Mae cyfraniad IMJ uchod yn berwi lawr i'w gwestiwn olaf:
Pa dystiolaeth yn union mae cristnogaeth wedi ei seilio arno?
ac fel sydd wedi ei ddweud, mae e wedi ei seilio ar y ffaith y bu i Iesu atgyfodi ar y trydydd dydd.
Fel dogfen hanesyddol mae'n anodd iawn dadlau yn erbyn y Testament Newydd. Cafodd y rhan helaethaf ohon ei sgwennu yn y cyfnod yr oedd cyfoedion Iesu yn dal i fyw, ac ymerodraeth Rufeinig yn rheoli. Pe na byddai'n gywir ni fyddai wedi goroesi ugain mlynedd, heb son am hyd heddiw. Yn ogystal byddai gymaint o ddogfennau eraill yn dadlau yn hollol resymegol sut nad ydyw'n gywir, fel na fyddai wedi dal unrhyw 'credibility'.
Mae'n rhaid derbyn hefyd fod Cristnogaeth rhywun yn dibynnu ar eu ffydd hwy. Pan nad yw rhywun yn deall y ffydd yma, yna mae'n anodd iawn gweld o lle y mae'r person yn dod o ac empatheiso a'r ffydd hwnnw.
I'r rhai hynny sydd yn agnostig, beth am jyst treial derbyn fod yna fod Hollbwerus na allwn ni amgyffred ag yn llwyr, ac yn lle ateb cwestiynnau rhethregol bach, ceisio newid y pethau y gallwn ni newid yn enw daioni?
Fi o ddifri fan hyn - hynny yw, jyst treial y peth fel arbrawf er mwyn gweld beth fydd eich agweddau yn y cyfnod yma.
Nawr dyw hyn ddim yn dadlau mewn unrhyw ffordd mae dyma sut mae Cristion yn byw bywyd. Wrth gwrs mae'n beth iach i gwestiynnu eich ffydd.
O ran Cristnogion hwyr. Os yw rhywun yn hollol ddidwyll ac yn wirioneddol dderbyn mai Crist yw eu Arglwydd a'u bod yn bechadur ac yn gofyn am faddeuant, yna mae lle iddyn nhw lan lofft. Os nad yw rhywun erioed wedi clywed am Grist, fel fi wedi gweud mewn edefyn arall, alla i ddim gweld siwd bydde nhw'n cael eu barnu am rwbeth y tu hwnt iw rheolaeth.
Wedi dweud hynny, pwy ydw i i weud siwd ma Duw am farnu - Fe, a Fe yn unig sydd a'r gallu i farnu, a dyw e ddim lan i fi i ddweud fod rhywun am fynd i uffern.