Tudalen 9 o 9

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 09 Ion 2011 11:02 am
gan Cymrobalch
Duw a ddywedodd:> Addysg Gorfforol

Mae mwy i addysg gorfforol dyddie 'ma na rhiteg trwy gaeau mwdlyd am hanner awr. Llwyth ar fywta'n iach a chadw'n heini. 'Nes i ddim fwynhau hanes yn ysgol, ond ro'n i'n gweld y gwerth. Nes i ddim fywnhau addysg grefyddol, ond ro'n i'n gweld y gwerth.

Gorfodi addoli - 'nes i ddim ei fwynhau a dwi DDIM yn gweld y gwerth.

Sori, Duw. Nid o ran yr addoli o'n i'n son yn yr ystod yma. Am canu o'n i'n ranto. Jyst yn wyndran be fyse plant yn canu yn yr ysgol Os na chewn canu Emynau. Dw'i nawr yn Gweld dy bwynt yn erbyn addoliad yn ysgolion. Odd rhai athrawon yn esgus ei wneud i farnu'r plant tra llall yn amharchus yng nghanol gweddi gan sibrwd a chwerthin o dan eu lleisiau at ei gilydd.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 09 Ion 2011 11:42 am
gan Nanog
Josgin a ddywedodd:Cafodd gormod ohonom ein gorfodi i ganu yn yr ysgol , capel ayb. Dim pawb sy'n hoffi canu. Mae gormod o'n hemynau wedi eu cyfansoddi ar gyfer cantorion da mewn neuaddau a capeli enfawr. Dwi'n cofio cae fy nghorfodi mwy nac unwaith i ganu mewn cor, ac yna cael fy nwrdio pan yr oeddwn yn canu allan o diwn .

Itha reit 'fyd. A betia i fod rhywfaint o siap ar dy ganu o achos hynny. :D

Ond a bod o ddifri. Mi roedd yr emynau 'ma yn cael eu canu gan y werin. Oedd y werin yn fwy deallusol na plant heddi? Gwell i blant heddi hefyd ddilyn cwricwlwm a sefyll arholiadau sydd yn sicrhau fod y rhan fwyaf ononynt yn llwyddo. Gall cyfran uwch gael A ayyb. Aros funud........ :rolio: (Dwi ar yr un trywydd a Cymrobalch nawr ond dwi). Dere mlan Josgin. Ro'n i'n meddwl fod dy draed ar y ddaear yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r lefties hunan gyfiawn PC 'ma.

Mi glywais i rywun yn dweud fod y Cymry yn un o dair (dwi'n meddwl) cenedl oedd yn gallu can harmoni. Pam tybed?

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 09 Ion 2011 12:04 pm
gan ceribethlem
Nanog a ddywedodd:

Fi ddim yn deall dy bwynt mewn bowld. Pam fod son am addoli gorfodol yn rhywbeth ar gyfer lefties hunan gyfiawn PC? (ai PC = Politically Correct, neu PC = Plaid Cymru wyt ti'n feddwl? Naill fordd neu'r llall 'wy ddim cweit yn ei ddeall).

Parthed gweddill dy bwynt, pwrpas y cwricwlwm yw rhoi digon o sgiliau i'r disgyblion gwannaf i fedru adael yr ysgol a gwneud rhywbeth defnyddiol. Mae'r farchnad waith wedi newid cryn dipyn, gyda llawer llai o diwydiant trwm yn bodoli.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 09 Ion 2011 12:25 pm
gan Duw
Dwi'n cymryd tac ychydig yn wahanol yma. Dwi'n gweld y pwynt o ganu, r'un peth â dwi'n gweld y pwynt o ddatblygu sgiliau celfyddydol eraill (od yn dod o wyddonydd efallai, ond dyna'm safbwynt). Gallaf oddef canu emynau hefyd, OND nid mewn cyd-destyn addoli. Efallai pwrpas emynau yw addoli, ond gall anffyddwyr fwynhau canu alaw adnabyddus o dro i dro hefyd. Y cyd-destun yw popeth i mi o ran gwasanaethau.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sad 15 Ion 2011 6:01 pm
gan Nanog
Duw a ddywedodd:Dwi'n cymryd tac ychydig yn wahanol yma. Dwi'n gweld y pwynt o ganu, r'un peth â dwi'n gweld y pwynt o ddatblygu sgiliau celfyddydol eraill (od yn dod o wyddonydd efallai, ond dyna'm safbwynt). Gallaf oddef canu emynau hefyd, OND nid mewn cyd-destyn addoli. Efallai pwrpas emynau yw addoli, ond gall anffyddwyr fwynhau canu alaw adnabyddus o dro i dro hefyd. Y cyd-destun yw popeth i mi o ran gwasanaethau.

Dwi'n cael yr argraff dy fod ti wedi profi rhyw fath o droedigaeth. Roeddwn i'n gwybod y bydde ti'n gweld y goleuni frawd. :)

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 16 Ion 2011 4:37 pm
gan ceribethlem
Roedd bwriad gyda ni, yn Eisteddfod yr ysgol, i gael nifer o emynau i'r corau i ganu. Mae hwnna wedi newid nawr achos bydde'r Jehovah's ddim yn gallu cymryd rhan :lol:
Yma o Hyd fyddwn ni'n canu nawr. Sneb yn meddwl am ffans y Gweilch yn amlwg.

Re: Gorfodi Addoli mewn Ysgolion

PostioPostiwyd: Sul 16 Ion 2011 10:15 pm
gan Chickenfoot
Ar bwynt ychydig yn wahanol, ond yn cysylltiedig, dw i'n gorfod gwrando ar gynghorion yn weddio fel rhan o'n waith. Gan mai rywbeth hollol ddi-bwynt w gweddio (onid yw gofyn i Dduw am rywbeth yn mynd yn groes i "God shall not be tested"? ), mae'r olygfa o bobol sydd i fod ymysg goreuon yr ardal ynb gofyn i ysbryd am gymorth i neud penderfyniadau'n hollol cherthinllyd.

Pam oes rhaid i ni barchu ymddygiad fel hyn? Pam ydi crefydd yn cael free pass bob tro, boed yn yr ysgol neu adeilad cyngor?