Rhys Llwyd a ddywedodd:Ai dyna oedd, hefyd, pwynt sefydlu'r cylch defnyddwyr yma i ti?
Ma Aled mewn class ei hun yn ol yr arfer OND os wyt ti'n cyfri dy hun yn gristion pam bo ti mor 'in to' cwestiynnu cristnogaeth?!
Ahem. Ai fi sydd dan drafodaeth fama ta y rhaglen?
Cofi mai lle i drafod crefydd ydi hwn. Mai tua'r un faint o ein aeoldau ddim yn gristnogion a sydd yn gristnogion. Heb weld unrhyw un o grefydd arall eto, ond mi fysai'n neis os fysan nhw'n cyfrannu.
Ac, Rhys, os nad wyt ti'n fodlon cwestiynnu dy fydd, mi fyswn i'n ti yn gofyn gofyn i ti dy hun os wyt ti'n cyfri dy hun yn gristion. Onid dyna be mae'r capel am i atheists a bobl o grefyddau eraill ei wneud?
'Pam wyt ti yma?' oedd y cwestiwn ar posteri aneffeithiol ond diddorol Undeb Gristnogol Caerdydd. Dyna oedd pwynt sefydlu y cylch yma.