Pwy Sgrifennodd y Testament Newydd, S4C

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Macsen » Gwe 28 Tach 2003 1:39 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ia ond fel dwi'n gweld hi ma gin i yr atebion!


Mai dweud mai cwestiynnu y beibl ydw i yn gor-symyleiddio. Hyd yn oed os mae gen ti'r ateb, mai yna le i ddehongli pwyntiau bach o fewn y Beibl, hyd yn oed os wyt ti'n gristion. Er engraifft, os mai rhai llyfrau o'r Beibl wedi cael ei ymyrrid a nhw gan eraill, a ddylen ni ei darllen nhw? Dyw'r faith ei bod nhw yn y beibl ddim yn meddwl bod y Beibl yn anghywir. Ond dim ond esiamply yw hynny.

Rhys Llwyd a ddywedodd:jyst o ran eglurdeb, wyt ti'n gristion IMJ?


Dibynnu beth wyt ti'n ei gyfrif fel cristion? Yn ol rhai mi fyswn i'n gristion, ond yn ol fi, a ti mae'n siwr, swn i ddim yn meddwl fy mod i'n disgyn mewn i'r categori yna. Fel oeddwn i'n dweud, mi greiais i Criw Duw fel bod posib trafod a gwneud synnwyr o gwestiynnau mawr crefydd. Os bysai fy nghwestiynnau mawr yn cael ei hateb yn foddhaol, debyg mi fyswn i'n troi'n gristion. Ond ar y funud dw i ddim yn credu mae'r Duw mai fy egwlys i'n siarad a fi amdano yw yr gwir Dduw, os mae o'n bod.
Dw i hefyd wedi gweld trend ymysg cristnogion o'm cwmpas i i gymeryd ei ffydd fel rywbeth sy'n siwtio nhw, ac mae nhw'n ddigon parod i anghofio amdano a bod yn reit rwd at pobl sydd ddim yn gristnogion. Neb yn particular, a neb dwi'n agos iawn tuag atyn nhw, ond mae yna lot o 'talk the talk' a dim llawer o 'walk the walk' yn mynd ymlaen, sy'n gwneud i fi golli gobaith mewn cristnogaeth hyd yn oed yn fwy.

Ond dyna ni, dim fi sydd dan drafodaeth fan hyn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 29 Tach 2003 3:57 pm

ond yn ol fi... swn i ddim yn meddwl fy mod i'n disgyn mewn i'r categori yna.[/quote]

dyna sy'n bwysig yndife?

Ifan Morgan Jones a ddywedodd: Dw i hefyd wedi gweld trend ymysg cristnogion o'm cwmpas i i gymeryd ei ffydd fel rywbeth sy'n siwtio nhw, ac mae nhw'n ddigon parod i anghofio amdano a bod yn reit rwd at pobl sydd ddim yn gristnogion.


Mae hyn yn broblem, ddim i enw neb eto ond dwin meddwl bo nin meddwl am run person :winc: ... hoffi dal trenau.

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:mae yna lot o 'talk the talk' a dim llawer o 'walk the walk' yn mynd ymlaen, sy'n gwneud i fi golli gobaith mewn cristnogaeth hyd yn oed yn fwy.


cytunaf eto

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Ond dyna ni, dim fi sydd dan drafodaeth fan hyn.


naci amwni
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Sul 30 Tach 2003 8:35 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae hyn yn broblem, ddim i enw neb eto ond dwin meddwl bo nin meddwl am run person ... hoffi dal trenau.


Hmmm... waeth i ti fod wedi gweiddi ei enw o'r rooftops. Dyma pawb yn y ty yn gesio pwy oedd hwn yn syth... heblaw am y boi ei hun.

Marwolaeth a ddywedodd:Diddorol oedd bod llawer o lyfrau heb gael ei cynnwys yn y beibl, a hefyd bob dim syniad pwy ysgrifennodd llawer o'r rhai a aeth i mewn i'r beibl. Mae'n edrych fel bod yr rheini a aeth i mewn yn ddrych i farn yr hwnw a ddewisodd nhw yn unig.


Mae hyn yn fy mhoeni i yn fawr. Os does dim syniad pwy ysgrifennodd beth a pam, sut mai gwybod os mai tystiolaeth gan pobl welodd Iesu, yn lle tystiolaeth pobl a ail ysgrifennodd y beibl gyda ei agenda nhw'i hunain?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron