Pwy Sgrifennodd y Testament Newydd, S4C

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pwy Sgrifennodd y Testament Newydd, S4C

Postiogan Heledd » Mer 19 Tach 2003 12:39 pm

Beth yw barn y Criw Duw am y rhaglen hon? Fi'n ei fwynhau e. Nid yw o anghenrhaid i fy ffydd, ond mae yn rhaglen sydd yn ymdrin â Christnogaeth gydag aeddfedrwydd ac yn apelio yn fwy na rhaglenni capelyddol sydd wedi eu creu ar gyfer bobl hyn (mae angen rhain, siwr, ond angen rhywbeth sy'n apelio at rychwant ehangach o bobl).

Joies i ddamcantiaeth Efengyl Ioan yn y rhaglen gyntaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Heledd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Gwe 10 Hyd 2003 3:56 pm
Lleoliad: Canolbarth

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 19 Tach 2003 3:38 pm

O ni'n gweld e braidd yn ddiflas. Trieni odd potensial gydar rhaglen i gyflwyno yr efengyl, treni fod dim tim cynhyrchu a cyflwynydd fwy caresmatic da nw!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Gwe 21 Tach 2003 7:21 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Trieni odd potensial gydar rhaglen i gyflwyno yr efengyl


Dim cyflwyno yr efengyl oedd pwrpas y rhaglen, ond i'w gestiynnu.

Roeddwn i'n meddwl ri fod o'n rhaglen da iawn. Trueni ei bod nhw wedi cyffwrth yn unig ar y ffaith bod Paul/Saul wedi ail ysgrifennu llawer o'r llyfrau ddaeth cynt. Mae'n ffactor ofnadwy o bwysig wrth ddehongli y beibl, yn fy marn i.

Doeddwn i ddim yn hoff o farn Aled Owen ar y rhaglen:

Aled Owen a ddywedodd:Pam ddylsen ni gwestiynnu rywbeth mae pawb wedi ei acceptio yn barod?


Dwi'n siwr fod paganiaid wedi 'acceptio' bod boddi virgins yn dod a cynheaf da hefyd, ond mae pethau wastad yn agored i ddehongliad newydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Marwolaeth » Llun 24 Tach 2003 2:30 am

Diddorol oedd bod llawer o lyfrau heb gael ei cynnwys yn y beibl, a hefyd bob dim syniad pwy ysgrifennodd llawer o'r rhai a aeth i mewn i'r beibl. Mae'n edrych fel bod yr rheini a aeth i mewn yn ddrych i farn yr hwnw a ddewisodd nhw yn unig.
Fin nos, fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiaf hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Marwolaeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 1:04 am
Lleoliad: Ymhobman

Postiogan Dylan » Iau 27 Tach 2003 4:29 pm

'Dw i'n eithaf mwynhau'r gyfres hefyd. 'Dydw i ddim yn gwybod llawer am y pwnc i ddweud y gwir felly 'dw i'n meddwl ei fod o'n ddiddorol. 'Dw i'n meddwl bod S4C yn gwneud rhaglenni dogfen yn dda ar y cyfan.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Iau 27 Tach 2003 6:59 pm

Mae'n biti bod S4C wedi dewis rhoi'r ddau olaf ar yr un pryd a'r ddogfen ar Iraq a lladd JFK. Dw i'n methu degfenau da mwy nag unrhywbeth o Sky.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 27 Tach 2003 11:48 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Dim cyflwyno yr efengyl oedd pwrpas y rhaglen, ond i'w gestiynnu.


Ai dyna oedd, hefyd, pwynt sefydlu'r cylch defnyddwyr yma i ti?

IMJ a ddywedodd:Doeddwn i ddim yn hoff o farn Aled Owen ar y rhaglen


Ma Aled mewn class ei hun yn ol yr arfer OND os wyt ti'n cyfri dy hun yn gristion pam bo ti mor 'in to' cwestiynnu cristnogaeth?!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Gwe 28 Tach 2003 12:08 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ai dyna oedd, hefyd, pwynt sefydlu'r cylch defnyddwyr yma i ti?

Ma Aled mewn class ei hun yn ol yr arfer OND os wyt ti'n cyfri dy hun yn gristion pam bo ti mor 'in to' cwestiynnu cristnogaeth?!


Ahem. Ai fi sydd dan drafodaeth fama ta y rhaglen?

Cofi mai lle i drafod crefydd ydi hwn. Mai tua'r un faint o ein aeoldau ddim yn gristnogion a sydd yn gristnogion. Heb weld unrhyw un o grefydd arall eto, ond mi fysai'n neis os fysan nhw'n cyfrannu.

Ac, Rhys, os nad wyt ti'n fodlon cwestiynnu dy fydd, mi fyswn i'n ti yn gofyn gofyn i ti dy hun os wyt ti'n cyfri dy hun yn gristion. Onid dyna be mae'r capel am i atheists a bobl o grefyddau eraill ei wneud?

'Pam wyt ti yma?' oedd y cwestiwn ar posteri aneffeithiol ond diddorol Undeb Gristnogol Caerdydd. Dyna oedd pwynt sefydlu y cylch yma.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 28 Tach 2003 1:20 am

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Ac, Rhys, os nad wyt ti'n fodlon cwestiynnu dy fydd, mi fyswn i'n ti yn gofyn gofyn i ti dy hun os wyt ti'n cyfri dy hun yn gristion. Onid dyna be mae'r capel am i atheists a bobl o grefyddau eraill ei wneud?

'Pam wyt ti yma?' oedd y cwestiwn ar posteri aneffeithiol ond diddorol Undeb Gristnogol Caerdydd. Dyna oedd pwynt sefydlu y cylch yma.


Ia ond fel dwi'n gweld hi ma gin i yr atebion!

jyst o ran eglurdeb, wyt ti'n gristion IMJ?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 28 Tach 2003 1:22 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ia ond fel dwi'n gweld hi ma gin i yr atebion!


...hynny yw dwi di gweld yr ateb o ni'n feddwl. nid fi YDY'R ateb wrth reswm!!!!! :ofn:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron