 'to. Oherwydd bod rhai o grefyddau eraill yn fodlon eu canu, dylai pawb arall atal eu cwyno gwirion.

"Pam nac wyt ti'n canu Davies?"

"Dwi ddim yn gristion, syr".

"BETH? Mae Ali a Li yn foldon canu 'Tawel Nos', felly stop dy nonsens Davies a chana, neu geid di ei ganu ar dy ben dy hun o flaen pawb!"

"Ond syr, dwi ddim yn credu".

"Ti ddim yn credu mewn Sion Corn chwaith, ond rwyt ti'n dal i ddisgwyl anrhegion. Gwela fi ar y diwedd. Gwarthus..."


Ac eto...

Pennaeth: "Reit Mrs Jones, nawr bod ein gwasanaeth wedi gorffen, gofynnwch i'r disgyblion tu allan i ddod i mewn i gael clywed y cyhoeddiadau."

(700 o ddisgyblion eraill y troi i edrych ar 2 unigolyn yn slinco mewn)
:rolio:

Dyma'r ysgol fel dwi'n ei chofio (25 blynedd yn ol). Ydyn ni wir wedi symud mlaen? Mae datganiadau rhai yma yn dadlau yn erbyn unrhyw gynnydd.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Gwe 07 Ion 2011 9:23 pm
gan SerenSiwenna
Dwi nawr yn athiest, ond mae gen i 'fond memories' o gwasanaethau ysgol...fel ddudodd y boi yn American Beauty: "This was the high point of my day, it was all down hill from here"...

O ni wrth fy modd yn canu ac yn gwrando ar y storiau boreuol - be fyddai naws y peth bore yma tybed? Cofio'r chweched dosbarth yn cynnal gwasanaeth 'hip' un tro, gan chwarae can "The winds of change" i ni, cyn dadansoddi fe...dwi'm yn cofio beth oedd y neges, ond mi es allan a prynnais y cassette!!! :lol: :lol: :lol:

Ond i drio ateb y cwestiwn, dwi'n amau fod y sylfaen mewn crefydd wedi rhoi buffer i mi tra oedd fy syniadau wrthi'n datblygu o 'the self'. Cyn belled mae syniadau crefyddol yn ymwneud a cariad, ddim angen aur y byd a trio bod yn pobl da yw y neges, yn hytrach na'r stwff damniol dim ond un duw a pawb arall yn mynd i uffern, dwi'm yn meddwl fod na modd iddo gwneud niwed ynde...eto i gyd, dwi'm di meddwl yn ddwfn am y peth felly ymddirheuriadau os yw hyn braidd yn naif...jest estyn context personol yn tentative...mewn Cymraeg hynnod o wael! :wps: