Tudalen 8 o 9

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 10:42 am
gan ceribethlem
Beth chi'n feddwl o bethau fel gsuslive te

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 12:47 pm
gan Cymrobalch
Haha! Mae'n swno fatha distribution newydd o GNU/Linux 8) Byth a chlywed amdani o'r blaen. Ymwela'i â'r linc nawr.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 2:03 pm
gan ceribethlem
Rhywbeth trendi yw e'. Mae gsus yn cael ei ynganu G-sus (Jesus) :rolio:

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 2:36 pm
gan Cymrobalch
Nhyb i, mai bach yn galed i mi cymryd hwn o ddifrif. Falle fy mod bach yn old school ond, mae'r ceisiadau i foderneiddio delwedd Cristnogaeth trwy ei gysylltu gyda technoleg a thermenoleg TGCh yn bach yn fy ngwrthladd.

O ran y drafodaeth yma credaf, fel mae eraill wedi arwyddocàu, fod y gwasanaeth yma wedi cymryd rôl humanistic i'r amlwg er, mae'n galed dweud heb cael gwybodaeth manylach clîr. Byswn i'n tybio fod hyn yn fwy o lles i'r syllabus blynyddoedd 7 i 9 Addysg Cref. fel dwi'n ei chofio. Roedd llawer o'r hyn a ddysgom i wneud gyda dwyn i gof beth a welir sy'n moesol. Yn fy marn i, dydy plant ysgol eilradd ddim yn heintrydd i fod yn sinigaidd at pethau fel hyn.

Yn ôl at gwasanaethau crefyddol yn yr ysgol. Mae rhai wedi awgrymu y buasai'n werth segregeiddio'r rhai sy'n crefyddol o'r lleill fel eu bod yn cael gwasanaeth ar wahan o anghredinwyr. Er y buaswn i'n digon hapus derbyn hyn fy hyn, mae'r syniad yn groes i ethos ysgolion Prydain. Fel enghraifft, o ran Anghenion Arbennig (Additional Learning Needs), y nod gyntaf yw i sicrhau cynhwysiad, h.y, bod pawb yn cael y gallu mynychu'r un ysgol heb ots am eu gallu.

O hyn, na fuasài'n iawn i gynnal mwy nag un gwasanaeth i'r crefyddol a'r anghrefyddol. Hefyd, ces i'r argraff yn yr ysgol nad oedd neb yn rhoi iot os oeddent yn gweddïo a chanu emyn neu beidio. Hyd yn oed fy ffrindiau mwyaf sur am crefydd, roedden nhw bob un yn canu'r emynau er heb llawer o rigeur.

Efallai'r peth synhwyrol i wneud yw i cael gwasanaeth sy'n ysbrydol ond, sydd ddim yn targedu unrhyw un grwp crefyddol ar ei ben ei hun gyda gweddi ar y diwedd sydd ddim yn cael ei cyfeirio « yn enw Iesu Grist, Amen ». Yna ei ddilyn gan emyn. Teimlaf bysai'n drist iawn o'r syniad o golli canu yn ysgolion dim ond am i ni beidio gallu canu emynau sy'n addoli Duw.

Beth fysech chi'n gwneud i sicrhau bod canu o hyd yn bodoli yn ysgolion heblaw am emynau?

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 3:04 pm
gan Josgin
Canu mewn ysgol ! Ni glywais blentyn yn canu yn ein hysgol ni ers chwarter canrif ! (Hwre )

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 4:12 pm
gan Cymrobalch
Josgin a ddywedodd:Canu mewn ysgol ! Ni glywais blentyn yn canu yn ein hysgol ni ers chwarter canrif ! (Hwre )


Beth ydych chi'n meddwl digwyddodd, Josgin? Ai'r achos am hyn oedd y cwymp mewn crefyddoldeb? Atgoffa fy athro innau o pan yr oedd canu pedwar llais yn ei wasanaethau ysgol. Dyna'r hyn y hoffwn i wedi gweld pan oeddwn yn ysgol. Roedd bod yn rhan o'r côr yn digon teg a hwyl ond digon prin oedden ni ar y cyfan.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 6:06 pm
gan Josgin
Cafodd gormod ohonom ein gorfodi i ganu yn yr ysgol , capel ayb. Dim pawb sy'n hoffi canu. Mae gormod o'n hemynau wedi eu cyfansoddi ar gyfer cantorion da mewn neuaddau a capeli enfawr. Dwi'n cofio cae fy nghorfodi mwy nac unwaith i ganu mewn cor, ac yna cael fy nwrdio pan yr oeddwn yn canu allan o diwn .

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 11:47 pm
gan Barry
ceribethlem a ddywedodd:Beth chi'n feddwl o bethau fel gsuslive te

Ffordd di-bwynt o newid delwedd Cristnogaeth. Nid y ddelwedd sy'n ddiffygiol, ond yr athrawiaethau.

Nadroedd sy'n siarad? Atgyfodiad dyn gafodd ei groeshoelio? Dyn yn stopio'r haul rhag symud er mwyn gorffen brwydr? Pobl gyda ffydd yn gallu symud mynyddoedd? Cael byw am byth, ond dim ond ar ôl ichi farw? Pawb (ac eithrio'r Cristnogion) yn farw yn eu pechod ac yn mynd i Uffern? Diffyg credadwyaeth yw problem Cristnogaeth, nid diffyg delwedd trendi.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 09 Ion 2011 12:10 am
gan Cymrobalch
Josgin a ddywedodd: Dwi'n cofio cae fy nghorfodi mwy nac unwaith i ganu mewn cor, ac yna cael fy nwrdio pan yr oeddwn yn canu allan o diwn.


Ces i'r un agwedd at Addysg Gorfforol. Roeddwn i'n rybbish am hynna yn yr ysgol. Ces i fy sgrechan ato am beidio medru'r "siswrn" yn rygbi. Cewch gwared o Add Gorff 'fyd te! :ing:

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 09 Ion 2011 9:55 am
gan Duw
> Addysg Gorfforol

Mae mwy i addysg gorfforol dyddie 'ma na rhiteg trwy gaeau mwdlyd am hanner awr. Llwyth ar fywta'n iach a chadw'n heini. 'Nes i ddim fwynhau hanes yn ysgol, ond ro'n i'n gweld y gwerth. Nes i ddim fywnhau addysg grefyddol, ond ro'n i'n gweld y gwerth.

Gorfodi addoli - 'nes i ddim ei fwynhau a dwi DDIM yn gweld y gwerth.