Tudalen 1 o 2

Mwslemiaid a Christnogion- Addoli'r Un Duw?

PostioPostiwyd: Maw 30 Rhag 2003 7:35 pm
gan Macsen
Os mae Duw y Beibl, Abraham a Issac a ballu yn bod, credaf bod mwslemiaid a cristnogion yn addoli'r un Duw. Nid Duw ar wahan ydi Allah, ond Duw mewn iaith gwahanol.

Er bod mwslemiaid wedi cael lot o 'bad press' yn ddiweddar, pregethu yr un neges a'r Beibl mae'r Quran. Mae o hyd yn oed yn cydnabod fod Iesu wedi ei yrru i'r byd gan Dduw, a'r unig reswm nad ydi Mwslemiaid yn ei addoli fel mae nhw Duw ydi am ei fod yn dweud yn glir yn y Beibl a'r Quran na ddylid addoli neb ond Duw. Mae'r Quran yn llawn o'r un storiau a'r Beibl, ond wedi ei rhestru gan themau yn lle mewn cronological order.

Felly; Duw gwahanol yn gyfangwbwl, ynteu ffordd gwahanol o addoli'r un Duw?

PostioPostiwyd: Mer 31 Rhag 2003 12:48 am
gan Rhys Llwyd
be sw ni'n ddeud ydy fod Mwslemiad yn credu mewn hanner or gwir OND wrth gwrs dydy'r waredigaeth ddim yn gyflawn heb y ddau hanner felly dydy credu hanner ohono werth dim byd.

ma credu peth or efnegyl ond ddim yn credu yn y bit "GORFFENWYD" fel boddi wrth ymyl y lan mewn gwirionedd.

PostioPostiwyd: Mer 31 Rhag 2003 3:24 pm
gan Macsen
Ond ydi hanner y gwir yn ddigon i Dduw ei derbyn nhw i'r nefoedd? Cofia bod Mwslemiaid yr un mor sicr mae nhw sydd yn dilyn y gwir a cristnogion. Bosib bod Duw wedi bod mor hael a derbyn unrhyw un sydd yn a) ei garu fo a b) yn fodlon rhoi ei amser a'i mwynhad tuag at ei wasanaethu.
Mae Sufis (cangen o fwslemiaeth) yn credu mewn cariad pur tuag at Dduw, heb obaith am nefoedd na poeni am uffern. Posib dweud bod y rhain ddim angen Iesu fel golau i'w arwain at Dduw, ond yn deall beth sydd yn bwysig o'r cychwyn?
Mae y mwslemiaid yn credu mae negesydd oedd Iesu, fel Mohammed ar ei ol. Os bo nhw wedi derbyn neges Iesu, ydi o'n bwysig os nad ydi nhw'n ei addoli? Oes rhaid dilyn ryw fath o five-step plan i gyraedd Duw, pam bod Iesu wedi dweud yn glir bod y lliain rhwng ni a Duw wedi ei rwygo ar ddydd ei farwolaeth?

PostioPostiwyd: Mer 31 Rhag 2003 3:44 pm
gan Hogyn o Rachub
Dw i'n dueddol o feddwl fod Allah a'n Duw ni yr un blôc yn y bôn. Yr un syniad di o i gyd, yn y pen draw.

PostioPostiwyd: Iau 01 Ion 2004 12:17 am
gan Rhys Llwyd
geiriau cyntaf y beibl, ein un ni, y mwsleimiaid (mae'n debyg) ar iddew ydy...

"ar y dechrau yr oedd y gair, y gair oedd gyda duw a duw oedd y gair"

FELLY

mae'r beibl yn dechre bant gyda son am Iesu Grist ein gwaredwr, dyna ydy hanfod cristnogaeth, nid neges yn unig y daeth Iesu i'n byd!

roedd y gair yna ar y dechrau, fe ddaeth y gair atom ni a duw oedd y gair, hynny yw roedd y gair YN dduw, felly dylid ei addoli!

PostioPostiwyd: Iau 01 Ion 2004 3:16 pm
gan Macsen
Ie, ond mae bob pregethwr hefyd yn ailadrodd gair Duw. Ddylsa fi addoli Dafydd Job? Cario neges oedd Iesu. Yn ol Duw ddylsem ni addoli neb ond efe, felly pam addoli'r negesydd? Duw ydi'r gair, nid y boi sy'n dod a'r gair i ni.

Yn yr un ffordd mae Mwslemiaid yn derbyn Muhammed a Iesu fel rhai a ddaeth i roi'r gair i ni, ond dim nhw ydi'r gair. Duw ydi'r gair, felly mae nhw'n addoli Duw.

PostioPostiwyd: Gwe 02 Ion 2004 1:41 pm
gan Rhys Llwyd
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Ie, ond mae bob pregethwr hefyd yn ailadrodd gair Duw. Ddylsa fi addoli Dafydd Job?


wrth gwrs ddim y lembo!

Cario neges oedd Iesu.


naci, iesuo OEDD y neges

Yn ol Duw ddylsem ni addoli neb ond efe, felly pam addoli'r negesydd? Duw ydi'r gair, nid y boi sy'n dod a'r gair i ni.


mae Iesu yn dduw, y tri yn un and all that

Yn yr un ffordd mae Mwslemiaid yn derbyn Muhammed a Iesu fel rhai a ddaeth i roi'r gair i ni, ond dim nhw ydi'r gair. Duw ydi'r gair, felly mae nhw'n addoli Duw.


ond yn gwadu ei fod wedi dod lawr ir ddaear

PostioPostiwyd: Sad 03 Ion 2004 4:16 pm
gan Macsen
Rhys Llwyd a ddywedodd:ond yn gwadu ei fod wedi dod lawr ir ddaear


Mae cristnogion i weld eisiau ei chael hi'r ddau ffordd hefo'r hen Mr. Grist.
Ar yr un llaw mae cristnogion yn dweud mae Duw oedd Iesu wedi dod lawr i'r ddear, ac ar y llaw arall yn dweud bod Duw wedi aberthu ei fab. Hyd yn oed as all Duw yruu fo'i hun lawr i'r ddear a'i alw'n fab- sut all wedyn ei alw'n aberth? Aberthu be?

Rhys Llwyd a ddywedodd:naci, iesuo OEDD y neges


Ychydig fel theory Marshall McLuhan, felly?

PostioPostiwyd: Sad 03 Ion 2004 11:50 pm
gan Rhys Llwyd
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:ond yn gwadu ei fod wedi dod lawr ir ddaear


Mae cristnogion i weld eisiau ei chael hi'r ddau ffordd hefo'r hen Mr. Grist.
Ar yr un llaw mae cristnogion yn dweud mae Duw oedd Iesu wedi dod lawr i'r ddear, ac ar y llaw arall yn dweud bod Duw wedi aberthu ei fab. Hyd yn oed as all Duw yruu fo'i hun lawr i'r ddear a'i alw'n fab- sut all wedyn ei alw'n aberth? Aberthu be?

Rhys Llwyd a ddywedodd:naci, iesuo OEDD y neges


Ychydig fel theory Marshall McLuhan, felly?


be odd hwnW?

PostioPostiwyd: Sad 03 Ion 2004 11:58 pm
gan Macsen
Marshall McLuhan: "The medium is the message."