Caplaniaid y lluoedd arfog a rhyfel cyfiawn

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Caplaniaid y lluoedd arfog a rhyfel cyfiawn

Postiogan Josgin » Sul 02 Ion 2011 1:01 am

Mae rhaglen 'o'r galon' wythnos nesaf yn dangos bywyd y Parchedig Aled Thomas. Mae'r Parch Thomas wedi bod yn gaplan yn y fyddin Brydeinig , yng ngogledd Iweddon ac yn y dwyrain. Mae erthygl reit ddiddorol arno yn y ' Daily Post' heddiw hefyd.
Rai wythnosau yn ol , bu rhaglen radio'n trafod testun 'Rhyfel cyfiawn' , ac roedd Marcus Robinson - gwenidog anghydffurffiol o'r ardal yma, yn cyfiawnhau'r syniad yma. Bu yntau'n gaplan yn y lluoedd arfog, os y cofiaf yn iawn.
Yr wyf wedi bod yn wrth-filitaraidd erioed . Nid wyf yn siwr os mai heddychiaeth neu Gwrth -Seisnigrwydd/Brydeindod sy'n gyrru hyn.
Rhaid cyfaddef felly nad wyf yn deall sut y mae ficer sy'n amlwg yn Gymro deallus yn gallu coleddu militariaeth - ac arddel y medalau y gwelir ef yn gwisgo mewn gwasanaeth . Nid wyf yn cytuno a'r ddadl ei fod yna i gynnig cysur i filwyr. Maent oll yno o'u dewis, ac os ydynt yn dioddef ing meddyliol, dyna'r pris sydd i'w dalu am barodrwydd i ladd ar ran gwladwriaeth. Dyna beth yw tynged milwr erioed.
Mae'r deg gorchymyn yn dechrau gyda 'Na ladd ' - a yw'r clerigwyr yn y fyddin yma'n pwysleisio'r gorchymyn , yn ymgeisio i'w lastwreiddio, neu dewis ei anghofio ? Hoffwn glywed barn pobl eraill , oherwydd yr oedd clywed y Parch Robinson yn fy synnu , yn enwedig.
Pan yr wyf wedi clywed ef , a'r Parch Felix Aubel hefyd, yn pregethu, mae rhywyn yn astudio'r cynnwys am rhyw ddiwynyddiaeth galed, anoddefgar - ond nid yw wedi bod ddim gwahanol i wenidogion eraill ! . Lle maent felly wedi tynnu eu llinell foesol ?.
Mae'r diwynydd Bonhoffer wedi ei arddel sawl tro fel enghraifft o ferthyr diweddar - ond clywais son hefyd ei fod yntau wedi dod i'r casgliad , yn hwyr, fod angen disodli Hitler drwy ladd.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Caplaniaid y lluoedd arfog a rhyfel cyfiawn

Postiogan bed123 » Sul 02 Ion 2011 1:41 pm

Mae Marcus Robinson yn cyn aelod o'r lluoedd arfog a rwyf wedi clywed o yn amddiffyn rhyfel trychinebus Irac ar taro post agyb, felly ddim yn syndod i mi. Dwi'n cael hi'n anodd derbyn y syniad o caplan mewn byddin. Fel wyt yn dweud, Na ladd yw'r gorchymyn gyntaf a bwysicaf, Na ladd! Nid Na ladd, heblaw fod y person yn gwisgo uniform! Cael caplan, gweinidog cristnogol, ffydd o heddwch a caru dy gelyn, yn rhan o unrhyw byddin yn debyg i llysieuwr yn rhan o ymgyrch hybu cig. Gwleidyddiaeth yw rhyfel yn y bon beth bynnag fel ddwedodd Carl von Clausewitz "Mae rhyfel yn barhad o wleidyddiaeth drwy ddulliau eraill."
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Caplaniaid y lluoedd arfog a rhyfel cyfiawn

Postiogan ceribethlem » Sul 02 Ion 2011 2:59 pm

bed123 a ddywedodd:Mae Marcus Robinson yn cyn aelod o'r lluoedd arfog a rwyf wedi clywed o yn amddiffyn rhyfel trychinebus Irac ar taro post agyb, felly ddim yn syndod i mi. Dwi'n cael hi'n anodd derbyn y syniad o caplan mewn byddin. Fel wyt yn dweud, Na ladd yw'r gorchymyn gyntaf a bwysicaf, Na ladd! Nid Na ladd, heblaw fod y person yn gwisgo uniform! Cael caplan, gweinidog cristnogol, ffydd o heddwch a caru dy gelyn, yn rhan o unrhyw byddin yn debyg i llysieuwr yn rhan o ymgyrch hybu cig. Gwleidyddiaeth yw rhyfel yn y bon beth bynnag fel ddwedodd Carl von Clausewitz "Mae rhyfel yn barhad o wleidyddiaeth drwy ddulliau eraill."

Maw duw ei hunan wedi lladd digon o bobl yn ei lyfr.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Caplaniaid y lluoedd arfog a rhyfel cyfiawn

Postiogan Josgin » Maw 04 Ion 2011 11:20 pm

Rhaglen ardderchog a diddorol yn y diwedd.Yr oedd y Parch Thomas yn rhoi disgrifiad huawdl o waith caplan milwrol. Mae'n amlwg mai 'Lucky charm' yw'r caplan i filwyr , i raddau ( sydd yn cydiad ym mhob ofergoel mewn brwydyr , ers canrifoedd) .
Yr oedd y Parch Thomas hefyd yn ddigon gonest i led awgrymu ei fod yn hoffi cyffro ac antur maes y gad , a'r teimladau cymysg oedd ganddo o fod yn 'Brit' yn syllu ar 'Free Derry' . Yr oedd crefydd yn sbarduno helyntion Iwerddon, ond yr oedd yntau ar un ystyr yn ei chanol hi, ac mewn ystyr arall wedi ei ysgaru'n gyfangwbl o grefydd y 6 sir .
Rhywbeth na chefais ateb iddo oedd y cwestiwn mawr - Pam ? . Yr oedd Prydeindod a rhwysg y lluoedd arfog i'w gweld yn y seremoni cofio, ac yntau'n gwisgo'i fedalau .
Os y cofiaf yn iawn, roedd Cynan yn gaplan yn y rhyfel mawr - ai fo a gyfeiriodd at 'Gwyr ddi-dduw ' ? .
Portread sensitif iawn o berson diddorol, serch y ffaith fy mod yn gresynu'n ddirfawr at ei alwedigaeth .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Caplaniaid y lluoedd arfog a rhyfel cyfiawn

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 08 Ion 2011 10:24 am

Rwi'n nabod cyn-gaplan milwrol yma yn yr Alban. Gwnai o wasanaeth defnyddiol iawn i'r milwyr oedd ar y ffrynt lein ac yn angladdau ayyb ond mae o'n hollol yn erbyn pethau fel Irac.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Caplaniaid y lluoedd arfog a rhyfel cyfiawn

Postiogan Josgin » Sad 08 Ion 2011 12:34 pm

Pam y gwnaeth gefnogi'r fyddin drwy weithio iddi, ynte ? . Y fyddin oedd yn talu ei gyflog , ac yn rhoi to ar ei ben. Rhagrith yw peth felly.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron