beibl.net

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

beibl.net

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 30 Rhag 2003 12:50 am

a ydych o'r farn y dylid cyhoeddi copiau caled o'r cyfieithiad o'r beibl a chanfir ar http://www.beibl.net ?

mae'n debyg fod y 'beibil gomisiwn' sef y corff (yr unig gorff) sy'n rhoi hawl i gyhoeddi beiblau wedi/mynd i wrthod cyhoeddi cyfieithiad Arfon Jones (beibl.net) oherwydd nad yw'n gyfieithiad dilys.

Yr hyn sy'n ei wneud yn an-nilys mae'n debyg yw'r ffaith nad ydyw wedi ei gyfieithu or hebraeg/groegaidd gwreiddiol. dim ond cyfieithiadau or gwreiddiol sy'n ddilys mae'n debyg.

dwin meddwl tawl lol botes ydy hyn a dylid bwrw ymlaen a chyhoeddi copiau caled o gyfieithiad Arfon Jones oherwydd ei fod yn gyfrwng modern effeithiol o gyflwyno Cristnogaeth eto i Gymru.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Maw 30 Rhag 2003 4:20 pm

Mae angen bod yn ofalus iawn pam yn cyfiaethu'r Beibl neu unrhyw lyfr crefyddol, am ei fod o'n bwysig bod y mwyafrif o gwir bwrpas y geiriau yn cael ei cadw. Ond wn i ddim pam fod y corff sy'n dewis beth sy'n feibl a beth sydd ddim yn gallu bod yn ffysi hefo hwn a gadael i feiblau wedi ei ysgrifennu i grwpiau arbennig, fel Beiblau plant a'r 'cockney bible', sy'n newid y cyfieithiad eithaf lot, gael ei publishio a dim hwn.

Ond dwi i'n deall pam nad ydyn nhw yn rhu barod i publishio eibl Arfon Jones. Dan ni yn gwybod ei fod o'n foi gret sa byth yn ceisio newid neges y Beibl. Ond os publishio hwn mi fysai unrhyw ffwl yn gallu cyfiaethu'r Beibl a gwneud llanast llwyr honi.

Wyt ti'n siwr, Rhys, bod rhai i'r Beibl gael ei gyfiaethu o'r gwreiddiol? Dwi'n siwr i mi fod biau beibl i blant saesneg ar ryw bwynt oedd wedi gymeryd o'r saesneg a'i newid i'w wneud yn fwy dealladwy.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Maw 30 Rhag 2003 4:56 pm

Nath Beibil William Morgan bara 400 mlynedd.
Di'r un newydd ond efo ni ers 15.
I be ma isho un arall?

A ma rhaid bod yn ofalus, does na run llyfr yn cael ei ddyfynnu gymaint na'i ystyr yn cael ei drafod/ddadlau gymaint. Mi all un gair o'i le newid ystyr wbeth yn llwyr a chodi to newydd o ffwntementaliaid.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 30 Rhag 2003 11:57 pm

Aled a ddywedodd:Nath Beibil William Morgan bara 400 mlynedd.
Di'r un newydd ond efo ni ers 15.
I be ma isho un arall?


wel yn anffodus cafodd cyfieithiad 15 mlynedd yn ol ddim ei foderneiddio ddigon, h.y cafodd ei wneud gan bobl oedd 'out of tuch', ma Arfon lot fwy 'in tuch' nag oedd y bobl a gyfieithodd e 15 yn ol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 31 Rhag 2003 12:58 am

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Ond wn i ddim pam fod y corff sy'n dewis beth sy'n feibl a beth sydd ddim yn gallu bod yn ffysi hefo hwn a gadael i feiblau wedi ei ysgrifennu i grwpiau arbennig, fel Beiblau plant a'r 'cockney bible', sy'n newid y cyfieithiad eithaf lot, gael ei publishio a dim hwn.


ma beiblau arbennigol yn wahanol, e.e ma beibl y plant ddim rili yn feibl, gei di ddim darlleniad allan ohono yn capel ar y sul!

os di fersiwn Arfon mynd i gael ei gyhoeddi mae angen iddo fynd trwy y beibl gomiswn er mwyn iddo fod yn ddilys ac o ganlyniad i enwadau gael ei ddefnyddio a ballu.

dwin meddwl taw dynar sgor anyway
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Mer 31 Rhag 2003 3:30 pm

Hwb arall i'r ferswin newydd yma gael ei gyhoeddi fysai i grwpiau o gristnogion ddefnyddio print outs o'r feibl yma mewn cwrdd gweddi, cyfarfodydd ecetra. Gwasgaru'r syniad o feibl newydd ymysg y pobl ifanc, a gweld os ydy nhw'n hapus hefo fo.

A dechrau petition, efallai, i'w yrru i'r rhai sydd i fod i wneud y dewisiad?

Yn y cyfamswer dwi i am ddystio ffwrdd yr hen feibl a cael go bach ar y cyfieithiad newydd 'ma. Dyma fy marn i yn unig, cofiwch...

----------------- BARN IFAN YN UNIG --------------------------------

Pob parch i Wncwl Arfon, mae o wedi creu cyfieithiad go dda, gan wneud y Beibl yn fwy hawdd i'w ddarllen yn sicr. Ond efallai mae dyna lle mae'r broblem fwyaf. Mae o wedi gor-symyleiddio y Beibl rywfaint, a mae'r cyfieithwyr wedi bod yn rhu keen i wneud newidiadau lle nad oes rheswm dros wneud. Mae ffurf bob paragraff yn bwysig yn y Beibl, ac mi all rhoi y pwyslais ar un gair dros y llall gael effaith deargrynol ar sut mae un yn ei ddarllen o. Mi ofynais i fy annwyl fam, a mi drodd o allan bod hi wedi gwneud ychydig o gyfiaethu er mwyn y ferswin yma o'r Beibl. A mae hynna'n dweud y cyfan- cyfieithwraig da, cristnoges, ond nid expert ar y Beibl ydi fy annwyl fam. Ac mi ddylsai Arfon fod wedi gweld y problem gyda publishio'r Beibl yma yn dod. Ychydig o lanast a croesi bysedd, dwi'n meddwl.
Ond dyna ni. Anodd yw cyfiaethu'r Beibl a mae hwn yn gwneud job syfyrdanol o dda. Ond os mae gobaith defnyddio hwn yn lle y beiblau cynt, perffeithrwydd sydd angen, a bydd unrhywbeth llai yn hybu cristnogaeth gwallus.

-----------------------------BARN IFAN YN UNIG----------------------------

Wel, dyna fy dau geiniog. Efallai mae 'first reading syndrome' ydi ei hanner o, a pwy ydw i i ddweud bod yr hen gyfieithiad yn 'berffaith' yn y lle cyntaf? Dw i'n gwybod llai am y Beibl na neb.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 01 Ion 2004 12:12 am

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Hwb arall i'r ferswin newydd yma gael ei gyhoeddi fysai i grwpiau o gristnogion ddefnyddio print outs o'r feibl yma mewn cwrdd gweddi, cyfarfodydd ecetra. Gwasgaru'r syniad o feibl newydd ymysg y pobl ifanc, a gweld os ydy nhw'n hapus hefo fo.


mae hyn yn digwydd i raddau yn barod, yn ystod un o'r cyfarfodydd yng nghynhadledd y mudiad efengylaidd leni (neu ella taw llynedd odd e, sain cofio) fe ddosbarthodd gwraig yr anerchydd (nid anarchydd!) y noson honno gopiau o'r darlleniad oedd ei gwr hi'n ei ddarllen allan i'r bobl ifanc/plant, ond wrth gwrs yr hen gyfieithiad oedd ei gwr hi'n darllen ond fe ddosbarthwyd y cyfieithiad beibl.net i ifanc.

enghraifft arall oedd fy erthygl ddiweddar i i'r cylchgrawn efengylaidd, fe ddefnyddiais i ddyfyniadau o beibl.net, hyd y gwn i (dwi ddim 100% siwr, ond dwin darllen y rhanfwyaf o rifynnau ers 2/3 blwyddyn) fi dir unig un erioed i neud. ymateb fy rhieni pan welsant yr erthygl oedd "rhys, fedri di ddim arallgyfeirio'r beibl!" h.y doedden nhw ddim yn sylwi mae wedi defnyddio beibl.net oeddwn ni, o nwn meddwl mae fi oedd di ei aralleirio ar liwt fy hun!!!!!!

Pob parch i Wncwl Arfon, mae o wedi creu cyfieithiad go dda, gan wneud y Beibl yn fwy hawdd i'w ddarllen yn sicr. Ond efallai mae dyna lle mae'r broblem fwyaf. Mae o wedi gor-symyleiddio y Beibl rywfaint, a mae'r cyfieithwyr wedi bod yn rhu keen i wneud newidiadau lle nad oes rheswm dros wneud.


ti'n iawn ma rhaid bod yn ofalus, ond dwi'n ymddiried mae ewyllus Duw ydy hi i Arfon weithio ar y prosiect yma. os mae ewyllys Duw ydy hi i'r gwaith yma gael ei gyhoeddu yna GAIR Duw ydy yn ogystal.

Cofia hefyd y cafodd y run ddadl i ddefnyddio yn erbyn William Morgan yn 1588! h.y pobl yn amheus o adael y Hebraeg gwreiddiol - does neb erbyn heddiw yn cwestiynu William Morgan!

gwn hefyd fod Arfon actully moyn neud mwy o newid nag sydd wedi ei wneud OND fe dynodd y powers that be (h.y y bobl sy'n ariannu'r prosiect ac wedi comiwsiynnu Arfon at y gwaith) y linell yn gynt nag y lice Arfon fod wedi neud. ond ma Arfon yn pwysleisio mae eisiau newid mwy ar yr iaith odd e, dim byd arall.

Mi ofynais i fy annwyl fam, a mi drodd o allan bod hi wedi gwneud ychydig o gyfiaethu er mwyn y ferswin yma o'r Beibl. A mae hynna'n dweud y cyfan- cyfieithwraig da, cristnoges, ond nid expert ar y Beibl ydi fy annwyl fam.


mae llawer o bobl wedi bod yn gweithio ar y prosiect, ond Arfon ydy'r pen bandit fel petai!

Ac mi ddylsai Arfon fod wedi gweld y problem gyda publishio'r Beibl yma yn dod. Ychydig o lanast a croesi bysedd, dwi'n meddwl.


Paid am dyfynnu or hyn a ddywedais am y beibl gomisiwn oherwydd feu clywais gan ffrind i mi sydd ai dad yn gweithio i'r beibl gomisiwn - nid Arfon na neb sy'n gweithio ar brosiect beibl.net sydd wedi dweud hyn wrthai. Wn i ddim beth yw dymuniad/bwriad Arfon ynghlyn a chyhoeddu copiau caled.

O adnabod Arfon sw ni'n dychmygu fydda fo'n fwy keen i ddefnyddio y beibl.net fel rhwbeth fwy 'underground' ar y we a doji print outs a ballu yn hytrach na chyhoeddiaid swyddogol.

Ond dyna ni. Anodd yw cyfiaethu'r Beibl a mae hwn yn gwneud job syfyrdanol o dda.


fel byddai Arfon yn nodi ar ddiwedd ei e-bist ar ol bod yn trafod beibl.net...

"Ymlaen a'r Chwyldro!"
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Macsen » Iau 01 Ion 2004 3:11 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:ma Arfon yn pwysleisio mae eisiau newid mwy ar yr iaith odd e, dim byd arall.


Ond dyna'r broblem. Sut mae newid y Beibl heb i'ch syniadau a'ch diddordebau chi dreiddio mewn i'r fersiwn newydd rhywfaint? Mae strwythyr geiriau, beth sy'n cael ei bwysleisio, ac yn y blaen, yn bwysig dros ben. Yn y fersiwn Beibl.net, dwi'n gweld bod Arfon wedi ceisio symyleiddio bob adnod lawr i roi pwyslais ar beth sydd mwyaf pwysig o fewn yr adnod. Ond ai y pethau sy'n bwysig i Arfon o fewn yr adnod sy'n bwysig i eraill?

Am unwaith dwi'n cytuno a'r 'powers that be'. Sdi'm lle i or-botchan gyda'r Beibl.

Rhys Llwyd a ddywedodd:O adnabod Arfon sw ni'n dychmygu fydda fo'n fwy keen i ddefnyddio y beibl.net fel rhwbeth fwy 'underground' ar y we a doji print outs a ballu yn hytrach na chyhoeddiaid swyddogol.


O'i nabod o, mi fyswn i'n cytuno.

"Ymlaen a'r Chwyldro!"


Dechrau y Cwl-Cymru Cristion? Wel, ymlaen a'r gad...
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Leusa » Iau 01 Ion 2004 9:28 pm

pach, sdim angen moderneiddio'r Beibl. Ddylsa fo di'w gadw fel y cafodd ei gyfieithu i ddechra. Viva la glyn cysgod angau !
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 04 Ion 2004 12:40 am

newydd ffeinio hwn ar beibl.net

beibl.net a ddywedodd:Dehongliad?

Mae elfen o ddehongli ym mhob cyfieithu. Mae'r cyfieithydd yn ceisio deall yr hyn a ddywedir yn yr iaith wreiddiol cyn mynd ati i geisio mynegi'r un ystyr yn yr iaith mae'n cyfieithu iddi. Er mwyn ceisio gwneud yr aralleiriad yn syml ac yn ddarllenadwy mae elfen gryf o ddehongli yma ac acw yn yr aralleiriad hwn. Mae amwysedd yn y gwreiddiol o bryd i'w gilydd, ac yn hytrach na cheisio cadw'r amwysedd hwnnw, dewiswyd yr ystyr mwyaf tebygol ym marn y cyfieithydd. Mewn rhai mannau mae ansicrwydd ac anghytundeb mawr ynglŷn a'r cyd-destun gwreiddiol a'r ystyr (e.e. 1 Corinthiaid 11:2-16). Eto yn yr achos hwn dewiswyd dilyn yr ystyr mwyaf tebygol ym marn y cyfieithydd. Cydnabyddir mai hyn a wnaethpwyd, a derbynir pob cyfrifoldeb am unrhyw wendidau yn y gwaith o ganlyniad i hynny.

Ceiswyd edrych i ddau gyfeiriad i sicrhau fod yr aralleiriad yn gywir ac yn ddarllenadwy:

1. Ystyriwyd y testun gwreiddiol yn ofalus, a cheiswyd deall yr hyn oedd yn cael ei ddweud a darganfod beth oedd ystyr hynny.
2. Ceisiwyd cadw golwg gyson ar sicrhau fod yr aralleiriad yn syml, yn ddarllenadwy ac yn ddealladwy - mewn iaith bob dydd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai