Aled Owen a ddywedodd:Mae Duw yn hollbwerus ar syndod mawr ydi bod Duw heb ddinistrio'r byd ac anfon pawb i uffern amser maith yn ol. Gras Duw ydi bod genom ni y amser i drafod ar criw Duw.
Wela i ddim pam fod Duw yn haeddu gymaint o'n clod ni os mae o am greu dynoliaeth pechadurus a gwael ac yna ein cosbi ni am fod fel y mae o wedi ein creu ni. Os ydi Duw yn hollbwerus mae o hefyd yn gwybod y dyfodol, ac felly yn gwybod bod dyn yn mynd i bechu.
(A pam fod Duw eisiau clod yn y lle cyntaf? Onid ydyw yn berffaith fel y mae? Onid ydyw wedi dysgu ni yn y Beibl i fod yn modest- felly pam fod o eisiau ein clod ni? Mi greodd ni er mwyn ei ddifyrwch ef ei hun, a felly y gorau gallem ni ei wneud ydy i fyw ein bywydau a'i ddifyru.)
Mae’r ffaith bod Duw yn dewis a dethol pa bobl sy’n dewis dod yn gristnogion yn gwneud uffern yn fwy anheg byth. Oes gennym ni wir ddewis rhydd, ‘free will’, os bo Duw wedi ein creu ni yn gwybod yn iawn os ydym ni am farw yn gristnogion ai peidio?
A dw i wedi blino ychydig ar y hen ymateb 'dan ni ddim yn gwybod pam wnaeth Duw hyn a hyn'. Yn syml, mae dadl cristnogion dros y Beibl yn hollol cyclical: 'Mae'r Beibl yn wir am ei fod o'n dweud yn y Beibl ei fod o'n wir am ei fod o'n dweud yn y Beibl ei fod o'n wir....' ac ymlaen am byth. Nid yw hwn yn ddadl da iawn yn y bon.
Mae rhai yn ceisio dadlau bod y Beibl yn wir am fod hanes yn cytuno ag ef ar rai dyddiadau. Sut bo hynny yn dangos bod Duw y Beibl yn wir? Rydym ni'n gwybod bod y Rhufeiniaid yn hanesyddol ond dyw hynny ddim yn meddwl bod duw rhyfel Mawrth yn bodoli.
Dewis peidio meddwl mae llawer o gristnogion mewn gwirionedd; dewis cilio mewn ogof saff ei dychymyg yn lle ceisio deall y bydysawd yn y ffordd y dylid ei gwneud. Os bo Duw yn bydoli, dwi'n siwr ei fod o am i ni wneud y gorau o'n cyrff, yn cynnwys yr ymenydd.
Na, tydi gwyddoniaeth ddim yn gwybod bob dim, ond dwi yn meddwl bod posib dibynnu ar wyddoniaeth yn fwy na llyfr wedi ei sygrifennu dau fileniwm yn ol a mwy, llawn y tyllau yna a elwir 'dan ni ddim yn gwybod pam wnaeth Duw hyn', ac yn dybynnu ar gofnodau hanner dwsin o bobol doedd ddim hyn yn oed yn cytuno a'i gilydd ar amryw o bwyntiau.
'Ond mae gennym ni ffydd!' yw cri y cristion. 'Dan ni'n gwybod bod Duw yn bod yn ein calon!' Wel, mae'r Mwslim, Hindw, a Hogyn o Rachub a'r union yr un sicrwydd yn ei calon bod ei duwiau nhw'n wir hefyd. Oes lle yn y nefoedd i fwy nag un Duw? Ta efallai bod y teimlad yn y galon yna sy'n dweud bod yna dduw wir yn ran o'n ymenydd ni sydd am ddarganfod sicrwydd mewn bydysawd mawr a dychrynllyd.
Yn syml, dw I erioed wedi clywed dadl gan Gristion sy’n medru esbonio’r pwyntiau uchod, heb orffen drwy ddweud bod gwir bwrpas Duw yn y mater yn gudd. Tydi hwn ddim yn unrhyw fath o ddadl, o gwbwl. Pa dystiolaeth yn union mae cristnogaeth wedi ei seilio arno?
Dim ymosod ar gristnogion ydw I, ond yn rhoi sialens; mi fyswn I’n ddigon parod I gredu yn Duw cristnogaeth os y buasai un cristion yn medru ateb fy nghwestiynau am pam yn union eich bod chi’n credu ynddo? Dw I wedi edrych yn hir, a does yr un cristion wedi medru ateb. Felly pam yn union ei bod nhw’n credu yn y Beibl? Go debyg bod o leiaf un cristion wedi seilio ei ffydd ar unrhyw fath o wybodaeth cadarn di-dyllog?