Rhys Llwyd a ddywedodd:Ia ond fel dwi'n gweld hi ma gin i yr atebion!
Mai dweud mai cwestiynnu y beibl ydw i yn gor-symyleiddio. Hyd yn oed os mae gen ti'r ateb, mai yna le i ddehongli pwyntiau bach o fewn y Beibl, hyd yn oed os wyt ti'n gristion. Er engraifft, os mai rhai llyfrau o'r Beibl wedi cael ei ymyrrid a nhw gan eraill, a ddylen ni ei darllen nhw? Dyw'r faith ei bod nhw yn y beibl ddim yn meddwl bod y Beibl yn anghywir. Ond dim ond esiamply yw hynny.
Rhys Llwyd a ddywedodd:jyst o ran eglurdeb, wyt ti'n gristion IMJ?
Dibynnu beth wyt ti'n ei gyfrif fel cristion? Yn ol rhai mi fyswn i'n gristion, ond yn ol fi, a ti mae'n siwr, swn i ddim yn meddwl fy mod i'n disgyn mewn i'r categori yna. Fel oeddwn i'n dweud, mi greiais i Criw Duw fel bod posib trafod a gwneud synnwyr o gwestiynnau mawr crefydd. Os bysai fy nghwestiynnau mawr yn cael ei hateb yn foddhaol, debyg mi fyswn i'n troi'n gristion. Ond ar y funud dw i ddim yn credu mae'r Duw mai fy egwlys i'n siarad a fi amdano yw yr gwir Dduw, os mae o'n bod.
Dw i hefyd wedi gweld trend ymysg cristnogion o'm cwmpas i i gymeryd ei ffydd fel rywbeth sy'n siwtio nhw, ac mae nhw'n ddigon parod i anghofio amdano a bod yn reit rwd at pobl sydd ddim yn gristnogion. Neb yn particular, a neb dwi'n agos iawn tuag atyn nhw, ond mae yna lot o 'talk the talk' a dim llawer o 'walk the walk' yn mynd ymlaen, sy'n gwneud i fi golli gobaith mewn cristnogaeth hyd yn oed yn fwy.
Ond dyna ni, dim fi sydd dan drafodaeth fan hyn.