Cristnogion Hwyr

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cardi Bach » Gwe 16 Ion 2004 12:45 pm

Mae cyfraniad IMJ uchod yn berwi lawr i'w gwestiwn olaf:
Pa dystiolaeth yn union mae cristnogaeth wedi ei seilio arno?

ac fel sydd wedi ei ddweud, mae e wedi ei seilio ar y ffaith y bu i Iesu atgyfodi ar y trydydd dydd.

Fel dogfen hanesyddol mae'n anodd iawn dadlau yn erbyn y Testament Newydd. Cafodd y rhan helaethaf ohon ei sgwennu yn y cyfnod yr oedd cyfoedion Iesu yn dal i fyw, ac ymerodraeth Rufeinig yn rheoli. Pe na byddai'n gywir ni fyddai wedi goroesi ugain mlynedd, heb son am hyd heddiw. Yn ogystal byddai gymaint o ddogfennau eraill yn dadlau yn hollol resymegol sut nad ydyw'n gywir, fel na fyddai wedi dal unrhyw 'credibility'.

Mae'n rhaid derbyn hefyd fod Cristnogaeth rhywun yn dibynnu ar eu ffydd hwy. Pan nad yw rhywun yn deall y ffydd yma, yna mae'n anodd iawn gweld o lle y mae'r person yn dod o ac empatheiso a'r ffydd hwnnw.

I'r rhai hynny sydd yn agnostig, beth am jyst treial derbyn fod yna fod Hollbwerus na allwn ni amgyffred ag yn llwyr, ac yn lle ateb cwestiynnau rhethregol bach, ceisio newid y pethau y gallwn ni newid yn enw daioni?
Fi o ddifri fan hyn - hynny yw, jyst treial y peth fel arbrawf er mwyn gweld beth fydd eich agweddau yn y cyfnod yma.

Nawr dyw hyn ddim yn dadlau mewn unrhyw ffordd mae dyma sut mae Cristion yn byw bywyd. Wrth gwrs mae'n beth iach i gwestiynnu eich ffydd.

O ran Cristnogion hwyr. Os yw rhywun yn hollol ddidwyll ac yn wirioneddol dderbyn mai Crist yw eu Arglwydd a'u bod yn bechadur ac yn gofyn am faddeuant, yna mae lle iddyn nhw lan lofft. Os nad yw rhywun erioed wedi clywed am Grist, fel fi wedi gweud mewn edefyn arall, alla i ddim gweld siwd bydde nhw'n cael eu barnu am rwbeth y tu hwnt iw rheolaeth.

Wedi dweud hynny, pwy ydw i i weud siwd ma Duw am farnu - Fe, a Fe yn unig sydd a'r gallu i farnu, a dyw e ddim lan i fi i ddweud fod rhywun am fynd i uffern.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Macsen » Gwe 16 Ion 2004 2:02 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Fel dogfen hanesyddol mae'n anodd iawn dadlau yn erbyn y Testament Newydd. Cafodd y rhan helaethaf ohon ei sgwennu yn y cyfnod yr oedd cyfoedion Iesu yn dal i fyw, ac ymerodraeth Rufeinig yn rheoli. Pe na byddai'n gywir ni fyddai wedi goroesi ugain mlynedd, heb son am hyd heddiw. Yn ogystal byddai gymaint o ddogfennau eraill yn dadlau yn hollol resymegol sut nad ydyw'n gywir, fel na fyddai wedi dal unrhyw 'credibility'.


Dw i ddim yn gweld sut all faint mae'r Beibl wedi ei barau fod yn dystiolaeth ei fod o'n gywir. Mae'r Quran wedi parhau bron yr un faint o amser, ac nid cywir mo hwnw yn ol barn y cristion. Mi gafodd y rhan helaeth o'r testament newydd ei ysgrifenu tra bod Iesu yn fyw, ond dyw hynny ddim yn dweud llawer chwaith- mae'r testament newydd yn rhoi darlun perffaith sy'n digwydd ffitio i mewn gyda'r disgrifiadau o Iesu yn yr hen destament. Pam mor barod oedd dilynwyr Iesu i brofi i bawb mae Iesu oedd y Meseiah? Yn amwlg, nid tystiolaeth hollol niwtral mohono. Mae'n amlwg bod newidiadau yn y gwirionedd am nad yw'r disgyblion yn cytuno ar rai rhannau o fywyd Iesu. Does dim modd dweud hyd yn oed os mae'r disgyblion ysgrifenodd y Testament Newydd; sylwer ar sut mae Mathew yn cyferio at ef ei hun yn y trydydd person, er engraifft. Ac yn a mae Paul yn ymddangos ac yn ailysgrifennu rhannau o'r Beibl, a creu rhyfel rhwngdda fo a disgyblion Iesu. Mae Paul yn gwneud y Beibl yn fwy pro-rhufeiniaid a gwrth-semitic. Sylwer ar sut mae Pilate yn gofyn i'r Iddewon os ddylsai Iesu gael ei groeshoilio. Tebygolrwydd y buasai hyn wedi digwydd go iawn? Anhebygol. Roedd y rhufeiniaid am ladd Iesu, a'i ladd o'n gyflym. Adio at hyn i gyd yr holl ail ysgrifennu wrth law, ac ail ddweud drwy siarad, heb son am yr holl gyfieithiadau, a mae gwiriondeb y Testament Newydd yn dechrau edrych yn doji dros ben.
Galw hyn yn nitpickio os wyt ti am wneud hynny, ond os fysai gwyddonwyr yn troi lan gyda tystiolaeth mor wan fod Iesu ddim yn fab i Dduw, mi fysai cristnogion yn chwerthin.

Cardi Bach a ddywedodd:I'r rhai hynny sydd yn agnostig, beth am jyst treial derbyn fod yna fod Hollbwerus na allwn ni amgyffred ag yn llwyr, ac yn lle ateb cwestiynnau rhethregol bach, ceisio newid y pethau y gallwn ni newid yn enw daioni?


Tydw i ddim yn dweud bod dim Duw hollbwerus. Dw i ddim yn credu all neb ddweud hynny gyda sicrwydd. Ond does dim posib dweud gyda sicrwydd hollol bod Duw chwaith, os nad wyt ti'n dod wyneb i wyneb a fo ryw ddydd. Mi esi drwy gyfnod yn fy mywyd pam oeddwn i'n credu yn hollol fod yna Dduw hollbwerus, ond rwan dwi'n deall faint dydw i ddim yn gwybod am y byd, felly tydw i ddim yn gallu bod yn hollol sicr fy mod i'n gallu dweud unrhywbeth a sicrwydd pendant. Mae angen bod yn sceptical am bob dim na allai ei weld a'r llygad.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 16 Ion 2004 2:43 pm

Cardi Bach a ddywedodd:I'r rhai hynny sydd yn agnostig, beth am jyst treial derbyn fod yna fod Hollbwerus na allwn ni amgyffred ag yn llwyr, ac yn lle ateb cwestiynnau rhethregol bach, ceisio newid y pethau y gallwn ni newid yn enw daioni?


Os fase rhaid i mi grynhoi lle dwi'n sefyll yn grefyddol ar hyn o bryd, mi faswn i'n deud fy mod i'n derbyn fod yna bwer holl-bwerus sydd y tu hwnt i ddirniadaeth dyn yn gyrru'r cread a bywyd a fod popeth sydd o'n cwmpas ni yn ran o un 'cyfan', os di hynne'n gneud synnwyr. Mi glywais rywyn ar ryw raglen radio rywdro (fel chi'n gweld dwi'm yn cofio'n iawn!) a mi roddod grynhoad o'i gred o mewn Duw fel 'a respect for and a belief in things that are beyond human comprehension', h.y neith dyn byth ddeall yn iawn sydd y ffurfiwyd y bydysawd na be sy'n gyrru bywyd a Duw yw'r peth hwn, a mae hyn yn eitha crynhoi sut dwi'n gweld pethe. Am y rheswm yma rydw i'n gwrthwynebu chwarae o gwmpas efo genynnau i greu cnydau GM ac ati; ma na bethe na all hyd yn oed y gwyddonydd blaenaf ei wybod a gwae ni os ydan ni'n chwarae efo nhw.

Yn yr un modd dwi'n gredwr mawr mewn 'car dy gymydog' sydd i mi yn egwyddor sylfaenol o sut i fyw bywyd, ond nid jest am ei fod o'n ei ddeud o'n y beibl neu am ei fod o'n mynd a fi yn nes i'r nefoedd ond oherwydd fod byw fel hyn nid yn unig bywyd fy nghymydog yn well ond, yn bwysicach fyth, fy mywyd i yn hapusach achos mod i'n gwbod o brofiad fod casineb yn niweidio'r sawl sy'n casu yn llawer mwy na mae o'n niwedio y sawl sy'n cael ei gasau.

OND, fedra i ddim meddwl fod yna 'berson' fyny fanne rywle sydd yn meddwl drosto'i hun ac yn gneud penderfyniade, a chan fod y syniad o Dduw sy'n meddwl yn ganolog i Gristnogion a chrefyddau eraill tydw i ddim yn teimlo y gallai fyth alw fy hun yn un ohonyn nhw. Dwi'n teueddu i edrych ar Gristnogaeth fel dwi'n edrych ar eidioleg wleidyddol, wedi'w chreu gan ddynion er eu lles eu hunain, unai er mwyn cysur neu yn fwy tebygol i gyfiawnhau eu pwer neu eu credododau gwleidyddol eraill. A does na ddim yr ydw i wedi'w glywed naill ai yn y capel, nag ei ddarllen yn y Beibl (na Maes-e!) wedi gallu f'argyhoeddi'n wahanol eto.

Ew, am rant! Diolch am ddarllen os ydach chi dal yma!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Llun 19 Ion 2004 1:07 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Fel dogfen hanesyddol mae'n anodd iawn dadlau yn erbyn y Testament Newydd. Cafodd y rhan helaethaf ohon ei sgwennu yn y cyfnod yr oedd cyfoedion Iesu yn dal i fyw, ac ymerodraeth Rufeinig yn rheoli. Pe na byddai'n gywir ni fyddai wedi goroesi ugain mlynedd, heb son am hyd heddiw. Yn ogystal byddai gymaint o ddogfennau eraill yn dadlau yn hollol resymegol sut nad ydyw'n gywir, fel na fyddai wedi dal unrhyw 'credibility'.


Dw i ddim yn credu mewn credu unrhywbeth heb edrych mewn i'r mater yn bersonol. Dw i ddim yn poeni faint o bobl sy'n dweud wrtha fi fod y peth yna'n gywir, os bod llyfr sydd wedi bod mewn bydolaeth am filoedd o flynyddoedd yn dweud wrtha fi, mi wna i ddim dibynnu ar bobl eraill i ddewis be sy'n wirionedd a beth sydd ddim.

Cardi Bach a ddywedodd:Mae'n rhaid derbyn hefyd fod Cristnogaeth rhywun yn dibynnu ar eu ffydd hwy. Pan nad yw rhywun yn deall y ffydd yma, yna mae'n anodd iawn gweld o lle y mae'r person yn dod o ac empatheiso a'r ffydd hwnnw.


Mae angen i'r cristion ddeall pam nad ydi o/hi yn addoli duwiau eraill. Pethau gwirion, yntydi? Dim tystiolaeth cadarn drostyn nhw. Pobl yn gwneud pethau od fel sydd ddim yn gwneud synnwyr. Os wyt ti'n deall pam dwyt ti ddim yn addoli duwiau eraill, mi rwyt ti'n deall pam nad ydw i yn addoli dy dduw di.

Cardi Bach a ddywedodd: Fe, a Fe yn unig sydd a'r gallu i farnu, a dyw e ddim lan i fi i ddweud fod rhywun am fynd i uffern.


Wel, os mae Duw wir am i fi fynd i uffern, pwy ydw i i ddadlau hefo fo?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Mer 21 Ion 2004 10:24 am

Wedi bod yn medwl am hyn dros y dyddie dwetha, ac os dwi di dallt yn iawn ma Cristnogion yn credu y canlynol:

Mi all person fyw bywyd da (er nid di-bechod wrth gwrs, ma hynny'n amhosib) yn helpu eraill, yn caru ei gymydog, byth yn dwyn, lladd na godinebu, yn rhoi ei arian i gyd i elusennau, yn gweithio i helpu tlodion ac anffodusion y byd a phob math o bethau eraill. Ond os nad ydi o'n credu fod Iesu Grist wedi marw dros ei bechodau ar y groes, BANG, ma'n mynd i uffern. :(
Mi allith person arall fyw ei fywyd mewn ffordd gwbl hunanol, yn meddwl dim am eraill, yn gwastraffu ei bres ar geir a thai crand, mi allith o ladd, lladrata, treisio a dwyn faint licith o, gwario'i bres ar buteiniaid os dio isho. Cyn belled ai'i fod o'n genud hyn tra'n credu fod Iesu Grist wedi marw dros ei bechodau ar y groes, mae o'n mynd i'r nefoedd. :?

Ydw i'n iawn? plis Gristnogion, dudwch mod i'n rong!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cardi Bach » Mer 21 Ion 2004 10:46 am

Aled a ddywedodd:Wedi bod yn medwl am hyn dros y dyddie dwetha, ac os dwi di dallt yn iawn ma Cristnogion yn credu y canlynol:

Mi all person fyw bywyd da (er nid di-bechod wrth gwrs, ma hynny'n amhosib) yn helpu eraill, yn caru ei gymydog, byth yn dwyn, lladd na godinebu, yn rhoi ei arian i gyd i elusennau, yn gweithio i helpu tlodion ac anffodusion y byd a phob math o bethau eraill. Ond os nad ydi o'n credu fod Iesu Grist wedi marw dros ei bechodau ar y groes, BANG, ma'n mynd i uffern. :(
Mi allith person arall fyw ei fywyd mewn ffordd gwbl hunanol, yn meddwl dim am eraill, yn gwastraffu ei bres ar geir a thai crand, mi allith o ladd, lladrata, treisio a dwyn faint licith o, gwario'i bres ar buteiniaid os dio isho. Cyn belled ai'i fod o'n genud hyn tra'n credu fod Iesu Grist wedi marw dros ei bechodau ar y groes, mae o'n mynd i'r nefoedd. :?

Ydw i'n iawn? plis Gristnogion, dudwch mod i'n rong!


wy o'r farn dy fo ti'n rong :D

I ddechre gyda'th ail bwynt - os yw person wirioneddol yn derbyn fod Crist wedi marw ar y Groes dros ei bechode, ac felly yn derbyn Crist, yna ni fyddai'n arwen ei fywyd mewn ffordd gwbwl hunanol. Ond mae yna bobol (megis George W Bush) sy'n honni eu bod nhw wedi derbyn hyn am Grist ond yn arwen eu bywyde yn hollol groes i ganllawiau Iesu (yr unig reol y bui i Iesu ei hun draddodi oedd 'Car dy gymydog'). Ma'r bobol yma (fel Bush) am gal sioc ar eu tinne pan fyddan nhw'n ymadel a'r byd hon.

Ond gyda'th enhraifft gynta, mae yna drafferth fel sydd wedi cael ei drafod eisioes. Wy ddim yn gwbod, ond alla i ddim credu y bydde y Bod Mawr yn danfon person sy'n sy;faenol dda ac yn arwain bywyd 'Cristnogol' i uffern er nad yw'r person hwnnw/honno erioed wedi cael ei g/chyflwyno i Grist. Falle fod y person yna yn clywed llais Duw, ac yn ateb iw alwadau ond yn methu dirnad mai llais Duw yw e.

Gall person gal ei gyflwyno i Grist ond yna penderfynnu mynd yn erbyn Cristnogaeth am ei fod yn cael ei ddadrithio trwy weld 'Cristnogion' honedig yn rhyfela ac yn gwneud drygioni. Mae'r bai yma yn cwympo ar y Cristnogion honedig, ac eto, alla i ddim credu fod Duw am gosbi'r diniwed.

Ond, i adnabod Crist does dim diogi - hynny yw, os yw rhywun wirioneddol am ddod i adnabod a deall Crist, yna mae'n rhaid bod yn barod i astudio a darllen a gwithio i ddo iw adnabod. Ar ol hynny dylai'r person yma fod mewn sefyllfa itha da i adnabod y 'gai-Gristnogion' a'r gwir-Gristnogion, a thrwy hynny adnabod Crist.

odw i'n neud unrhyw sens?
Wy ddim yn awdurdod o gwbwl ar y testun, ac yn barod i gal yng nghywiro. Falle fod erell yn anghytuno'n llwyr a beth wy'n weud, ond dysgu odw inne fyd :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai